Dyma Charles Whitmore, cydlynydd Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru, yn myfyrio ar ymweliad gan Bwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop â Chaerdydd, rhan o’r gwaith ar gryfhau cysylltiadau ieuenctid â’r DU.
Mae safbwynt mudiadau yng Nghymru ar faterion Ewropeaidd wedi bod yn un arbennig ers tro byd, yn rhannol oherwydd pwysigrwydd cyllid strwythurol yr UE yma. Yn wir, mae CGGC ei hun yn unigryw ymhlith cyrff aelodaeth cenedlaethol y sector gwirfoddol (SCVO, NICVA, NCVO) am ei fod wedi cael y rôl o hwyluso mynediad at yr wybodaeth a’r cyllid hwn sy’n ymwneud â’r UE.
Nid yw’n syndod felly bod awydd o fewn y sector i gynnal safbwynt rhyngwladol Cymru a’i chysylltiadau â’r UE.
Gydag hyn mewn golwg, gwnaeth CGGC a Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Cymru lywyddu trydydd ymweliad Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop â Chymru (EESC) ers Brexit ar 10 ac 11 Ionawr 2024.
CODI PONTYDD
Un o sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd yw EESC a’i rôl yw ymgynnull grwpiau cymdeithas sifil cyfundrefnol i gael mewnbwn ffurfiol ar gyfraith a gwaith llunio polisïau’r UE. Ers Brexit, mae hefyd wedi chwarae rhan mewn helpu i godi pontydd rhwng cymdeithas sifil yr UE a’r DU, yn enwedig ar y lefel ddatganoledig.
Cafodd yr ymweliad hwn ei drefnu yng nghyd-destun y farn hon gan EESC a luniwyd ar ôl ymweliad blaenorol â Chymru yn 2022. Amlygodd y darn bryderon bod colli’r rhyddid i symud, yn ogystal â phenderfyniad y DU i beidio â chymryd rhan mewn rhaglenni allweddol yr UE, yn cael effaith negyddol ar gyfleoedd, yn enwedig i bobl ifanc.
O ganlyniad i’r canfyddiadau hyn, canolbwyntiodd yr ymweliad ar yr ymgysylltiad rhwng ieuenctid Cymru a’r UE, cydweithio ar draws meysydd diddordeb cyffredin ac ar edrych ar opsiynau i gryfhau’r ymgysylltiad a’r symudedd rhwng ieuenctid Cymru a’r UE.
PWYLLGOR Y SENEDD
Ar y diwrnod cyntaf, fe wnaethom ni gymryd rhan mewn cyfarfod rhwng EESC a Phwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, a gynrychiolwyd gan gadeirydd y pwyllgor, Jayne Bryant AS, a’r aelod James Evans AS. Yn ystod y gyfnewidfa, rhannodd cyfranogwyr Cymru a’r UE enghreifftiau o weithgareddau ymgysylltu ag ieuenctid da.
Gwnaeth cyfranogwyr yr UE hefyd gyflwyno rhai enghreifftiau o’r camau sydd wedi’u cymryd i gadw’r UE yn gynhwysol i bobl ifanc o Gymru.
Er enghraifft, nododd Gadeirydd y Pwyllgor EESC, Cillian Lohan, eu bod wedi brwydro i gadw’r fenter *Your Europe, Your Say ar agor i bobl ifanc o’r DU – eu bod hefyd wedi gweithio’n flaenorol ar gadw *Cystadleuaeth Undod Cymdeithas Sifil yr UE ar agor i fudiadau o’r DU – ac wedi cefnogi ceisiadau o’r DU i aelodau staff iau gymryd rhan yn *Rhaglen Ymwelwyr yr UE.
ANODD CADW CYSYLLTIADAU Â’R UE
Ar ôl hyn, trefnodd CGGC dwy sesiwn tair awr o hyd gyda’r nod o gasglu barnau i’w bwydo i mewn i safbwynt EESC i ddod ar gryfhau symudedd ieuenctid y DU/Cymru a’r Undeb Ewropeaidd a chyfleoedd addysgol ar draws ffiniau.
Gwnaeth y sesiwn gyntaf gynnwys mudiadau fel, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWYVS), Plant yng Nghymru, Anabledd Cymru, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a TGP Cymru, a thrafod sut oedd, heb os, wedi dod yn anoddach cadw cysylltiadau rhwng Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.
Wedi dweud hynny, roedd ymdrechion yn parhau i wneud hynny. Weithiau, gwneir hyn gyda chyllid a ddarperir gan raglen Taith, rhaglen symudedd newydd Llywodraeth Cymru sydd wedi’i ganmol gan bawb. Serch hyn, roedd pryderon ynghylch ei gynaliadwyedd ariannol gan fod ei gyllideb wedi’i dorri’n sylweddol yn ddiweddar.
O ran hyn, nododd cyfranogwyr y byddai ailymuno ag inter alia, Erasmus+ a’r ‘European Solidarity Corps’, yn cael ei groesawu’n frwd gan fod y rhain yn cynnig sefydlogrwydd a pharhad sicr dros gyfnodau hirach.
CYMRU WLEDIG A’R AMGYLCHEDD
Ar yr ail ddiwrnod, gwnaeth EESC gwrdd â mudiadau a chefnogwyr o groestoriad o feysydd, yn amrywio o faterion gwledig a ffermwyr ifanc i’r amgylchedd a’r newid yn yr hinsawdd. Roedd hyn yn cynnwys Cadwch Gymru’n Daclus, Fforwm Ieuenctid Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru – Sefyll Dros Natur, WWF Cymru, Grŵp Cenhedlaeth Nesaf Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, y Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc, ac Academi Undeb Amaethwyr Cymru.
Gwnaeth y trafodaethau ar y diwrnod hwn adleisio’r awydd i gynnal cydgysylltiadau, ond canolbwyntiodd yn fwy ar yr heriau bob dydd a wynebir gan bobl ifanc yng Nghymru wledig, o’r ymadawiad o’r wlad, trafnidiaeth wledig i’r economi wledig a phrinder gwaith. Nododd cyfranogwyr yr UE fod llawer o’r rhain yn cael eu trafod mewn fforymau o fewn yr UE hefyd, a byddai strwythurau i rannu syniadau yn y dyfodol yn cael eu croesawu.
BETH FYDD YN DIGWYDD NESAF?
Bydd barn EESC ar hyn yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach y flwyddyn hon a phleidlais yn cael ei bwrw arni, gyda’r nod o’i defnyddio i lywio polisi ar y lefel Ewropeaidd. Gan ystyried bod etholiadau i ddod yn ddiweddarach y flwyddyn hon yn Ewrop a’r DU, gobeithir y gall y gwaith hwn lywio safleoedd yn y dyfodol. Bydd CGGC yn rhannu’r farn hon pan ddaw i law.
Os hoffech gael y newyddion diweddaraf, ymunwch â rhestr bostio Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru.
YNGLŶN Â FFORWM CYMDEITHAS SIFIL CYMRU
Mae Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru yn brosiect ar y cyd rhwng Canolfan Llywodraethiant Prifysgol Cymru Caerdydd ac CGGC a gyllidir gan y *Legal Education Foundation.
Ei nod yw rhoi gwybodaeth, cymorth a chydgysylltiad i’r sector ar oblygiadau cyfreithiol, gweinyddol a chyfansoddiadol ymadawiad y DU o’r UE.
*Gwefan Saesneg yn unig