Person yn cynnig diod i redwr marathon

Cryfhau arweinyddiaeth wirfoddol mewn chwaraeon cymunedol yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 29/05/25 | Categorïau: Cyllid,Gwirfoddoli, Awdur: Lilla Farkas

Mae Lilla Farkas, Swyddog Grantiau CGGC, yn egluro sut defnyddiodd Sported Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru i edrych ar sut i fynd â gwirfoddoli mewn chwaraeon cymunedol i’r lefel nesaf.

Ar 27 Mawrth 2025, gwnaeth grŵp o randdeiliaid o bob rhan o Gymru ymgynnull yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd i edrych ar effaith drawsnewidiol arweinyddiaeth wirfoddol yn sector chwaraeon cymunedol Cymru. Wedi’i lywyddu gan Sported, roedd y digwyddiad yn ddiweddglo i brosiect blwyddyn gyfan i wella capasiti ac effaith gwirfoddoli ar lefel bwrdd a rheoli mewn chwaraeon cymunedol.

Daeth mynychwyr o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, a phob un ohonynt â’r nod o fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu gwirfoddoli ar lefel bwrdd a dod o hyd i ddatrysiadau ymarferol, cynaliadwy.

ADEILADU CAPASITI TRWY GYMORTH STRATEGOL

Cafodd y gwaith ymchwil hwn ei gyllido gan Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru, rhaglen a ddyluniwyd i gefnogi prosiectau arloesol sy’n edrych ar, ac yn ymwreiddio, dulliau arloesol o wirfoddoli ledled Cymru. Ei nod yw datgloi potensial strategol gwirfoddoli trwy gael gwared â’r rhwystrau, cryfhau partneriaethau, hybu cynhwysiant a datblygu arferion da ar draws sectorau.

Mae Sported wedi gweithio ochr yn ochr â mudiadau fel Chwaraeon Cymru, Cymdeithas Chwaraeon Cymru, Clybiau Bechgyn a Merched Cymru a StreetGames i gynnal ymchwil drylwyr i dirwedd arweinyddiaeth gwirfoddoli mewn chwaraeon llawr gwlad. Gwnaethant ymgynghori ar draws y sector chwaraeon cymunedol a sectorau gwirfoddol ehangach er mwyn cael dealltwriaeth well o bwy sy’n gwirfoddoli ar lefel bwrdd a rheoli, y rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu a’r llwybrau i mewn i’r rolau hyn.

Cyhoeddwyd y canfyddiadau mewn adroddiad ymchwil, a lywiodd ail gam y gwaith, sef canolbwyntio ar ddod o hyd i ddatrysiadau ymarferol a chynaliadwy i’r heriau a nodwyd. Cyhoeddwyd cyfres o argymhellion mewn adroddiad ar wahân sy’n cynnig fframwaith gweithredu ar gyfer y sector wrth symud ymlaen.

MEWNWELEDIADAU O’R DIWRNOD

Ymhlith y prif fewnwelediadau a amlygwyd oedd yr angen am fwy o amrywiaeth gan fod llawer o arweinwyr gwirfoddol mewn chwaraeon cymunedol fel arfer yn ddynion gwyn hŷn, corfforol abl. Nid oes gan lawer ohonynt fawr iawn o amser, a gall galwadau’r rolau hyn eithrio’r rheini â swyddi amser llawn, cyfrifoldebau gofalu neu gyflyrau iechyd. Serch yr heriau hyn, caiff pobl eu denu atynt oherwydd cysylltiadau cymunedol a gwerthoedd a rennir.

Gwnaeth trafodaeth banel a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid, Clwb Rygbi Pêl-droed Tylorstown, ac Undeb Rygbi Cymru, gyda Chymdeithas Chwaraeon Cymru yn hwyluso, edrych yn ddyfnach i’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu arweinwyr gwirfoddol. Myfyriodd y panelwyr ar themâu fel uwchsgilio gwirfoddolwyr, ymhél â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a meithrin diwylliannau cynhwysol sy’n canolbwyntio ar y dyfodol o fewn clybiau a mudiadau.

Un o brif rannau’r digwyddiad oedd cyfres o weithdai rhyngweithiol wedi’u dylunio i danio trafodaethau a chydweithio. Symudodd y cyfranogwyr o amgylch pum gorsaf â thema – recriwtio, uwchsgilio, gwobrwyo a chydnabod, arbedion effeithlonrwydd ac arloesedd a llwybrau grymuso ar gyfer pobl ifanc a grwpiau ar yr ymylon – er mwyn meddwl am syniadau ac argymhellion ymarferol.

GYRRU NEWID TRWY BARTNERIAETH TRAWS-SECTOR

Nid sgwrs untro oedd y digwyddiad hwn, ond yn hytrach, rhan o daith ehangach i ail-lunio arweinyddiaeth wirfoddol yn y sector chwaraeon cymunedol. Wrth wraidd y prosiect a’r digwyddiad oedd pwyslais cryf ar weithio mewn partneriaeth. Ni fyddai’r prosiect wedi bod yn bosibl heb gydweithio traws-sector, o gydgysylltiad Sported, y mewnwelediadau gan gyrff cenedlaethol a phrofiadau bywyd clybiau cymunedol lleol.

Diolch i estyniad i’r prosiect, bydd Sported yn parhau i weithio nawr ar ‘Gam Datrysiadau’ newydd. Byddant yn gweithio ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat, chwaraeon, gwirfoddol ac addysg i gyd-ddatblygu datrysiadau cynaliadwy a strategol i’r heriau sy’n wynebu gwirfoddoli ar lefel bwrdd. Bydd y buddsoddiad gan Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru yn helpu’r holl sector i harneisio adnoddau, sgiliau ac arloesedd cyfunol er mwyn cael effaith barhaol ar wirfoddoli yng Nghymru.

HWB GWYBODAETH

Os hoffech weld mwy o adnoddau gan dderbynyddion eraill cronfa Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru, yn ogystal â dysgu amrediad eang o bethau ar feysydd a phynciau eraill, ewch i Hwb Gwybodaeth TSSW am ragor o wybodaeth.