John Rose, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn myfyrio ar gofod3 a blaenoriaethau cyllido’r Gronfa.
Roedd yn braf mynychu gofod3 eto eleni, a gweld sut mae’r digwyddiad wedi parhau i fynd o nerth i nerth ers y pandemig. Mae’r cyfle i ryngweithio gyda deiliaid grant a rhanddeiliaid presennol a rhai newydd posibl,a gweld y gwaith gwych y mae’r sector wirfoddol yn ei wneud dros bobl a chymunedau Cymru, bob amser yn agoriad llygad.
Eleni, fe wnaeth Inge Dean, un o’n Rheolwyr Cyllido, gynnal dosbarth meistr ar wneud cais i’n rhaglen Pawb a’i Le, sy’n dosbarthu grantiau rhwng £20,001-£500,000 i brosiectau sy’n helpu gyda’r materion sydd bwysicaf i’w cymunedau. Gwnaeth ei chyflwyniad hefyd fyfyrio ar ein cynnydd diweddar, a’n targedau a blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol, .
Os wnaethoch chi golli’r sesiwn, gallwch ddarllen mwy am ein blaenoriaethau cyllido isod, wrth i ni geisio cefnogi prosiectau sy’n helpu cymunedau i fod yn gynaliadwy’n amgylcheddol, a’r rheini â’r angen mwyaf, dros y flwyddyn nesaf.
EIN CYNNYDD DIWEDDAR
Mae dwy flynedd wedi mynd heibio ers i ni lansio ein strategaeth ar gyfer 2023-2030, sef Cymuned yw’r man cychwyn. Nododd hon ein gweledigaeth ar gyfer cyllido gweithgareddau cymunedol a chanolbwyntio ar bedair nod allweddol, gan gefnogi cymunedau i:
- ddod â phobl ynghyd
- bod yn amgylcheddol gynaliadwy
- helpu plant a phobl ifanc i ffynnu
- galluogi pobl i fyw bywydau iachach.
Ochr yn ochr â hyn, fe wnaethom nodi ein gwerthoedd a’n dull gweithredu, gan ymrwymo i:
- ganolbwyntio mwy ar gymunedau sy’n cael eu heffeithio gan dlodi, gwahaniaethu ac anfantais
- cefnogi cymunedau i adeiladu ar eu cryfderau
- defnyddio dysgu i wella effaith, a
- defnyddio model llunio grantiau hyblyg.
Yn yr amser hwnnw, rydym wedi gwneud cynnydd cadarn. Rydym wedi cynyddu uchafswm grant Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol i £20,000, gan ddyblu ei gyllideb i gefnogi tua 50% o’r holl geisiadau. Rydym wedi diweddaru ein cyllid ar gyfer Pawb a’i Le i gyd-fynd yn agosach â’n pedair nod, gan ofyn i bob ymgeisydd ddangos sut bydd yn rheoli ei effaith ar yr amgylchedd, waeth beth y mae ei brosiect yn canolbwyntio arno.
Trwy ein rhaglen Cefnogi Syniadau Gwych, rydym wedi cefnogi prosiectau arloesol fel menter Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector Promo Cymru, ac wedi dosbarthu dros £17 miliwn trwy’r Cynllun Asedau Segur i daclo’r argyfyngau hinsawdd a natur, ynghyd â chefnogi pobl ifanc i gael mynediad i swyddi gwyrdd mewn ardaloedd ar hyd a lled Cymru, o Sir Benfro i Wynedd.
BETH NESAF FELLY?
Er ein bod wedi cael rhywfaint o lwyddiant go iawn, rydym hefyd yn gwybod bod lle i wella.
Yn 2025/26, byddwn yn rhoi mwy o bwyslais ar gefnogi prosiectau sy’n hybu ein nod am gynaliadwyedd amgylcheddol. Rydym yn arbennig o awyddus i gefnogi mudiadau sy’n cyflwyno prosiectau amgylcheddol sy’n cyflawni canlyniadau lluosog – er enghraifft, Cwmni Buddiant Cymunedol Toybox Project, sy’n ailgylchu teganau, eu hatal rhag mynd i safleoedd tirlenwi ac yna’n eu dosbarthu am ddim i blant mewn angen ledled De Cymru. I gyrraedd ein targedau cyllido uchelgeisiol, rydym yn gobeithio dosbarthu 15% o’n cyllid ar gyfer y flwyddyn hon i brosiectau sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd amgylcheddol.
Rydym hefyd eisiau canolbwyntio mwy ar brosiectau sy’n adeiladu ar y cryfderau a’r dyfeisgarwch o fewn cymunedau sy’n cael eu heffeithio gan dlodi, gwahaniaethau ac anfantais. Rydym yn anelu at ddyrannu dros 50% o’n cyllid i’r cymunedau â’r angen mwyaf, a byddem yn dwli clywed gan fudiadau â syniadau sydd wedi eu gwreiddio neu’n seiliedig ar gryfderau eu cymunedau. Yn benodol, byddem yn croesawu ceisiadau gan ardaloedd nad ydynt wedi cael cymaint ag yr hoffem o gyllid gennym ni, gan gynnwys, ymhlith rhai eraill, Sir y Fflint, Merthyr Tudful a Chastell-nedd Port Talbot.
Mae ein timau Cyllido a Chynghori ffantastig yma i’ch helpu, yn enwedig os ydych yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau uchod. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, gallwn barhau i gyllido prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth positif i bobl a’r blaned.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein rhaglenni cyllido a sut i wneud cais yma.