Mae Colin Arnold, Trysorydd CGGC, yn siarad am gynlluniau cyffrous CGGC i lansio cronfa newydd ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru a pham mae nawr yw’r amser.
CYFLWYNO BUDD PARHAOL I FUDIADAU GWIRFODDOL
Mae’n bleser gennyf gyhoeddi bwriad CGGC i sefydlu cronfa annibynnol newydd, gyda’r nod o gyflwyno budd parhaol i fudiadau gwirfoddol sy’n gweithio mor ddiwyd i wneud cymunedau Cymru’n gryf a gwydn. Gwyddom na all y sector gyflawni effaith heb ffynonellau hygyrch a dibynadwy o incwm, a dyma pam mae CGGC wedi dechrau’r broses o sefydlu cronfa newydd i gefnogi’r nod hwn.
ASED CENEDLAETHOL NEWYDD
Bydd y gronfa yn cael ei sefydlu i ddechrau drwy gyllid sbarduno a fydd yn cael ei ddarparu gan CGGC o’i arian wrth gefn. Rydyn ni wedi rhoi cryn ystyriaeth i’r ffyrdd y gallem drosi’r arian wrth gefn hwn, ochr yn ochr ag ymagwedd hirdymor at fuddsoddi a thyfu, i greu rhywbeth trawsnewidiol i’r sector gwirfoddol. Rwyf i a’m cydweithwyr yn CGGC yn benderfynol o sicrhau y bydd hwn yn tyfu i fod yn ased cenedlaethol newydd a fydd yn parhau am ddegawdau i ddod.
Rwy’n ymwybodol iawn o’r pwysau ariannol cyson y mae’r sector yn ei brofi: goralw am grantiau tymor byr, galw cynyddol ar wasanaethau ac anghenion cymhleth a phrinder o gyllidwyr cynaliadwy a hirdymor lleol. Y gronfa hon yw ymateb strategol CGGC i fynd i’r afael â hyn drwy sefydlu adnodd cyllido newydd parhaol ac annibynnol.
CYFLE I FEDDWL A GWEITHREDU AR GYFER YR HIRDYMOR
Mae mudiadau gwirfoddol wedi wynebu cyfres gynyddol o ysgytwadau dros y ddegawd ddiwethaf. Cyni’r sector cyhoeddus, Brexit, pandemig COVID-19, yr argyfwng costau byw ac, yn fwy diweddar, effaith chwyddiannol codi’r Cyflog Byw Cenedlaethol a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr.
Mae pob un o’r pwysau hyn wedi’u pentyrru ar ben ei gilydd, gan adael llawer o fudiadau wedi’u hymestyn i’r eithaf yn ariannol, yn dibynnu ar arian wrth gefn sy’n prysur leihau, ac o dan fwyfwy o bwysau i lenwi’r bylchau a adawyd gan wasanaethau cyhoeddus wedi’u gorymestyn. Mae’r gronfa hon â nod clir i dyfu dros y blynyddoedd i ddod, yn cael ei lansio gyda’r bwriad o ddarparu sefydlogrwydd mewn tirwedd a reolir gan gyllid tymor byr er mwyn galluogi mudiadau i feddwl a gweithredu ar gyfer yr hirdymor.
BETH FYDD YN EI GYLLIDO
Bydd y gronfa wedi’i ffurfio ar egwyddorion sy’n sicrhau ei bod yn cyflwyno gwerth parhaol i Gymru:
- Budd cymunedol yn gyntaf – bydd pob penderfyniad yn canolbwyntio ar wella llesiant ledled Cymru
- Arwain gan y sector gwirfoddol – bydd pob penderfyniad wedi’i wreiddio ym mhrofiad a llais y sector
- Sefydlogrwydd hirdymor – bydd pob penderfyniad yn cael ei wneud i sicrhau sefydlogrwydd hirdymor y sector, gan dyfu capasiti’r gronfa ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
- Tegwch a chynhwysiant – bydd pob penderfyniad yn cael ei wneud i hybu cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant, gwrth-hiliaeth a’r Gymraeg
- Tryloywder ac atebolrwydd – bydd pob rhodd a phenderfyniad cyllido yn dilyn prosesau clir, agored a fydd yn sicrhau hyder rhoddwyr ac ymddiriedaeth y sector
- Canolbwyntio ar y dyfodol – byddwn yn rhoi sefydlogrwydd mewn tirwedd a reolir gan gyllid tymor byr, gan alluogi mudiadau i feddwl, addasu a gweithredu ar gyfer yr hirdymor
- Gyrru gan ddiben – drwy greu ffynhonnell ddibynadwy a pharhaol o gymorth i’r sector gwirfoddol, bydd y gronfa yn chwarae rôl bwysig mewn galluogi CGGC i wireddu ei weledigaeth lle mae mudiadau gwirfoddol a gwirfoddoli yn ffynnu ledled Cymru, gan wella llesiant i bawb
Bydd gweithgareddau a gyllidir yn cyflawni effaith ar draws tair lefel gydgysylltiedig i ddarparu budd hirdymor ar gyfer:
- unigolion
- cymunedau
- mudiadau
CAMAU NESAF
Rydym yn aros penderfyniad cais i’r Comisiwn Elusennau ar hyn o bryd i sefydlu’r gronfa fel Mudiad Corfforedig Elusennol (CIO) o fewn grŵp CGGC. Bydd ganddi ei Bwrdd Ymddiriedolwyr ei hun, a dynnir o bob rhan o’r sector gwirfoddol a bywyd dinesig ehangach, a Phanel Grant a arweinir gan y sector, gan ddod ag amrywiaeth o safbwyntiau, arbenigeddau a phrofiadau bywyd i’r gwaith o reoli a darparu’r gronfa.
Mae hwn yn ymrwymiad hirdymor sy’n dechrau ar lefel gymharol fach, lle caiff cyllid sbarduno CGGC ei fuddsoddi a’i ddiogelu er mwyn sicrhau diogelwch a hirhoedledd y gronfa. Byddwn yn gweithio i dyfu’r gronfa drwy incwm dyngarol er mwyn cynyddu’r gronfa ei hun a’i chapasiti i wneud grantiau. Rydym yn gobeithio agor y gronfa i geisiadau ar ddiwedd 2026 a bydd yr holl fanylion yn cael eu rhannu drwy sianeli cyfathrebu CGGC.
DECHRAU CYFNOD NEWYDD
Mae’r penderfyniad hwn yn foment gwirioneddol bwysig. Trwy ddefnyddio arian wrth gefn CGGC i sefydlu’r gronfa hon, rydym yn ymrwymedig i gefnogi sector gwirfoddol Cymru drwy greu a thyfu ased cenedlaethol parhaol, sy’n ymroddedig i gryfhau’r mudiadau gwirfoddol y mae ein cymunedau yn dibynnu arnynt. Mewn degawdau i ddod, mae gan y Gronfa’r potensial i dyfu i fod yn gyllidwr annibynnol, pwysig sy’n darparu cymorth dibynadwy ledled Cymru o un flwyddyn i’r llall.
DIWEDDARIADAU PELLACH
Ymunwch â’n rhestr bostio i gael y diweddaraf ar y gronfa a gwybodaeth arall gan CGGC.