Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU – y newidiadau a’r heriau i Gymru

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU – y newidiadau a’r heriau i Gymru

Cyhoeddwyd: 03/02/22 | Categorïau: Cyllid, Awdur: Jessica Williams

Wrth i Lywodraeth y DU gyhoeddi ei Phapur Gwyn Codi’r Gwastad, edrychwn ar yr hyn y mae hyn yn ei olygu i Gymru.

Ddydd Mercher, gwnaeth Llywodraeth y DU gyhoeddi’r Papur Gwyn Codi’r Gwastad hirddisgwyliedig o’r diwedd, ynghyd ag ychydig o gyfarwyddyd cyn lansio ynglŷn â Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF). Mae llawer o ddyfalu wedi bod ynghylch yr UKSPF, ac er nad ydyn ni wedi cael y darlun llawn o hyd, mae gennym ni syniad gwell o’r hyn y mae’n mynd i’w gyllido, pwy sy’n mynd i wneud y penderfyniadau a sut mae’n mynd i gael ei rheoli. Bydd hwn yn newid mawr i Gymru, gyda chryn wahaniaeth rhwng y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd cyfredol a’r dull gweithredu a amlinellwyd yn y papur gwyn.

Ein hargraff gyntaf o’r hyn sydd wedi’i amlinellu yn y cyfarwyddyd yw pa mor wahanol yw hi o’i chymharu â’r hyn rydyn ni’n gyfarwydd ag ef yng Nghymru. Mae’r newidiadau hyn yn mynd i gyflwyno heriau, yn enwedig i’r sector gwirfoddol.

DAN ARWEINIAD AWDURDODAU LLEOL

Bydd yn cael ei chyflenwi yng Nghymru drwy’r pedwar Rhanbarth Dinas a Thwf. Yn y cyfarwyddyd, mae Llywodraeth y DU yn canmol y partneriaethau sy’n gysylltiedig â’r Bargeinion hyn fel enghreifftiau cryf o gydweithio. Ond, mae’r cam hwn yn cyflwyno un o’r heriau mwyaf i’r sector gwirfoddol. Fel y dangoswyd yn ddiweddar o dan y Gronfa Adfywio Cymunedol a’r ymateb i’r pandemig, mae gan rai awdurdodau lleol a mudiadau gwirfoddol berthynas waith gadarnhaol a chynhyrchiol, gan gydweithio ar gynlluniau i fynd i’r afael ag angen lleol, ond mae eraill yn gweithredu mwy mewn seilo. Bydd angen i hyn newid yn gyflym i sicrhau y gall y sector ymhél yn effeithiol â’r UKSPF, er mwyn sicrhau nad ydyn ni’n cael eu gosod mewn rôl gyflenwi eilaidd.

POBL A LLEOEDD

Gwahaniaeth arall arwyddocaol yw’r hyn y mae’r UKSPF yn bwriadu ei chyllido o’i chymharu â’r hyn rydyn ni’n gyfarwydd ag ef o dan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae’r ESF wastad wedi canolbwyntio llai ar y lle a mwy ar y bobl, ond mae’r gwrthwyneb yn wir yn yr UKSPF.

Mae angen i grwpiau cymunedol fod wrth wraidd buddsoddiad yn seiliedig ar leoedd. Bydd CGGC yn ceisio sicrhau eu bod yn rhan o’r broses o’r dechrau i’r diwedd. Pan fydd buddsoddiadau strategol yn y maes hwn yn Lloegr (e.e. £20 miliwn i Access Foundation, £4 miliwn i Fair4All Finance, £4 miliwn i #byddaf), byddwn yn ceisio dadlau dros gyllid tebyg sy’n canolbwyntio ar gymunedau yng Nghymru.

RÔL LLYWODRAETH CMRU

O’r tu allan, ymddengys fod y gydberthynas rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru dan bwysau o hyd. Ar y dechrau, gwnaeth Llywodraeth y DU fwrw iddi i ddylunio a datblygu’r cyllid amgen, gan ennill pwerau gwario ychwanegol drwy Bil y Farchnad Fewnol – gyda Llywodraeth Cymru yn amlygu’n gyson nad yw wedi cael digon o ran yn y broses.

Yn ei gyfarwyddyd, noda Llywodraeth y DU y bydd yn gweithio mewn partneriaeth â’r llywodraethau datganoledig er mwyn sicrhau cymysgedd briodol o ymyriadau, a bydd gan Lywodraeth Cymru rôl mewn cefnogi’r gwaith o ddatblygu cynlluniau buddsoddi lleol er mwyn cael cymaint â phosibl o gyfluniad a buddsoddiad, ond mae hon yn rôl lawer llai na’r un oedd gan Lywodraeth Cymru yn y rhaglenni Ewropeaidd yng Nghymru.

DARPARIAETH BRESENNOL YR UE

Ni fudd buddsoddiad i gefnogi pobl a sgiliau yn dechrau tan 2024-25. Gan ystyried hyn, dywed Llywodraeth y DU y gall barhau i gyllido’r mudiadau gwirfoddol hynny sy’n cynnig darpariaeth pobl a sgiliau bwysig yn lleol ac sydd mewn perygl o orfod cau eu drysau am fod cyllid yr UE yn dod i ben. Bydd CGGC yn codi hyn gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i weld sut gallai hyn o bosibl alluogi darpariaeth y sector gwirfoddol, a gyllidir gan yr ESF ac sydd i fod i ddod i ben cyn hir, i barhau.

BETH NESAF

Hyd yn oed gyda’r cyfarwyddyd newydd hwn, mae gennym ni lawer o gwestiynau ar ôl o hyd, na fydd, neu na fydd yn gallu cael eu hateb hyd nes y bydd pethau ar waith. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyfres o sesiynau ymgysylltu ledled y DU a disgwylir rhagor o gyfarwyddyd, gan gynnwys prosbectws llawn, yn y Gwanwyn.

Papur Gwyn Codi’r Gwastad (Saesneg yn unig)

Cyfarwyddyd cyn lansio’r UKSPF (Saesneg yn unig)