Mae Rheolwr Gwirfoddoli CGGC, Felicitie Walls, wedi bod yn gweithio gydag arweinwyr gwirfoddolwyr i feddwl am sut i greu’r profiad gorau posibl i ddarpar wirfoddolwyr ifanc.
Gofynnais i grŵp o arweinwyr gwirfoddoli ymuno â mi i ddylunio croeso pum seren i ddarpar wirfoddolwyr 16 oed dychmygol.
Ni wnaethant fy siomi, a gwnaethom greu rhywbeth go arbennig.
Beth petai…
CYFLWYNIAD PERSONOL
Beth petai… unigolion yn cael eu croesawu i’n bydoedd ni drwy ddull allgymorth wedi’i bersonoli?
Yn cael eu denu gan rywbeth y mae eich mudiad yn ei wneud sy’n wirioneddol siarad â nhw; achos, gweithgaredd, ffordd o ymgysylltu? Nid dechrau trwy ganolbwyntio ar yr hyn y gallant eu gwneud i ni, ond canolbwyntio ar ba brofiadau y gallwn ni eu rhoi iddyn nhw a fydd yn eu gwneud nhw’n frwdfrydig ynghylch ein byd…yn debyg i’r hyn a welwn yn aml ar daith gwirfoddolwr ifanc, e.e. ‘Wnes i jest dechrau chwarae pêl-droed’, ‘Es i ddigwyddiad gyda’m ffrind’…
YMATEB CYFLYM
Beth petai… ni yn ymateb i ddiddordeb yn ein bydoedd yn amserol ac yn effeithiol?
Beth petai’r rheini â diddordeb mewn unrhyw agwedd ar ein gwaith yn derbyn ymatebion ar unwaith, waeth sut y gwnaethant gysylltu? Beth petai nhw’n gallu siarad â’r unigolyn cywir yn gyflym a chael yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw ar yr amser iawn i wneud penderfyniad ar y camau nesaf?
RHOI CROESO CYNNES IDDYNT
Beth petai… unigolion yn cael hwyl a phrofiad y gallent uniaethu ag ef wrth gyrraedd?
Yn cael eu croesawu wrth eu henwau, gyda’r rhagenwau cywir, ac yn cael rhywbeth bach i ddweud helo (beiro, bisged, sticer arbennig). Dod i mewn i rywle sy’n teimlo fel petai bobl ifanc (neu bobl fel nhw) wedi bod yma o’r blaen, lluniau ar y waliau, nodiadau diolch o wirfoddolwyr blaenorol.
Cael cynnig lluniaeth, cael gwybod ble mae’r toiledau neu unrhyw fannau eraill sydd wedi’u dylunio i’w helpu i deimlo’n gysurus (ystafell dawel, man gweddïo ac ati). Cael amser i gyrraedd a help i deimlo’n gartrefol.
DANGOS IDDYN NHW BETH SYDD DAN SYLW
Beth petai… cyflwyniad trochi rhyngweithiol?
Efallai ffilm fer sy’n egluro gweledigaeth a chenhadaeth y mudiad a sut gall pobl fel nhw gyfrannu drwy wneud pethau bach.
Efallai taith ryngweithiol – un go iawn neu rithwir (yn dibynnu ar y cyfrwng) sy’n dod â’r byd newydd hwn y maen nhw’n dod yn rhan ohono yn fyw. A allant gael blas o beth allai gwirfoddoli ar gyfer eich mudiad ei olygu?
NID YDYCH AR EICH PEN EICH HUN
Beth petai… teimlo’n gysylltiedig ag eraill yn cael ei blannu ym meddyliai pobl yn y profiad cychwynnol?
Dod â ffrind neu aelod o’r teulu gyda nhw i sesiwn flasu, neu sesiwn gyntaf, neu hyd yn oed i bob sesiwn (os oes well ganddynt).
Neu sefydlu system bydi anffurfiol, ond strategol, fel bod unigolion yn elwa ar fod gyda phobl eraill yn eu profiad. Neu gael digwyddiad cymdeithasol i wirfoddolwyr yn gynnar yn eu profiad sy’n eu helpu i deimlo’n rhan o’r gymuned o’r dechrau.
GWNEUD IDDO WEITHIO I CHI
Beth petai… nhw’n gwybod beth i’w wneud a sut i’w wneud iddo weithio iddyn nhw?
Gwybodaeth arweiniol (y maint cywir a hawdd ei darllen) yn gynnar – gyda’r cwbl y mae angen iddynt ei wybod am y gallu i addasu, hyblygrwydd, teilwra’r profiad, ble i fynd am help. I bobl ifanc, gallai fod angen adran arnoch ar ‘beth os oes gennyf arholiadau?’, er enghraifft.
DIWRNOD I’W GOFIO
Beth petai’r… profiad cyntaf y maen nhw’n ei gael o wirfoddoli gyda chi yn rhywbeth positif a chofiadwy?
Sesiwn flasu heb bwysau i roi syniad iddyn nhw o beth mae eich mudiad yn ei wneud. Profiad anffurfiol, grymusol a gwerth chweil.
Gwnaethant adael yn teimlo’n wych, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu bod wedi cael gofal, a ddim wedi gorfod defnyddio’r un geiniog (yn ddelfrydol, ar unrhyw ran o’r daith). Maen nhw wedi cymryd rhai lluniau y gwyddoch, heb os, y byddant yn cael eu rhoi ar gyfryngau cymdeithasol neu eu rhannu â’u teulu/ffrindiau mewn sgwrs grŵp (gan ddilyn canllawiau eich mudiadau ar gymryd lluniau wrth gwrs!)
CADW’R MOMENTWM
Beth petai… eich cyfathrebiad dilynol yn golygu nad oedd dewis ond dod yn ôl am fwy?
Rydych wedi dangos y gwahaniaeth y gallai ychydig bach o’u hamser ei wneud. Maen nhw’n derbyn diolch personol ar ôl hyn sy’n gwneud iddyn nhw deimlo eich bod yn wirioneddol werthfawrogi eu hamser.
Rydych chi’n eu gwahodd i’r cyfle nesaf i ymhél â chi, a fydd yr un mor dda (os nad yn well) na’r un gyntaf.
SUT WNAETHOM NI?
Byddwn yn dwli ar glywed beth ydych chi’n ei feddwl o’r syniadau hyn a beth fyddech chi’n ei wneud i roi croeso pum seren i wirfoddolwyr (neu bobl a allai ddod yn wirfoddolwyr yn y dyfodol). Cysylltwch â ni – gwirfoddoli@wcva.cymru.