Yn dilyn y newyddion o £4 miliwn ychwanegol mewn cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector hosbis, mae Tomos Evans, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Marie Curie, yn egluro’r effaith y bydd hyn yn ei chael ar hosbisau ledled Cymru.
SEFYLLFA’R SECTOR
Ym mis Ebrill, ar ôl misoedd di-ri o drafod, derbyniodd y sector hosbisau elusennol y newyddion da y byddai’n derbyn £4 miliwn ychwanegol mewn cyllid Llywodraeth Cymru i barhau â’i waith hanfodol ledled y wlad. Nawr mae angen i ni siarad am yr effaith y bydd hwn yn ei chael ar hosbisau ar hyd a lled Cymru, a beth arall sydd angen digwydd i sicrhau gofal diwedd oes cynaliadwy i bawb.
Er y bydd y cyllid hwn yn sicrhau y gall pobl ledled Cymru barhau i dderbyn gofal lliniarol a diwedd oes gan y rhwydwaith o hosbisau sydd ar gael, ni ddylid anghofio bod y sector yn dibynnu’n barhaus ar godi arian a rhoddion elusennol – ffaith na fydd yn diflannu gyda’r newyddion hyn.
Mae’r argyfwng costau byw wedi gwneud codi arian yn fwyfwy anodd i hosbisau gadw a recriwtio staff – gyda rhai ohonynt hyd yn oed yn gorfod ystyried a allant barhau i gynnal eu gwasanaethau.
Bydd y £4 miliwn, a rennir gan y 12 hosbis yng Nghymru sydd wedi’u comisiynu, yn eu helpu i gynnal gwasanaethau, talu costau staffio a gwella ansawdd y gofal diwedd oes a roddir i unigolion a’r rheini sy’n agos atynt.
YR ANGEN AM GYLLID CYNALIADWY
Amcangyfrifir bod tua 90% o bobl sy’n marw yng Nghymru angen gofal lliniarol, a dim ond cynyddu bydd hyn wrth i bobl fyw’n hirach gyda chyflyrau lluosog.
Fel prif elusen diwedd oes y DU, fe wnaeth Marie Curie ofalu am bron 3,000 o bobl yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gyda’r disgwyliad i’r ffigur hwnnw gynyddu, mae angen model cyllido cynaliadwy ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes arnom, un sydd ddim yn dibynnu ar rasys hwyl a gwerthu cacennau.
Mae Fiona, un o wirfoddolwyr Marie Curie, yr oedd ei mam yn cael gofal yn *ein hosbis Caerdydd a’r Fro, yn cefnogi’r gofal hanfodol y mae hosbisau yn ei roi i bobl ar adeg mor fregus – waeth a ydynt yn glaf mewnol sydd angen rheoli eu symptomau neu ar ddiwedd eu hoes.
Roedd gan fam Fiona ganser y stumog ac yn yr ysbyty yr oedd hi cyn cael gwely yn yr hosbis.
Eglurodd Fiona:
‘Dim ond am bum diwrnod y bu yno, ond roedd y gofal yn syfrdanol.
‘Hwn oedd y tro cyntaf i mi fod yno. Roedd hi fel bol buwch ac yn tywallt y glaw, ond gwnaeth y ffordd y cefais ofal cyn gynted ag y cyrhaeddais y dderbynfa, mewn tipyn o stad, a pha mor hyfryd oedd y tîm yno, ei gwneud hi’n haws.
‘Gwnaethant ddweud wrthyf y gallwn aros drwy’r nos os oedden i’n dymuno, a dyna beth y bu’n rhaid i mi ei wneud am ddwy noson cyn i’m mam huno’n sydyn ar 23 Rhagfyr.
‘D’oedd dim byd yn ormod o drwbl. D’oeddwn ddim yn disgwyl iddo fod yn lle mor garedig. Y diwrnod cyntaf roedd mam yno, pan oedd hi’n parhau i allu bwyta rhywbeth, y cwbl roedd hi ei eisiau oedd hufen iâ, a’r ffỳs a’r cariad y gwnaethant ei ddangos i wneud yn siŵr ei bod hi’n cael ei hufen iâ, roedd yn hyfryd. Roedd y nyrsys a’r doctoriaid mor gymwynasgar.’
Dim ond rhan o’n gwasanaethau sy’n cael ei chyllido gan y GIG, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar ein cefnogwyr a’r cyhoedd i godi arian a rhoi arian i ni. Dim ond drwy haelioni pobl eraill y gallwn ni gynnal gwasanaethau fel Hosbis Marie Curie, Caerdydd a’r Fro ym Mhenarth, ein gwasanaethau Gofal Hosbis yn y Cartref a’n gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth.
SYSTEM DEG
Nid oes fformiwla cyllido cyson yn cael ei ddefnyddio ledled Cymru ar hyn o bryd. Hoffem weld system deg rhwng byrddau iechyd a sut rydym yn darparu gwasanaethau, er mwyn gwella’r mynediad i ofal diwedd oes.
Gyda mwy o bobl angen gofal lliniarol a diwedd oes yn y dyfodol, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i edrych ar yr hyn sydd ei angen i sefydlu model cyllido gwirioneddol gynaliadwy er mwyn sicrhau bod pobl yn derbyn y gofal lliniarol a diwedd oes gorau bosibl. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r Bwrdd Rhaglen Cenedlaethol ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes ar hyn.
Croesawir y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru, ond mae’n rhaid i ni barhau i edrych ar yr hyn sydd ei angen i sefydlu model cyllido gwirioneddol gynaliadwy er mwyn sicrhau bod pobl fel Fiona a’i mam yn derbyn y gofal lliniarol a diwedd oes gorau bosibl.
CYSYLLTWCH Â NI
Os oes angen cymorth arnoch, rydym ni yma i helpu. Ffoniwch ein Llinell Gymorth ar 0800 090 2309 i siarad ag aelod hyfforddedig o’r tîm a fydd yn gallu siarad am y salwch angheuol a phopeth sy’n gysylltiedig ag ef, gan gynnwys help gydag arian. Maen nhw hefyd wedi’u hyfforddi i siarad am brofedigaeth. Neu ewch i’n gwefan, *www.mariecurie.org.uk/support.
GWYBODAETH BELLACH
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau iechyd a gofal y sector gwirfoddol, anfonwch e-bost at iechydagofal@wcva.cymru.