Mae’r canfyddiadau cynnar o raglenni gwirfoddoli i yrfa yn dangos canlyniadau positif yn ôl Fiona Liddell, Rheolwr Helplu Cymru CGGC.
PAM GWIRFODDOLI I YRFA?
Er bod oddeutu dwy ran o dair o wirfoddolwyr mewn lleoliadau’r GIG â diddordeb mewn gyrfa yn y maes iechyd a gofal, awgryma arolygon gwirfoddolwyr cynnar a gynhaliwyd gan Helpforce (Saesneg yn unig) nad oeddent, ar y cyfan, wedi dweud wrth unrhyw un yn eu mudiadau nac wedi cael rhywun yn gofyn ynghylch eu dyheadau gyrfaol. Yn ogystal â hyn, roedd gan y clinigwyr yr ymgynghorwyd â nhw ddiddordeb mewn datblygu gwirfoddoli, ond nid oedden nhw’n gwybod sut i fynd ati.
Mae’r mewnwelediadau hyn wedi arwain at y syniad o beilota rhaglen ‘Gwirfoddoli i Yrfa’ mwy strwythuredig (VtC).
BETH SY’N GYSYLLTIEDIG?
Mae’r rhaglen VtC yn ymwneud cymaint â newid systemig, sefydliadol ag y mae’n ymwneud â chreu cyfleoedd gwirfoddoli ystyrlon. Mae mudiadau yn cynnal hunanasesiad ar ddechrau a diwedd y rhaglen 12 mis. Mae hyn yn asesu aeddfedrwydd y mudiad o ran arweinyddiaeth glinigol, cymorth i wirfoddoli, ffactorau diwylliannol ac amgylcheddol a sut mae gwirfoddoli yn integreiddio â llwybrau datblygu gweithlu eraill.
Caiff data ei gasglu, gan gynnwys arolygon staff, defnyddwyr gwasanaethau a gwirfoddolwyr i fonitro effaith y rhaglen a chaiff dyheadau a chynnydd gwirfoddolwyr tuag at ganlyniadau gyrfaol eu holrhain ar gyfnodau rheolaidd.
RHOI’R RHAGLEN AR WAITH
Ymddiriedolaeth GIG Bradford District Care
Mewn prosiect VtC blaenllaw yn Ymddiriedolaeth GIG Bradford District Care, cafodd pum gwirfoddolwr rhwng 25 a 55 oed eu recriwtio i roi help llaw mewn clinigau babanod cymunedol. Nod y rhaglen oedd helpu gwirfoddolwyr i gael profiad a oedd yn cyd-fynd â’u nodau gyrfaol, gan adeiladu gweithlu posibl ar gyfer y GIG ar yr un pryd.
Roedd y rolau gwirfoddol yn cynnwys cyfarch y rheini a oedd yn dod i’r clinigau a sgwrsio â nhw, rhoi gwybodaeth, cymorth emosiynol a chyfeirio pobl yn ôl yr angen a helpu i gymryd mesuriadau twf babanod.
Lluniwyd cynllun cymorth gyrfa ar gyfer pob gwirfoddolwr a gwnaethant fynychu sesiynau cymorth amrywiol i’w cynorthwyo ar eu llwybr gyrfaol.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Yng Nghymru, mae prosiect VtC a gyllidwyd gan Ymddiriedolaeth Nyrsio Burdett ar waith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Gan weithio gyda phartneriaid cymunedol, mae’r rhaglen ar gael i unrhyw un â diddordeb mewn gyrfa o fewn lleoliad iechyd a gofal ac yn benodol, gall gynorthwyo’r rheini heb gymwysterau, myfyrwyr Saesneg ail iaith, myfyrwyr cyrsiau iechyd a gofal, y rheini ag anableddau dysgu, pobl ddi-waith hŷn a phobl eraill sy’n wynebu heriau oherwydd eu profiadau bywyd.
Caiff gwirfoddolwyr eu recriwtio i rôl gyfeillio gyffredinol ar y wardiau. Drwy weithio’n agosach gyda chydweithwyr mewn adrannau eraill, gan gynnwys Adnoddau Dynol, cyfleusterau a Gweithlu a Datblygu, mae’r gwirfoddolwyr yn ennill sgiliau trosglwyddadwy ac yn cael cyfle i weld amrywiaeth o opsiynau gyrfaol.
Gwelir gwirfoddoli fel y cam cyntaf, lle y gall unigolion symud ymlaen wedyn i rôl gyffredinol â thâl, fel Cynorthwyydd Llesiant, unrhyw le o fewn yr ysbyty. A gall hyn, yn ei dro, arwain at amrywiaeth o lwybrau gyrfaol mwy ffurfiol.
‘Gall cael profiad o wirfoddoli helpu pobl i ddewis pa yrfaoedd y gallant eu dilyn,’ meddai Claire Jordan, Uwch-nyrs ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. ‘Mae’r bobl sy’n dod i mewn i’r wardiau nid yn unig yn gweld gwaith nyrs neu gynorthwyydd gofal iechyd, ond hefyd yn gweld sut mae porthorion, timau gweinyddol a thimau arlwyo yn gweithio. Mae cymaint o gyfleoedd i weld llawer o rolau gwahanol.’
A YW’N GWEITHIO?
Dengys adroddiadau sy’n gwerthuso’r rhaglen beilot yn Bradford (Saesneg yn unig) ganlyniadau positif, addawol o ran y pedwar mae a ystyriwyd:
- Cynnydd gwirfoddolwyr tuag at yrfaoedd yn y maes iechyd a gofal
- Ymddygiad sefydliadol o ran gwirfoddoli
- Profiad staff rheng flaen
- Profiad defnyddwyr gwasanaethau sy’n derbyn cymorth gan wirfoddolwyr
Meddai Catherine Jowitt, Pennaeth Charity and Volunteering: ‘Mae’r rhaglen gwirfoddoli i yrfa wedi cyfrannu at symudiad diwylliannol o fewn y mudiad, lle gwelir gwirfoddoli fel rhan o’r datrysiad, nid yn unig o ran heriau’r gweithlu, ond hefyd o ran cefnogi adferiad a symud pobl o wasanaethau.
‘Gwnaeth y rhaglen alluogi’r ymddiriedolaeth i ddatblygu math newydd o rôl wirfoddoli, gyda llawer mwy o ffocws ar yr ochr glinigol, ac mae rôl yr arweinydd clinigol wedi bod yn hanfodol. Mae’r effaith gadarnhaol ar y gwasanaeth, y teuluoedd sy’n defnyddio’r gwasanaeth ac, yn bwysicach oll, ar y gwirfoddolwyr wedi bod yn drawiadol tu hwnt.’
Gall Helplu gasglu data o brosiectau gwahanol i gryfhau’r sylfaen dystiolaeth.
Yng ngharfan gyntaf y pum prosiect, gwnaeth bron 90% o’r 33 o wirfoddolwyr a gwblhaodd y llwybr VtC gael cyflogaeth yn y sector iechyd a gofal (er enghraifft, fel technegydd labordy, gweithiwr gweithgareddau, cynorthwyydd gofal iechyd) neu fynd ymlaen i addysg/hyfforddiant pellach mewn gyrfaoedd iechyd a gofal (gan gynnwys nyrsio, seicoleg a seicotherapi).
Mae canfyddiadau positif eraill yn dod i’r golwg, sy’n ymwneud â phrofiad cleifion, staff a gwirfoddolwyr o’r rhaglenni.
YMWREIDDIO GWIRFODDOLI I YRFA
Yn sgil y rhaglen beilot, mae Ymddiriedolaeth GIG Bradford District yn ymrwymedig i ymwreiddio’r rôl arweinyddiaeth gwirfoddoli i yrfa fel swydd barhaol a gyllidir, er mwyn parhau i ddatblygu a thyfu’r gwaith hwn:
Er mai dim ond nifer bychan o wirfoddolwyr a oedd yn gysylltiedig â’r rhaglen, noda’r adroddiad: ‘Ochr yn ochr ag effaith gwirfoddoli ar adferiad, Gwirfoddoli i Yrfa yw un o elfennau cryfaf Strategaeth Gwirfoddoli’r ymddiriedolaeth bellach, a’r un sy’n datblygu gyflymaf.
‘Mae buddsoddiad hirdymor yn hanfodol i sicrhau bod ein hymddiriedolaeth, staff, gwirfoddolwyr a defnyddwyr gwasanaethau yn parhau i brofi’r buddion a’r manteision y mae Gwirfoddoli i Yrfa yn ei chyfrannu at weithlu’r dyfodol ac at wella profiadau defnyddwyr gwasanaethau. Mae’n hanfodol bod mwy yn cael ei fuddsoddi yn y rhaglen Gwirfoddoli i Yrfa er mwyn parhau i raddio a lledaenu’r cyfleoedd o fewn yr holl wasanaethau.’
BETH NESAF?
Erbyn mis Mawrth nesaf, bydd Helplu yn gweithio gyda 41 o raglenni VtC gwahanol. Bydd hyn yn rhoi data mwy cadarn a gwersi pellach i ddatblygu achos mwy argyhoeddedig dros ehangu’r gwaith yn fwy eang.
Mae’r rhan fwyaf o’r cyllid presennol ar gyfer prosiectau yn berthnasol i Loegr yn unig ac mae camau ar droed i weld a ellir cael cyllid i ddatblygu’r gwaith yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd.
Yn y cyfamser, os oes gennych chi ddiddordeb mewn trafod sut gallai rhaglen gwirfoddoli i yrfa fod yn berthnasol i’ch mudiad eich hun, neu os hoffech gadw mewn cysylltiad â datblygiadau gwirfoddoli i yrfa yn rhywle arall, cysylltwch â mi: fliddell@wcva.cymru.
Mae canllaw gwasanaeth (Saesneg yn unig) hefyd wedi’i gyhoeddi i’ch helpu chi i fabwysiadu ac addasu’r rhaglen VtC yn eich mudiad. (Bydd angen i chi gofrestru ar y wefan i gael mynediad ato).
YNGLŶN Â HELPLU CYMRU
Mae Helplu Cymru yn gweithio gyda Chefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs)), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Ewch i dudalen we Helplu Cymru, neu i dderbyn diweddariadau ar e-bost, cofrestrwch yma a dewiswch yr opsiwn ‘gwirfoddoli iechyd a gofal’.