Community members observing climate change activity with Pembrokeshire Coast National Park near Trwyn Llywd, Trefin

Creu cymunedau cysylltiedig – mwy na logisteg

Cyhoeddwyd: 20/01/22 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Councillor Neil Prior

Y Cynghorydd Neil Prior, o Gyngor Sir Penfro, sy’n rhannu ei brofiad o raglen gweithredu ymarferol CGGC.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae rhaglen gweithredu ymarferol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi bod yn gwrando ar grwpiau cymunedol i geisio dysgu mwy am weithredu o dan arweiniad y gymuned, a sut gall hynny adeiladu adferiad yn dilyn y pandemig a helpu i greu dyfodol mwy teg, cyfartal, gwyrdd, cynaliadwy ac iach.

CYMUNED GYSYLLTIEDIG LLANRHIAN

Mae chwiliad syml ar y rhyngrwyd yn dweud wrthon ni mai logisteg yw y broses fanwl o drefnu gweithrediad cymhleth a’i roi ar waith’. Er bod ein prosiect Cymuned Gysylltiedig yn gymhleth, mae’n fwy na logisteg.

Menter sy’n gweithio i greu cymuned leol fwy cryf a gwydn ar draws ardal etholiadol yn Sir Benfro yw’r Gymuned Gysylltiedig, gyda thîm bach o drigolion sy’n ceisio helpu i ‘gysylltu’ pobl â’u cymuned a ffurfio ymdeimlad cryfach o berthyn. Mae hyn yn cynnwys popeth o weithredoedd bach o garedigrwydd bob dydd, i ddeall anghenion y gymuned yn y presennol a’r dyfodol, i greu gweledigaeth hirdymor i wella ein hardal. Mae ffocws ‘cenhedlaeth y dyfodol’ yn debygol o gynnwys ymdrin â phynciau mawr fel tai, yr hinsawdd a thwristiaeth, ac er ein bod ni’n gweithio yn y presennol, mae ganddon ni hefyd lygad ar gymuned gysylltiedig y dyfodol, lle mae pobl yn teimlo’n ddiogel ac yn iach, a’u bod nhw’n perthyn. Rydyn ni am fod yn ‘adeiladwyr cymunedau’ hirdymor.

DATBLYGU’R PROSIECT

Dechreuodd y prosiect ym mis Ionawr 2021, yn ystod pandemig COVID-19, pan oedd modd i ni benodi swyddog Dolen y Gymuned, adeiladu gwefan, a sefydlu presenoldeb cymunedol newydd. Yna, gan weithio gyda Nesta drwy raglen Gweithredu Ymarferol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, roedd modd i ni weithredu ar ein gwaith meddwl cychwynnol. Ers hynny, rydyn ni wedi adeiladu tîm, wedi meithrin ffydd o fewn y tîm hwnnw, a hyd yn oed wedi llwyddo i gynnal ein diwrnod ‘Dyma eich Cymuned Chi’ cyntaf gydag oddeutu 15 o arddangoswyr cymunedol, a dros 50 o drigolion yn bresennol. Ond y peth diddorol yw ein bod ni’n dysgu bod y prosiect yma’n fwy na logisteg.

Mae prosiect mor eang â hwn, sy’n amrywio mor helaeth o weithredoedd bach o garedigrwydd bob dydd i greu gweledigaeth hirdymor, yn anodd ei weld a’i gyffwrdd. Pan darodd tywydd eithafol y ‘Bwystfil o’r Dwyrain’ ar ddechrau 2018, gan adael cannoedd o dai ledled ein hardal wledig heb ddŵr am bron i wythnos, roedd modd i fi gydlynu’r gwaith o gludo a dosbarthu 20,000 litr o ddŵr potel, fel arweinydd cymunedol a thrwy rym cymunedol. Ond logisteg oedd hynny, rhywbeth roedd modd i bobl ddod at ei gilydd ar ei gyfer. Fel mae’n sefyll, does gan ein prosiect ni ddim y ffocws ‘argyfwng’ cul yna.

MAE’R PETHAU YMA’N ANODD EU MESUR!

Rydw i wedi dysgu bod mesur y pethau yma’n anodd pan nad oes ffocws cul, ac yn anoddach fyth pan mae’n ymwneud â grymuso gweithredu cymunedol. Do, fe ddaeth pobl i’r digwyddiad ‘Dyma eich Cymuned Chi’, ond mae’n ymwneud â chydbwyso’r metrigau caled yn erbyn yr ethos cymunedol rydyn ni’n ei feithrin. Gallwn ni gael mesuriad o faint o bobl sy’n dod i ddigwyddiad yn syth, ond mae’n debygol mai rhywbeth hirdymor fydd ein llwyddiant. Efallai y bydd sefydliadau (fel llywodraeth leol a chenedlaethol) yn dymuno i’r prosiect yma brofi beth yw budd datganoli grym i gymunedau, ond ein pwyslais ni yw gwella cydlyniant cymunedol, cysylltedd a pherthyn, ac mae’n anodd dangos tystiolaeth gadarn o hyn. Yn draddodiadol, efallai y bydd sefydliadau yn ceisio trwsio pethau, ond rydyn ni’n ceisio atal pethau rhag bod angen eu trwsio yn y lle cyntaf.

GALLU ADDASU AC YMATEB

Yn nyddiau cynnar ein prosiect fel hyn, mae’n amlwg iawn bod angen i ni fod ag ymagwedd y mae modd ei haddasu ac sy’n ymateb i anghenion ac adborth y gymuned, yn hytrach na bod â chynllun llinol sy’n amlinellu ein camau gweithredu a’n llwybr ar gyfer y deng mlynedd nesaf ac mae hynny’n gallu bod yn anodd i unigolion a sefydliadau ei ddeall.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn sôn am ‘Gymunedau Cysylltiedig’, ond mae fel petai’n canolbwyntio’n fwy ar gysylltiad trwy rwydweithiau teithio: logisteg unwaith eto. Mae ein ‘Cymuned Gysylltiedig’ ni ar lefel fwy dynol; yr anghyffyrddadwy ar adegau; yr ymdeimlad o berthyn. Rydw i’n cwestiynu a yw ein sefydliadau’n gwybod beth sydd orau, neu tybed a oes angen iddyn nhw adael fynd rhywfaint ac ymddiried mewn gweithredu cymunedol go iawn ar lawr gwlad, a dangos mwy o gefnogaeth i hynny.

Rydw i hefyd yn dysgu fy mod i’n gyfforddus gyda ble rydyn ni ar hyn o bryd, sef cyfnod codi ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad y prosiect. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy greu presenoldeb, yn rhithwir ac yn gorfforol, ac ar adeg ysgrifennu hwn, rydyn ni ar fin gwahodd y gymuned i gwblhau arolwg ‘beth sy’n bwysig’.

Bydd canlyniadau’r arolwg hwnnw’n cael eu rhannu mewn gwahanol ffyrdd i gyrraedd gwahanol rannau o’n cymuned, ond bydd yn rhoi mewnwelediadau i ni allu adeiladu’r weledigaeth hirdymor, a’n helpu ni i feithrin perthynas gyda’n cymuned.

Bydd y berthynas honno’n ein helpu ni i feithrin ffydd, a bydd hynny’n ein helpu ni i fanteisio ar rym cymunedol i fynd ati go iawn i greu’r ‘Gymuned Gysylltiedig’. Er fy mod i’n gyfforddus gyda hynny, rydw i wedi dysgu nad yw pawb yn teimlo’r un ffordd, ond fel arweinydd cymunedol mae angen i fi ddweud ‘Mae’n iawn, dyma ble rydyn ni’n mynd.’

EDRYCH I’R HIRDYMOR

Y ‘ble rydyn ni’n mynd’ yw’r weledigaeth hirdymor yna soniais amdani. Mae’r gweithredoedd bach o garedigrwydd yn digwydd bob dydd, heb ein prosiect, a gallwn ni helpu i hwyluso hynny a’i gryfhau. Ond mae’r bwlch rydw i’n ei weld, a’r man rydw i’n rhagweld y Gymuned Gysylltiedig yn ei lenwi, yn siapio, ac yn y pen draw yn galluogi, drwy rym cymunedol, man lle bydd cenedlaethau’r dyfodol yn perthyn. Ac nid problem logistaidd yw honno.

RHAGOR AR Y RHAGLEN GWEITHREDU YMARFEROL

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am raglen gweithredu ymarferol CGGC yn y blog hwn – Cysylltu Cymunedau: Mae gwrando’n allweddol – gan Babs Lewis.