Mae Felicitie Walls, Rheolwr Gwirfoddoli CGGC, yn rhannu ei myfyrdodau a’i mewnwelediadau o fynychu gweithdy ar ficro-wirfoddoli.
Yng nghynhadledd 2023 y Gymdeithas Rheolwyr Gwirfoddolwyr (AVM) ym mis Hydref, ymunais â gweithdy ar ficro-wirfoddoli i ddysgu mwy am ‘beth?’, ‘pam?’ a sut?’ y math unigryw hwn o gyfraniad. Gwnaeth Rashpal Saini, sy’n arwain datblygiad micro-wirfoddoli o fewn Ymddiriedolaeth GIG Gorllewin Llundain rannu ei brofiad.
BETH YW MICRO-WIRFODDOLI?
Cyflwynwyd micro-wirfoddoli i’r gynulleidfa fel:
‘Cyfnodau bach o wirfoddoli heb ymrwymiad i ailadrodd a chydag ychydig iawn o ffurfioldeb, sy’n cynnwys camau byr a phenodol y gellir eu dechrau a’u cwblhau’n gyflym.’
Cyfieithiad o adroddiad ‘The value of giving little time’, 2013, NCVO ac IVR
Fodd bynnag, cydnabu bod y diffiniad yn amrywio rhwng mudiadau ac amgylchiadau, sy’n ychwanegu her yn ei hun o ran y ffordd orau o’i ddefnyddio er budd mudiadau.
PAM MICRO-WIRFODDOLI?
Gwnaeth y gweithdy ein hatgoffa o’r tueddiadau allweddol sy’n cael eu gweld yn y maes gwirfoddoli, gyda llawer o’r rhain wedi’u hehangu, a chyflymder newidiadau sydd wedi’u cyflymu gan y pandemig. Mae’r tueddiadau hyn wedi gweld dirywiad yn nifer y rheini o’r genhedlaeth hŷn sy’n gwirfoddoli a chynnydd mewn mathau hyblyg a/neu rithiol o wirfoddoli.
Mewn rhai achosion, gall micro-wirfoddoli fod yn rhan o’r datrysiad i fodloni rhywfaint o’r newid hwn a denu cynulleidfa newydd sydd o dan fwy o bwysau amser.
BETH YW MICRO-WIRFODDOLI?
Rhannwyd rhai enghreifftiau o ficro-wirfoddoli o fewn y gweithdy, ac mae eraill rwyf wedi’u cynnwys isod a all helpu i ysgogi eich mudiad i ystyried beth allai fod yn bosibl.
- Cynorthwywyr digwyddiad: Bod yn rhan o dîm gwirfoddoli sy’n croesawu pobl i ddigwyddiad, yn eu cefnogi, neu’n dosbarthu dŵr neu fedalau ar y diwedd
- Profi gwasanaethau: Gwirfoddolwyr â gofynion penodol yn profi hygyrchedd, h.y. gwirfoddolwyr dall yn profi peiriannau ATM ac yn adrodd ar eu defnydd
- Cefnogaeth ar gyfryngau cymdeithasol: Rhannu postiadau, straeon ac ymgyrchoedd ar sianeli cyfryngau cymdeithasol
- Prawfddarllen a golygu: Prawfddarllen dogfennau, cynnwys i’r wefan neu gylchlythyrau i fudiadau
- Ymchwil ar-lein: Gallai hyn gynnwys dod o hyd i ystadegau, data neu erthyglau perthnasol
- Lapio anrhegion: Lapio anrhegion i ddweud diolch i wirfoddolwyr neu fel rhan o ddathlu gŵyl
- Mentora rhithiol: Cynnig arbenigedd a mentora i rywun sy’n chwilio am arweiniad, a all fod yn sgwrs untro
SUT I DDATBLYGU MICRO-WIRFODDOLI FEL RHAN O’CH CYNNIG I WIRFODDOLWYR
Gwnaeth Rashpal rannu ei brofiad gennym ni o greu micro-wirfoddoli o fewn Ymddiriedolaeth GIG Gorllewin Llundain. Dull gweithredu a wnaeth fy nharo i oedd y gwahoddiad i ddarpar wirfoddolwyr greu eu profiad gwirfoddoli eu hunain. Gosodwyd y prif amcan, sef cyflwyno sesiynau lles i staff. Byddai’r darpar wirfoddolwyr yn cael eu gwahodd wedyn i gynnig eu syniadau i’r staff. Byddai’r staff yn pleidleisio ar ba brofiadau roedden nhw eu heisiau fel rhan o’u diwrnod llesiant a byddai’r gwirfoddolwyr yn eu darparu.
Mae hyn yn fy atgoffa i’n fawr o’r dull cyflwyno tebyg i ‘Dragons Den’ sy’n digwydd mewn rhai paneli Grantiau dan arweiniad Ieuenctid Cefnogi Trydydd Sector Cymru ledled Cymru, gyda phobl ifanc yn cynnig eu prosiectau gwirfoddoli dan arweiniad ieuenctid eu hunain i lunwyr grantiau ifanc. Mae’r pŵer o alluogi pobl i ddylunio eu cyfraniadau eu hunain yn tanio brwdfrydedd yr unigolyn ac yn cipio’u calonnau – neges a glywyd yn glir yn yr anerchiad agoriadol gan Deborah Allcock-Taylor ar ddiwrnod un cynhadledd yr AVM.
BARNAU ARBENIGWYR ERAILL
Fel rhan o’r trafodaethau yn yr ystafelloedd trafod, awgrymodd arbenigwyr gwirfoddoli eraill ledled y DU yr elfennau a’r dulliau canlynol o roi micro-wirfoddoli ar waith.
(Cyn i chi gychwyn arni, cydnabu na all rhai achosion a chyfleoedd gwirfoddoli fod yn addas ar gyfer dull micro-wirfoddoli.)
- Dechreuwch gyda chenhadaeth y mudiad. Ailedrychwch ar yr hyn y mae’r mudiad yn ceisio ei gyflawni a sut mae gwirfoddolwyr yn gysylltiedig â hyn. Ceisiwch beidio â chyfyngu’ch hyn i’r syniadau traddodiadol ynghylch yr hyn y mae gwirfoddolwyr wedi’i wneud yn y gorffennol a’r hyn y maen nhw’n yn ei wneud nawr. Ble arall a sut arall allai gwirfoddolwyr ychwanegu gwerth mewn ffyrdd bach ac effeithiol?
- Edrychwch ar bethau gyda gwirfoddolwyr presennol a darpar wirfoddolwyr. Gydag adborth gwirfoddolwyr, a’r rheini na ymunodd â’ch rhaglen wirfoddoli, mae’n siŵr y gellir ennill llawer o ddoethineb ynghylch y math o wirfoddoli a allai fod yn fwy hygyrch, hyblyg a hwyl.
- Adeiladwch gynulleidfa. Fel mudiad sy’n cynnwys gwirfoddolwyr, mae’n siŵr bod gennych chi eisoes restr bostio o staff, gwirfoddolwyr, darpar wirfoddolwyr a buddiolwyr. Ystyriwch sut gallwch chi adeiladu ar hyn, fel bod gennych chi bobl i gyflwyno eich syniadau micro-wirfoddoli (a chyfleoedd eraill) iddynt. Efallai eich bod yn postio deunydd neu gylchlythyrau rheolaidd neu’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu.
- Adeiladwch eich cymuned o gyfranwyr presennol a darpar gyfranwyr. Cewch ati i feithrin cymuned gefnogol o amgylch eich achos. Ceisiwch annog trafodaethau, rhannwch straeon effaith a chrëwch amgylchedd croesawgar i’r rheini sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth. Defnyddiwch y fethodoleg sydd orau i’ch mudiad er mwyn hysbysu, ysbrydoli a, phan fydd yr adeg yn iawn, ofyn am y cymorth sydd ei angen arnoch.
- Cyfathrebwch eich cynnig creadigol. Unwaith y bydd gennych chi rai cyfleoedd micro-wirfoddoli gwych, rhannwch nhw gyda’ch cynulleidfa a dechreuwch eu profi. Cofiwch, methwch yn gyflym a chofiwch fod 99% o fethiant y tu ôl i bob llwyddiant (cyfeiriad at gyflwyniad agoriadol Piers Martins ar ddiwrnod dau’r gynhadledd).
Roedd llawer mwy i’w trafod, a chais am gynhadledd lawn ar y pwnc. Yn fyr, roedd pobl yn awyddus i edrych ymhellach ar ddefnyddio systemau digidol ar gyfer micro-wirfoddoli a sut i fesur effaith y cyfnodau byr hyn o weithgarwch gwirfoddoli.
FY MYFYRDODAU TERFYNOL
Roedd hyn yn amser diddorol i mi fynychu’r gweithdy hwn oherwydd, ar lefel bersonol, rwyf eisiau cyfrannu at achosion sy’n agos at fy nghalon mewn ffyrdd sy’n ffitio gyda’m hargaeledd a’m lefelau egni presennol. Mae bod ar gyfnod mamolaeth yn golygu bod gennyf bytiau bach o amser lle gallaf gyfrannu, pe bai’r mathau cywir o gyfleoedd ar gael. Gallai cyfleoedd micro-wirfoddoli a/neu wirfoddoli teuluol fod yn fformat da i’r rheini sydd eisiau cyfrannu pan nad oes ganddyn nhw lawer o amser.
Yr hyn sydd hefyd yn bosibl iawn, yn ôl pob golwg, i fudiadau sy’n ystyried micro-wirfoddoli fel rhan o’u cynnig, yw ei fod yn gyfle i fagu cydberthynas dyfnach, mwy hirdymor a allai arwain pobl i roi mwy o amser neu adnoddau. A hyd yn oed os nad hwn yw’r nod, gallai’n bendant fod yn ganlyniad, os yw’r profiad yn cipio calon yr unigolyn.
RHAGOR O WYBODAETH
- Gwirfoddoli mewn tameidiau bach, blog gan Fiona Liddell
- Dethlir Diwrnod Micro-wirfoddoli Rhyngwladol ar 15 Ebrill bob blwyddyn
- Gall mudiadau gofrestru eu cyfleoedd gwirfoddoli ar y wefan Cymru gyfan, www.volunteering-wales.net/cy