Mae pobl sy'n hapus ac yn gwenu yn gwneud crochenwaith y tu allan

Creadigrwydd – rhywbeth angenrheidiol ar gyfer iechyd a lles

Cyhoeddwyd: 08/01/26 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Angela Rogers

Mae Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru (WAHWN) yn dangos sut mae’r celfyddydau’n gwella iechyd meddyliol a chorfforol pobl. Mae Angela Rogers, Cyfarwyddwr Gweithredol WAHWN, yn egluro eu heffaith.

Y CELFYDDYDAU, IECHYD A LLESIANT YNG NGHYMRU: ADEILADU YMGYRCH GYDA’N GILYDD

Mae’r celfyddydau yn trawsnewid bywydau ledled Cymru, gan gefnogi adferiad a helpu cymunedau i ffynnu. Mae cenhadaeth WAHWN yn un syml ond uchelgeisiol: i ymwreiddio’r celfyddydau a chreadigrwydd mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol, hyrwyddo atal a sicrhau mynediad cyfartal at brofiadau diwylliannol sy’n gwella iechyd meddyliol a chorfforol. Nid peth braf ei gael mo creadigrwydd, mae’n rhywbeth angenrheidiol ar gyfer iechyd a lles.

PWY YDYM NI

WAHWN yw mudiad cymorth y sector ar gyfer y celfyddydau, iechyd a llesiant. Rydym yn rhwydwaith sydd ar gynnydd, gyda mwy nag 1,000 o aelodau o’r celfyddydau, gofal cymdeithasol, y byd academaidd a’r sector gwirfoddol.

Mae ein haelodau yn cyflawni prosiectau anhygoel bob dydd, gan ddod â cherddoriaeth i mewn i wardiau ysbytai; defnyddio’r theatr i gefnogi’r rheini sy’n gwella o heriau camddefnyddio sylweddau; dawns i atal pobl rhag cwympo; canu i wella gwaith yr ysgyfaint a chreu rhaglenni celfyddydau gweledol sy’n cynorthwyo pobl i wella’u hiechyd meddwl.

Mae’r prosiectau hyn yn dangos pŵer creadigrwydd i fynd i’r afael â rhai o heriau iechyd mwyaf Cymru. Ceir amrywiaeth eang o astudiaethau achos yn ein Cronfa Wybodaeth.

CYFLEOEDD AR GYFER PARTNERIAETH

Mae WAHWN yn gweithio’n agos gyda deiliaid Loteri Celfyddydau, Iechyd a Lles Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n cyflawni rhaglenni partneriaeth celfyddydau ac iechyd.  Mae’r cyllid hwn yn cefnogi prosiectau sy’n mynd i’r afael â heriau iechyd meddwl a chorfforol, yn trechu anghydraddoldebau iechyd, yn cefnogi lles gweithwyr iechyd proffesiynol ac yn gweddu â datganiadau cenhadaeth y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant.

Mae’n creu amgylcheddau sy’n galluogi pobl i ffynnu a sicrhau mynediad amserol at gymorth. Mae WAHWN yn gwahodd partneriaid CGGC i gydweithio â mudiadau celfyddydol a chyflwyno datrysiadau creadigol i leoliadau iechyd a gofal.

PAM YMUNO Â WAHWN?

Fel aelod o WAHWN, byddwch yn cael mynediad i:

  • Gyfarfodydd rhwydwaith rheolaidd er mwyn cydweithio a rhannu dysgu.
  • Cylchlythyr misol yn llawn cyfleoedd, adnoddau ac astudiaethau achos.
  • Llyfrgell gynyddol o becynnau cymorth, gwaith ymchwil ac arferion gorau.
  • Eiriolaeth o’r lefel uchaf. Mae WAHWN yn gweithio’n agos gyda Chonffederasiwn GIG Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru (fel cefnogwr Hapus) a Swyddfa Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac rydym yn cynrychioli’r sector yn y Grŵp Trawsbleidiol ar y Celfyddydau ac Iechyd.

Mae ein gwaith yn ymwneud ag adeiladu’r ymgyrch celfyddydau, iechyd a llesiant yng Nghymru, ac rydym eisiau i bartneriaid CGGC fod yn rhan ohoni. Gyda’n gilydd, gallwn gryfhau partneriaethau, cael mwy o effaith a sicrhau bod creadigrwydd wrth wraidd iechyd a gofal.

EIRIOLI A CHYDWEITHIO

Mae WAHWN yn ymwneud yn helaeth ag eirioli, hysbysu a dylanwadu ar bolisïau ac arferion er mwyn sicrhau bod y celfyddydau ac iechyd yn cael eu cydnabod fel cydrannau lles hanfodol.

Roedd yn bleser gennym gwrdd â Johanna Davies, Pennaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol CGGC, yn ddiweddar i edrych ar gyfleoedd i gydweithio gyda’u Prosiect Iechyd a Gofal. Mae potensial enfawr i rannu dysgu a phartneriaeth, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd i ymwreiddio creadigrwydd mewn systemau iechyd a gofal.

Y DARLUN EHANGACH

Nid yw’r celfyddydau ac iechyd yn ymwneud â phrosiectau unigol yn unig – mae’n ymwneud â newid systemaidd. Trwy weithio gyda’n gilydd gallwn:

  • Leihau’r pwysau ar wasanaethau iechyd drwy strategaethau atal creadigol.
  • Gwella canlyniadau iechyd meddwl drwy fynd i’r afael ag ynysigrwydd a magu gwydnwch.
  • Creu amgylcheddau cynhwysol, cyfoeth o ddiwylliant sy’n cefnogi llesiant pawb.

Mae hyn yn gweddu’n berffaith â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan sicrhau bod y penderfyniadau rydym yn eu gwneud heddiw yn cyfrannu at Gymru iachach a mwy creadigol i’r cenedlaethau i ddod.

CYMRYD RHAN

Gwahoddwn ni chi i ymuno â WAHWN a bod yn rhan o’r ymgyrch gynyddol hon, waeth a ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol, yn fudiad o’r sector gwirfoddol neu’n artist sy’n frwd am wneud gwahaniaeth.

Cofrestrwch heddiw a chael mynediad at adnoddau, cyfleoedd a chymuned sy’n ymrwymedig i ddefnyddio creadigrwydd i wella bywydau.

Rhagor o wybodaeth am Brosiect Iechyd a Gofal CGGC.