Gwnaeth y sesiwn ddiweddaraf yn ein cyfres o ddigwyddiadau COVID-19 ganolbwyntio ar beth mae’r pandemig wedi’i olygu o ran dylanwadu ar benderfynwyr. Dyma Jess Blair gyda chrynodeb o’r drafodaeth.
Yn y bedwerydd digwyddiad yn y gyfres Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol gan CGGC, edrychwyd ar ddylanwadu ar bolisi. Gydag etholiad nesaf y Senedd wedi’i drefnu ar gyfer llai na blwyddyn o nawr, sut mae argyfwng COVID wedi effeithio ar sut mae mudiadau’n meithrin cydberthynas â phenderfynwyr ac yn dylanwadu ar bolisi?
Cadeiriwyd y digwyddiad gan Stephen Brooks, Cyfarwyddwr Gweithredol Materion Allanol, Sustrans UK ac ymddiriedolwr CGGC, ac ymunodd oddeutu 90 o gyfranogwyr â’r drafodaeth.
Mae’r pandemig cyfredol wedi effeithio ar sut mae mudiadau’n dylanwadu ar wleidyddion mewn llawer o ffyrdd. Mae penderfynwyr hefyd yn gweithio ar sail argyfwng. Mae’r cyfuniad hwn yn sicrhau nad busnes fel arfer yw hi i’r byd gwleidyddol yng Nghymru.
Yn amlwg, mae hyn yn codi cwestiynau ynghylch sut rydym ni, fel mudiadau, yn ymateb i’r newidiadau a’r heriau hyn, yn enwedig gydag etholiadau’r flwyddyn nesaf yn agosáu.
Sut mae’r gydberthynas â phenderfynwyr wedi’i heffeithio
Gwnaeth cyfranogwyr y digwyddiad rannu eu profiadau o ran sut mae’r gydberthynas rhyngddyn nhw a phenderfynwyr wedi’i heffeithio.
Nododd rhai pobl ryngweithiadau cadarnhaol â Llywodraeth Cymru ers i’r argyfwng ddechrau.
Dywedodd cyfranogwr o Sefydliad Lloyds Bank, ‘Rydyn ni wedi sylwi bod gwir angen datrysiadau ar Lywodraeth Cymru, felly maen nhw’n awyddus i ganfod beth sy’n digwydd ar lawr gwlad’, gan gymharu’r gallu i ryngweithio â Llywodraeth Cymru yn ffafriol â Llywodraeth y DU.
Ond, amlygwyd nad hyn fu’r achos mewn rhai sectorau. Nodwyd y sector iechyd yn benodol fel un lle roedd mudiadau’n cael anhawster parhau â’r cydweithio a’r cydberthnasau oedd ganddyn nhw cyn y pandemig.
Dywedodd cyfranogwr o Cancer Research UK, ‘Mae wedi bod yn anodd i ni yn y sector iechyd, oherwydd mae pobl wedi cael eu dwyn ynghyd o bob math o leoedd i ymateb i COVID…. Mae’n gwella nawr, ond mae ansicrwydd ynghylch sut i gael gwasanaethau ar waith eto’.
Yn y sector gofal cymdeithasol, nododd cyfranogwr, ‘Un peth rydyn ni wedi sylwi arno yn Anabledd Cymru yw bod y sgwrs wedi symud o fodel cymdeithasol i fodel meddygol yn ystod y pandemig. Er enghraifft, mae agweddau pobl tuag at bobl anabl wedi newid. Mae hwn wedi bod yn rhwystredig iawn i ni. Mae pethau wedi mynd am yn ôl’.
Ar lefel ehangach, awgrymodd cyfranogwr arall fod y materion cyfredol o ran dylanwadu ar benderfynwyr a rhyngweithio gyda nhw wedi ‘amlygu faint o fylchau a gallu a dylanwad sydd yn seilwaith y trydydd sector’, gydag ‘effaith ac effeithiolrwydd gwahanol iawn mewn gwahanol rannau o Gymru’.
Gwnaeth eraill gwestiynu’r lefelau o ymgysylltu â gwrthbleidiau, gan ddweud er bod yr ymgysylltu â Llywodraeth Cymru wedi bod yn gadarnhaol, roedd yn amlwg bod swyddogion yn cael anhawster ymdopi â’r capasiti ac nad oeddent wedi cael unrhyw ryngweithiad â gwleidyddion yr wrthblaid, a oedd yn canolbwyntio ar y pandemig yn unig. Mae hyn yn codi cwestiynau ynghylch sut bydd proses y maniffesto ac etholiadau’r flwyddyn nesaf yn cael eu heffeithio.
Symud tuag at etholiadau’r Senedd
Gyda newid llwyr o’r gwaith nodweddiadol o gynnal cynadleddau pleidiau a chyfarfodydd wyneb yn wyneb â gwleidyddion, mae mudiadau’n cael anhawster gwybod sut i weithio â phleidiau er mwyn sicrhau bod eu gofynion polisi’n cael eu cynnwys mewn maniffestos pleidiau, sef prif nod unrhyw fudiad ymgyrchu.
Roedd galwadau am fwy o eglurder ynghylch sut roedd pleidiau’n ymateb i’r newid hwn, gydag un cyfranogwr yn dweud, ‘Rwy’n credu bod arnom angen amlinelliad mwy eglur gan bleidiau gwleidyddol o ran sut bydd eu prosesau maniffesto’n cael eu heffeithio. Mae’n amlwg mai ar y pandemig y mae penderfynwyr yn canolbwyntio arno ar hyn o bryd, fel sy’n briodol, ond dylem hefyd annog penderfynwyr i ymhél â materion a datrysiadau mwy hirdymor, yn enwedig o ran meysydd fel yr economi, a fydd yn dyngedfennol’.
I’r rheini sydd eisoes wedi cyhoeddi eu galwadau etholiadol, rydym wedi gweld symudiadau sylweddol mewn polisi yn ystod y misoedd diwethaf a fydd yn gofyn i fudiadau edrych eto ar eu gofynion polisi.
‘Gwnaethom ni, Conffederasiwn GIG Cymru, gyhoeddi ein galwadau etholiadol ym mis Mawrth (ar ran arweinwyr y GIG), a nawr byddwn ni’n ailysgrifennu’r briff o ganlyniad i COVID gan fod cymaint wedi newid’, meddai un cyfranogwr.
Cytunodd un arall, gan ddweud ‘Gwnaethom ni lansio ein gofynion maniffesto ym mis Chwefror. Roedd cryn dipyn o’r hyn roeddem ni’n eu cefnogi yn cael ei ystyried yn ysbrydoledig, ond mae’r rhain bellach wedi dod yn bethau hanfodol. Rhaid i ni wylio nad ydym yn dychwelyd i’r cyflwr presennol. Rhaid i ni beidio â dychwelyd i hen dueddiadau. Mae hyn yn golygu bod angen i ni ailysgrifennu neu ailwampio ein gofynion maniffesto’.
I eraill nad ydynt wedi cyhoeddi eu galwadau etholiadol eto, mae’r prosesau wedi’u heffeithio’n ddirfawr.
‘Rydyn ni wedi cydweithio’n eang wrth ddatblygu ein maniffesto, pan oedden ni’n gallu trefnu digwyddiadau a thynnu pobl i mewn, ond yn amlwg, mae hynny’n llawer anoddach nawr’, nododd cyfranogwr, a wnaeth hefyd amlinellu pryderon mawr ynghylch symud i broses gydweithio ar-lein a chynnwys y rheini ag anawsterau dysgu neu broblemau gwrando.
Gyda’r etholiad prin 11 mis i ffwrdd, mae’n amlwg y bydd angen i bleidiau edrych y tu hwnt i’r argyfwng sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd ac i’r bum mlynedd nesaf, a bydd yn rhaid i fudiadau eu cynorthwyo i wneud hyn. Eto i gyd, gyda pandemig COVID yn llwyrfeddiannu amser penderfynwyr, fel sy’n briodol, bydd hyn yn eithriadol o heriol i bleidiau a mudiadau fel ei gilydd.
Mwy gan Jess Blair ar ddigwyddiadau ein cyfres, Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol
Mae Jess Blair wedi cyflwyno crynodeb o’r trafodaethau sydd wedi’u cynnal â’r sector gwirfoddol ynghylch y digwyddiadau yn ein cyfres, Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol.
- Sut mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio’n ariannol ar y sector gwirfoddol
- Sut gallwn ni adeiladu ar ymateb cymunedau i goronafeirws
- Darparu gwasanaethau ar ôl COVID-19
Yr un nesaf yn ein cyfres Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol
Mae COVID-19 wedi effeithio ar fywydau pawb. Mae’r cyfyngiadau symud wedi gorfodi pob un ohonom i wneud pethau’n wahanol, ac i wneud gwahanol bethau. Mae wedi cyflwyno posibiliadau newydd – da a drwg.
Wrth i lunwyr polisi ddechrau edrych ymlaen, mae’r digwyddiadau hyn yn cynnig gofod i rannu dysgu, ystyried goblygiadau ar gyfer y dyfodol a thrafod beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer penderfyniadau a wneir heddiw.
- Paratoi ar gyfer dyfodol gwahanol: Newid Hinsawdd
Dydd Iau 11 Mehefin 4-5pm
Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar oblygiadau’r ffordd rydyn ni’n ymateb i’r newid yn yr hinsawdd. Rhagor o wybodaeth a chadw lle. - Paratoi ar gyfer dyfodol gwahanol: Economi Llesiant
Dydd Iau 18 Mehefin 12-1pm
Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar beth allai hyn ei olygu ar gyfer creu Economi Llesiant. Bydd modd cadw lle ar dudalen Eventbrite CGGC.
Gallwch gofrestru i gael ein diweddariadau dyddiol ar COVID-19 (Llun – Gwe). Bydd y rhain yn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r sector gwirfoddol yng Nghymru ar COVID-19, ac yn eich galluogi i gael y ddolen cadw lle wedi’i hanfon yn syth i’ch mewnflwch, yn ogystal â chyflwyno gwybodaeth ddefnyddiol arall ar COVID-19. Gallwch hefyd anfon e-bost at amonteith@wcva.cymru i fynegi eich diddordeb yn y digwyddiadau hyn.