Mae grŵp amrywiol o fenywod yn sefyll gyda'i gilydd yn chwerthin ac yn gwenu

#CofleidioTegwch – Iechyd Menywod

Cyhoeddwyd: 08/03/23 | Categorïau: Dylanwadu, Awdur:

Y thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yw #CofleidioTegwch. Mae Dee Montague-Coast, Swyddog Ymgysylltu Triniaeth Deg i Ferched Cymru, yn tynnu sylw at yr anghydraddoldebau mae menywod yng Nghymru yn eu hwynebu wrth gael gofal iechyd, ond mae’n optimistaidd am ddyfodol tecach.

Triniaeth Deg i Ferched Cymru (FTWW) yw’r unig elusen yng Nghymru sy’n cael ei harwain gan gleifion sy’n ymgyrchu dros gydraddoldeb iechyd i fenywod, felly mae thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, sef #CofleidioTegwch, yn taro tant gyda ni.

GWNEUD YR ACHOS

Ddeuddydd ar ôl Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn 2017, fe gyhoeddon ni ein hadroddiad cyntaf, Making the Case for Better Endometriosis Care in Wales, yn bennaf o ganlyniad i’r niferoedd sylweddol o fenywod, merched, a phobl a roddwyd mewn categori rhyw benywaidd adeg eu geni sy’n byw gyda’r cyflwr – un o bob deg, sef yr un faint o bobl ag sy’n dioddef â diabetes neu asthma. Ac eto, ar y pryd, ychydig o bobl oedd wedi clywed am y cyflwr a’i oblygiadau i iechyd, lles, addysg, gyrfaoedd a ffrwythlondeb menywod, a’r costau syfrdanol i’r pwrs cyhoeddus sy’n deillio o endometriosis. Roedd yr ymateb i’r adroddiad yma’n gadarnhaol: Sefydlodd Llywodraeth Cymru Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Endometriosis ac, ym mis Hydref 2018, cyhoeddwyd argymhellion y grŵp. Roedden ni’n obeithiol y byddai pethau’n newid yn sylweddol i gleifion yng Nghymru; y byddai diagnosis yn digwydd yn gyflymach, y byddai llwybrau triniaeth yn cael eu gwella, ac na fyddai’r loteri cod post o ran gofal yn bodoli mwyach.

Ond dyma ni yn 2023, a Chymru sy’n dal i fod â’r oedi hiraf ar gyfartaledd ymhlith gwledydd Prydain o ran diagnosis ar gyfer endometriosis – naw mlynedd, cyfnod syfrdanol. Mae ein hargymhelliad y dylid penodi Nyrsys Endometriosis Arbenigol Clinigol ym mhob bwrdd iechyd wedi’i roi ar waith, ond mae llawer mwy i’w wneud. Yn dilyn pandemig COVID-19, mae niferoedd cynyddol o gleifion yn cymryd camau eithafol i gael triniaeth deg, gyda llawer yn cael eu gorfodi i dalu’n breifat, p’un a ydyn nhw’n gallu fforddio hynny ai peidio. Ac nid problem i bobl sydd ag endometriosis yn unig yw hon. Mae adroddiad ‘Left For Too Long’ gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr yn 2022 yn amlygu’r gwasanaethau gynaecoleg ddioddefodd waethaf wrth ailflaenoriaethu gofal yn sgil y pandemig, a danlinellir gan y duedd i ddarparwyr gwasanaethau ddefnyddio’r gair ‘anfalaen’ (benign) i ddisgrifio llawer o gyflyrau iechyd gynaecolegol sy’n effeithio’n aruthrol ar ansawdd bywyd menywod.

CYMRYD CAMAU

Rydyn ni bellach yn mynd i’r cyfeiriad cywir. Fis Mai diwethaf, ar Ddiwrnod Gweithredu Rhyngwladol dros Iechyd Menywod, cyhoeddodd Clymblaid Iechyd Menywod Cymru – a gyd-gadeirir gan FTWW a Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru – Ddatganiad Ansawdd a gynhyrchwyd ar y cyd dros Iechyd Menywod, Merched, a rhai a roddwyd mewn categori benywaidd adeg eu geni, yn apelio ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gynllun iechyd menywod, fel sydd gan Loegr a’r Alban. Canfu ein clymblaid – sydd bellach yn cynnwys dros 80 o sefydliadau trydydd sector, cleifion arbenigol, colegau brenhinol, clinigwyr ac academyddion – bedair thema allweddol sy’n ymestyn ar draws yr holl faterion iechyd gwahanol a archwiliwyd: mynediad at wasanaethau arbenigol, gwell prosesau casglu data, cymorth ar gyfer cyd-gynhyrchu cynaliadwy, a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol. Drwy fynd i’r afael â’r rhain, mae’n debygol y gallwn ddechrau #CofleidioTegwch go iawn ym maes iechyd.

Roedd ein dadl yn un gref, ac roedden ni wrth ein bodd bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS, wedi cyhoeddi y byddai’n cyd-ddatblygu Cynllun Iechyd Menywod a Merched gyda’r Glymblaid a rhanddeiliaid ehangach o ganlyniad i hynny. Wrth i’r Cynllun ddwyn ffrwyth, rydyn ni’n obeithiol y bydd rhagor o sefydliadau ac ymchwilwyr yn cael eu cymell i gynnal ymchwil iechyd benywaidd – a rhyngblethol – i frwydro yn erbyn cannoedd o flynyddoedd o astudiaethau clinigol lle mai cyrff gwrywaidd Ewropeaidd gwyn yw’r ‘norm’ (doedd cyrff benywaidd ddim yn cael eu cynnwys fel mater o drefn mewn treialon clinigol tan y 1990au). Mae’r diffyg data yma’n arwain at ddiffyg gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sydd, heb os, yn cyfrannu at ganlyniadau iechyd gwaeth, yn enwedig ar gyfer menywod du a menywod lleiafrifedig yng ngwledydd Prydain, gyda menywod Du bum gwaith yn fwy tebygol o farw wrth roi genedigaeth.

#COFLEIDIOTEGWCH

Er mwyn #CofleidioTegwch go iawn, mae angen i ni ddeall nad mater i’r gwasanaeth iechyd yn unig yw tegwch o ran iechyd – mae hefyd yn fater o gyfiawnder cymdeithasol. Fel Sefydliad Pobl Anabl, mae FTWW yn falch o fod ymhlith aelodau o Dasglu Hawliau Pobl Anabl Llywodraeth Cymru, sy’n ceisio mynd i’r afael â’r rhwystrau eang sy’n wynebu pobl anabl yng Nghymru, yn enwedig pan ddaw’n fater o gael mynediad at ofal iechyd. Rydyn ni’n frwd dros sicrhau bod y rhai sy’n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor yn ymwybodol o’u hawliau. Dydy llawer o bobl sy’n dod aton ni ddim yn sylweddoli eu bod yn ‘gymwys’ fel rhywun anabl, a dydyn nhw ddim yn ymwybodol o’r Model Cymdeithasol o Anabledd. I FTWW, mae #CofleidioTegwch ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn golygu canolbwyntio ar newid y sefyllfa yma’n gadarnhaol, gan sicrhau bod pobl anabl a phobl â salwch cronig yn cael eu grymuso i gael mynediad at y cymorth mae ganddyn nhw’r hawl iddo.

Os hoffech wneud sylw ar unrhyw un o’r materion a godwyd yn y darn yma, e-bostiwch policy@wcva.cymru.