codwr arian hapus yn eistedd wrth laptop

Codwyr arian gwirfoddol ar-lein

Cyhoeddwyd: 04/05/20 | Categorïau: Cyllid, Awdur: Emma Morgan

Mae Emma Morgan, sy’n wirfoddolwr i CGGC, yn esbonio pam y dylech ystyried creu rolau codi arian rhithwir gwirfoddol i’ch mudiad.

Mae argyfwng Covid-19 yn profi i fod yn amser heriol i’r sector wrth i incwm o fasnachu a digwyddiadau codi arian ostwng yn sylweddol. Mae cyfraniadau gan unigolion yn bwysicach nag erioed fel ffynhonell incwm reolaidd i nifer o fudiadau ar hyn o bryd. Ydych chi wedi ystyried ychwanegu rôl gwirfoddolwr codi arian at eich cynnig gwirfoddoli er mwyn ychwanegu at hyn?

Gallai creu rolau codi arian gynyddu incwm eich mudiad. Gan fod cymaint o bobl wedi’u rhoi ar ffyrlo neu’n methu â mynychu eu gweithleoedd, mae galw sylweddol ymysg y cyhoedd am gyfleoedd i gyfrannu a helpu mudiadau trwy wirfoddol yn ystod yr argyfwng. Gallai cyfuno’r brwdfrydedd hwn i helpu â rolau codi arian ddarparu adnodd ariannol ychwanegol y bydd dirfawr ei angen ar eich mudiad dros y misoedd nesaf.

Sut gallwn gynnwys gwirfoddolwyr yn ein hymdrechion codi arian?                           

Gall gwirfoddolwyr fod yn llysgenhadon gwych dros eich achos. Gallai eu brwdfrydedd a’u syniadau dyfeisgar godi arian yn ogystal â chynyddu lefelau ymgysylltiad y cyhoedd â’ch mudiad. Fodd bynnag, cyn croesawu’r gwirfoddolwyr gwerthfawr hyn, mae’n werth treulio peth amser yn ystyried sut byddwch yn cyflwyno’r rôl i’ch sefydliad.

Pwy fydd yn cydlynu ac yn cysylltu â’r gwirfoddolwyr? A fyddwch yn gosod targedau codi arian? Bydd y gwirfoddolwyr hyn yn cymell eu hymdrechion codi arian eu hunain, felly beth allwch chi ei wneud i gefnogi a llywio’u hymdrechion?

  • Gallwch amlinellu awgrymiadau ar gyfer codi arian, megis teithiau cerdded, tawelwch noddedig neu rywbeth mwy creadigol, hyd yn oed
  • Mae amserlennu galwadau rheolaidd yn ffordd dda o gynefino a monitro gwirfoddolwyr tra’u bod nhw wedi’u lleoli gartref. Mae hyn o fudd i chi fel mudiad, gan y bydd yn eich galluogi i fonitro unrhyw gynnydd a sicrhau eu bod yn dilyn y Côd Ymddygiad Codi Arian ac mae’n cynorthwyo gwirfoddolwyr i deimlo’u bod yn cael eu cynnwys fel aelod gwerthfawr o’r tîm.

Cofiwch ystyried

Gan na all gwirfoddolwyr gymryd lle gweithwyr cyflogedig, rhaid iddynt gael eu hystyried i fod yn cefnogi rolau staff sy’n bodoli eisoes; mae unrhyw godi arian a wneir ganddynt yn dod â gwerth ychwanegol i’r mudiad.

Recriwtio a hysbysebu                                  

Unwaith y bydd gennych syniad clir o’r cyfleoedd codi arian y gallwch eu cynnig i wirfoddolwyr, y cam nesaf fydd ystyried sut i’w recriwtio.

  • Pa fath o berson (neu grwpiau o bobl) fyddai â diddordeb mewn codi arian i’ch achos arbennig chi? Meddyliwch am unigolion, ond meddyliwch hefyd sut y gallai grwpiau o bobl gyfrannu, h.y. gweithwyr, grwpiau ieuenctid, teuluoedd
  • Sut byddwch chi’n eu denu i godi arian i’ch mudiad ynghanol cystadleuaeth sylweddol?
  • Sut allwch chi hyrwyddo’r cyfle codi arian mewn modd sy’n golygu y bydd codwyr arian posibl yn cael eu hysbrydoli i godi arian i chi?

Hysbysebu ar Gwirfoddoli Cymru

Mae hysbysebu am ddim ar wefan Gwirfoddoli Cymru yn ffordd wych o gyrraedd gwirfoddolwyr awyddus. Ers cychwyn argyfwng Covid-19 mae miloedd o bobl wedi cofrestru ar y wefan, gan eu bod yn awyddus i helpu yn ystod yr argyfwng. Un fantais o ddefnyddio’r wefan hon yw y gallai eich codwyr arian rhithwir ddod o bell ac agos ledled y wlad. Trwy hysbysebu’n ehangach fel hyn gallech hyd yn oed recriwtio gwirfoddolwyr nad ydynt wedi clywed am y gwaith gwych rydych chi’n ei wneud.

Er mwyn eich cynorthwyo i greu rôl gwirfoddolwr codi arian rhithwir ddeniadol rydym wedi creu templed i chi ei ddefnyddio. Bydd hwn yn ddefnyddiol er mwyn uwchlwytho’r rôl i blatfform Gwirfoddoli Cymru (www.volunteering-wales.net)