Mae Jessica Williams, Rheolwr Polisi a Rhanddeiliaid Cymru’r Comisiwn Elusennau yn rhannu ystyriaethau codi arian allweddol i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru gan ystyried y canllawiau diwygiedig.
Mae llawer o elusennau yn dibynnu ar roddion cyhoeddus i gyllido eu gweithgareddau a’u gwasanaethau. Gwnaeth y Comisiwn Elusennau ddiweddaru eu canllawiau ar godi arian (CC20) yn ddiweddar ac mae darn ar wahân ar apeliadau brys (CC40), yma i helpu elusennau i godi arian yn hyderus. Gyda’i gilydd, maen nhw’n cyflwyno fframwaith ymarferol ar gyfer codi arian mewn modd cyfrifol, moesegol ac effeithiol.
PAM YDYM NI WEDI DIWYGIO’R CANLLAWIAU?
Mae haelioni’r cyhoedd yn parhau i fod yn dyngedfennol; cafodd £31.4 biliwn ei gyfrannu mewn rhoddion a chymynroddion yn unig yn 2023, sydd bron yn un rhan o dair o incwm elusen. Ac eto, mae ein hymchwil yn 2025 yn dangos bod llai o bobl wedi rhoi neu godi arian yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf, sy’n golygu y gall fod angen i elusennau weithio’n galetach i ddenu a chynnal cymorth gan y cyhoedd.
BETH SYDD WEDI NEWID?
Gall cadw i’r funud â chyfraith codi arian deimlo’n llethol. Rydyn ni wedi cwtogi’r ddau ganllaw, fel y gall ymddiriedolwyr gael y prif negeseuon yn gyflym.
Dylid darllen canllawiau’r Comisiwn Elusennau ochr yn ochr â Chod Ymarfer Codi Arian y Rheoleiddiwr Codi Arian, a ddiweddarwyd y llynedd.
CODI ARIAN YW BUSNES Y BWRDD
Dylai’r ffordd rydych chi’n codi arian adlewyrchu eich elusen, ei diben a’r gwerthoedd a’r gwahaniaeth y mae eisiau ei wneud. Mae hyn yn golygu bod codi arian yn gyfrifoldeb llywodraethu. Yn y pen draw, mae’r ymddiriedolwyr yn atebol am sut caiff arian ei godi yn enw’r elusen. Hyd yn oed os mai staff, gwirfoddolwyr neu asiantaethau allanol sy’n cynnal y gweithgareddau codi arian bob dydd, rhaid i’r ymddiriedolwyr osod y cyfeiriad, cymeradwyo’r strategaeth a sicrhau trosolwg priodol o’r dechrau i’r diwedd.
DECHRAU GYDA DIBEN
Dylai elusennau fod yn hyderus bod pob gweithgaredd codi arian yn cefnogi dibenion y mudiad ac yn cyd-fynd â’i werthoedd. Mae CC20 yn annog elusennau i ofyn cwestiynau syml ond pwysig, fel:
- Pa effaith ydyn ni’n ceisio ei chyflawni?
- Sut byddwn ni’n defnyddio’r arian a godir gennym?
- Beth yw’r risgiau?
Bydd hyn yn eich helpu i ganolbwyntio a llunio cynllun codi arian. Cadwch ef yn gymesur – os ydych chi’n codi arian ar raddfa fechan, gall dogfen fer, glir fod yn ddigon.
GWYBOD EICH RISGIAU
Mae codi arian yn cyflwyno risgiau. Mae rhai’n ariannol – fel methu â chodi’r swm roeddech chi’n ei ddisgwyl. Mae eraill yn ymwneud ag enw da, partneriaethau neu natur yr ymgyrch. Er enghraifft, gall risgiau godi wrth:
- weithio gyda mudiadau allanol
- ymhél â chodwyr arian proffesiynol a chyfranogwyr masnachol (cwmni neu unigolyn sy’n nodi y bydd yr arian y byddant yn ei godi o werthu nwyddau neu wasanaethau, neu o ryw weithgarwch masnachol arall, yn cael ei roi i elusen neu elusennau)
- cynnal apeliadau emosiynol iawn neu rai proffil uchel
Disgwylir i elusennau ddeall y risgiau sy’n berthnasol iddyn nhw a’u rheoli’n effeithiol a gall y gyfraith helpu gyda hyn.
APELIADAU BRYS: GWEITHREDU’N GYFLYM, MEDDWL YN OFALUS
Mae CC40 yn ymdrin ag apeliadau brys ac yn cydnabod awydd y cyhoedd i roi’n gyflym mewn ymateb i ddigwyddiadau mawr neu argyfyngau dyngarol. Gall apeliadau bryd fod yn bwerus, ond mae angen meddwl amdanyn nhw’n ofalus. Cyn lansio apêl, dylai elusennau fod yn hyderus ynghylch y canlynol:
- rôl yr elusen mewn ymateb
- eu gallu i gyflawni
- sut bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio’n ymarferol
Uwchlaw popeth, cofiwch y gallwch ddim ond codi arian at ddibenion eich elusen, a gall CC40 eich helpu gyda hyn.
CAMAU NESAF: MEITHRIN YMDDIRIEDAETH AR GYFER YR HIRDYMOR
Codi arian yw eich ffordd chi o gysylltu â’r cyhoedd i’w hannog i’ch cefnogi. Ond mae hefyd yn bwysig sicrhau nad yw haelioni’r cyhoedd yn cael ei gymryd yn ganiataol ar unrhyw adeg.
Mae llywodraethiant a rheolaethau cryf yn diogelu ymddiriedaeth y cyhoedd. Pan mae gan roddwyr ffydd yn uniondeb eich elusen, maen nhw’n fwy tebygol o roi eto.
Yn eich cyfarfod Bwrdd nesaf, heriwch a yw eich strategaethau a pholisïau codi arian ac unrhyw apeliadau arfaethedig yn adlewyrchu’r canllawiau. Os nad ydynt, cymerwch yr amser i wneud y newidiadau angenrheidiol. Byddant yn debygol o arbed amser ac adnoddau a chadw eich enw da yn yr hirdymor.
Gallwch ddod o hyd i’r canllawiau newydd ar gov.uk: