Dyn yn darparu sesiwn ar codi arian

Codi arian a’r Coronafeirws: byddwch yn hyderus a mynd ar-lein

Cyhoeddwyd: 30/03/20 | Categorïau: Cyllid, Awdur:

Oherwydd y pandemig coronafirws mae elusennau yng Nghymru yn colli incwm wrth i ddigwyddiadau codi arian gael eu canslo a rhoddion unigol lleihau. Mae gan Alison Pritchard, Rheolwr Cyllido Cynaliadwy i CGGC, ychydig o gyngor i elusennau ar sut i wella eu presenoldeb codi arian ar-lein.

Mae elusennau ar hyd a lled Cymru, ac yn wir ym mhob rhan o’r byd, yn gweld gostyngiadau aruthrol mewn incwm wrth i ddigwyddiadau masnachu a chodi arian ddod i stop yn ystod cyfnod o gadw pellter cymdeithasol a chyfyngiadau symud ledled y byd. Gallai llai o roddion ddod trwy law unigolion hefyd wrth i bobl ystyried yr ansicrwydd ynghylch eu hincymau eu hunain dros y misoedd i ddod. Rwy’n annog elusennau i feddwl am sut gallant newid neu gryfhau eu ‘dulliau codi arian’ er mwyn annog rhoddion yn ystod y cyfnod hwn. 

Gofynnwch

Y rheol gyntaf wrth godi arian yw ‘trwy ofyn mae cael’ (‘if you don’t ask, you don’t get’). Defnyddiwch ba bynnag offer cyfathrebu ar-lein sydd gennych i ofyn i’ch rhwydweithiau a fyddent yn ystyried eich cefnogi. Gallai hyn fod ar gyfer gwasanaethau ychwanegol rydych chi’n eu cynnig mewn ymateb i’r argyfwng neu i gadw’r drysau ar agor.

Mae’r bobl hynny sy’n gallu gweithio o gartref heb i’w hincymau gael eu heffeithio siŵr o fod yn arbed arian. Ni allant gael eu paneidiau coffi dyddiol, mae’r aelodaeth i’r gampfa wedi’i rhewi ac mae pobl yn cael eu hannog i siopa am fwyd mewn ffyrdd nad ydynt yn cynnwys tueddiadau i ‘daro i’r siop i brynu cinio’ bob dydd. Gallai rhai arbed dros £100 y mis.

Peidiwch â bod ofn rhannu pa mor ddifrifol yw eich amgylchiadau. Mae’r hashnod #Pobdyddyncyfri AR Twitter yn llawn pobl o’r sector gwirfoddol sy’n rhannu pa mor bwysig yw elusennau i gymdeithas a’r hyn y gallai ei olygu i’w cymunedau a defnyddwyr gwasanaethau pe bai nhw’n gorfod cau.

Gallwch hefyd ofyn i’ch cefnogwyr cyfredol, yn enwedig y rheini a allai fod wedi bod yn cynllunio gwneud digwyddiad ar eich cyfer, i i wneud rhai gweithgareddau codi arian ar-lein yn lle hynny. Mae’r erthygl hwn yn rhestru rhai awgrymiadau: https://www.civilsociety.co.uk/news/charities-resort-to-stay-at-home-campaigns-to-raise-funds.html a gall unigolion gynnal digwyddiadau codi arian ar eu proffiliau Facebook ac Instagram personol.

Achos clir dros gefnogaeth

Defnyddiwch ffeithiau a ffigurau i helpu i ddangos pa mor bwysig gallai rhodd rhywun fod. Gallai hyn gynnwys:

  • faint o arian mae’n costio fesul sesiwn/wythnos/mis i ddarparu gwasanaeth arbennig
  • faint o incwm sy’n cael ei golli drwy gau gweithrediadau masnachu
  • beth allai rhoddion o wahanol symiau eu golygu:
    • e. bydd £20 yn galluogi’ch llinell gyngor i aros ar agor am awr arall i gefnogi pobl agored i niwed sydd wedi’u heffeithio gan y feirws
    • bydd £30 yn talu i fwyd gael ei gludo i rywun agored i niwed sydd wedi’i ynysu gartref
  • faint o bobl rydych chi fel arfer yn eu helpu yn ystod wythnos/mis/blwyddyn gyda’ch lefelau arferol o incwm
  • faint o bobl ychwanegol allech chi eu helpu sydd wedi dod yn rhai a ystyrir yn bobl agored i niwed oherwydd y feirws?

Byddwch yn dryloyw ynghylch pam eich bod yn codi arian – ydych chi’n codi arian i gynnig gwasanaethau ychwanegol i’ch gweithgareddau dyddiol er mwyn ymateb i’r anghenion ychwanegol sydd wedi codi yn sgil y coronafeirws neu’n codi arian i gadw’r mudiad i fynd gan fod eich incwm wedi gostwng cymaint. Mae’r ddau reswm hyn yn rhesymau dilys tu hwnt i gynyddu eich gweithgareddau codi arian.

Anogwch eich cwsmeriaid i ddod yn rhoddwyr

Os daw llawer o’ch incwm o fasnachu, boed hynny drwy gaffi, siop, gwerthiannau mynediad/tocynnau neu unrhyw beth arall, gallwch gyfleu eich neges i gwsmeriaid rheolaidd. Fel y soniwyd uchod, mae’n bosibl fod rhai o’ch cwsmeriaid yn arbed arian. Gofynnwch iddynt droi eu pryniannau rheolaidd yn rhodd yn lle hynny, i helpu’ch mudiad i ddod drwy’r cyfnod hwn. Efallai y gallech gynnig talebau rhodd, a fydd yn cynnig incwm mawr ei angen i chi nawr, ac yn rhoi cyfle i’r cwsmeriaid eu defnyddio pan fyddwn ni’n dychwelyd i fywyd ‘arferol’ yn y misoedd i ddod.

Os ydych chi mewn sefyllfa lle rydych chi’n cynnig ad-daliadau am archebion, mae hwn yn gyfle i chi annog rhoddion yn lle hynny. Gweler isod enghraifft wych o hyn gan Ŵyl y Gelli:

Gwnewch hi’n hawdd i bobl roi

Yn fy marn i, hon yw’r ail reol wrth godi arian – ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i bobl roi arian i chi; lleihau unrhyw rwystrau. Yn ystod y cyfnod hwn o ynysu a chadw pellter cymdeithasol, mae hyn yn golygu codi arian ar-lein.

  • Ychwanegwch fotwm rhoi at eich gwefan neu dudalen Facebook. Gwnewch ef yn amlwg ar y dudalen hafan ac ar unrhyw dudalennau eraill sy’n briodol yn eich tyb chi (Paypal yw un o’r ffyrdd hawsaf o wneud hyn os ydych chi’n elusen gofrestredig)
  • Mae Facebook ac Instagram yn cynnig swyddogaethau codi arian a allai fod yn werth chweil, ond dim ond os oes gennych chi gynulleidfaoedd da ar y platfformau hynny yn barod (neu gefnogwyr sydd â chynulleidfaoedd da ar y platfformau hynny)
  • Mae Crowdfunder yn cynnig cyllid torfol heb dâl drwy gydol yr argyfwng hwn – https://www.crowdfunder.co.uk/funds/charities
  • Mae JustGiving yn hepgor ffioedd trafodiadau (y maen nhw fel arfer yn annog rhoddwyr i dalu amdanynt) yn ystod yr argyfwng – https://www.justgiving.com/

Mae Local Giving yn blatfform rhoi ar-lein gwych ar gyfer mudiadau nad ydynt wedi’u cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau