Mae dau godwr arian elusennol ar y stryd yn cymharu nodiadau cyn siarad ag aelodau'r cyhoedd, maen nhw'n dal tabled a chlipfwrdd, mae'r ddwy yn ymddangos fel menywod ifanc

Cod Ymarfer Codi Arian newydd yn dod i rym yr wythnos yma

Cyhoeddwyd: 27/10/25 | Categorïau: Cyllid,Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Martin Price

Bydd y Cod Ymarfer Codi Arian newydd mewn grym o 1 Tachwedd 2025. Dyma Martin Price, yr Aelod o Fwrdd y Rheoleiddiwr Codi Arian sy’n cynrychioli Cymru, i ddweud wrthym beth i’w ddisgwyl.

Bydd y penwythnos yma’n garreg filltir bwysig i elusennau yng Nghymru a ledled y DU. O 1 Tachwedd 2025 ymlaen, bydd y Cod Ymarfer Codi Arian newydd yn dod i rym, wedi cyfnod pontio chwe mis o hyd.

Mae’r cod yn gosod y safonau ar gyfer codi arian i elusennau ledled y DU. Dyma’r adolygiad mawr cyntaf er 2019 a’r diweddariad mwyaf arwyddocaol ers sefydlu’r Rheoleiddiwr Codi Arian.

GWNEUD Y COD YN HAWS I’W DDEFNYDDIO

Dywedodd elusennau yng Nghymru wrthym eu bod eisiau cod a oedd yn gliriach, yn haws ei ddefnyddio, ac yn gallu cael ei addasu i fod yn berthnasol i ffyrdd modern o godi arian. Mae’r cod newydd 45% yn fyrrach na’r fersiwn flaenorol ac mae wedi’i drefnu ar sail egwyddorion, gyda gwell cyfeiriadau at ganllawiau cyfreithiol a chanllawiau ar gyfer sectorau penodol.

Er bod y cod yn fyrrach ac yn haws ei ddefnyddio, mae’n bwysig nodi ei fod yn dal i gynnwys yr un mesurau diogelu cryf ar gyfer y cyhoedd a oedd eisoes ar waith.

Mae’r dull hwn yn ei gwneud yn haws i sefydliadau o bob maint roi’r safonau ar waith yn ymarferol a dod o hyd i’r canllawiau manwl cywir pan fo angen.

BETH SY’N NEWYDD YN Y COD?

Erbyn heddiw, mae arian yn cael ei godi mewn amrywiaeth eang o ffyrdd nad ydyn nhw’n cynnwys staff, o fannau rhoi digyswllt a chodau QR i fanciau dillad a bagiau elusen. Mae’r cod newydd yn gosod disgwyliadau cyson fel bod rhoddwyr wastad yn gallu cael gafael ar wybodaeth glir a chywir am bwy maen nhw’n eu cefnogi a sut y bydd eu rhodd yn cael ei defnyddio. Os oes trydydd parti’n gysylltiedig â’r codi arian, rhaid egluro eu manylion a’u rôl hwythau hefyd.

Am y tro cyntaf, mae’r cod hefyd yn nodi’n glir bod yn rhaid i elusennau gymryd camau rhesymol i ddiogelu codwyr arian rhag niwed a rhag unrhyw aflonyddu arnynt. Mae hyn yn berthnasol lle bynnag mae arian yn cael ei godi, boed wyneb yn wyneb, ar-lein neu dros y ffôn. Mae’n golygu bod angen prosesau clir i roi gwybod am broblemau a gwneud yn siŵr eu bod yn cael sylw. Mae’r rheol yn berthnasol i bawb sy’n codi arian ar ran elusen.

CEFNOGI ELUSENNAU YNG NGHYMRU

Mae llawer o elusennau yng Nghymru yn ystyried ffyrdd newydd o godi arian, gan gynnwys codi arian drwy roddion. Yn aml bydd elusennau llai, yn enwedig, yn wynebu heriau ychwanegol o ran dod o hyd i’r amser a’r adnoddau i wneud hyn.

Bydd cod byrrach, cliriach yn ei gwneud yn haws i ymddiriedolwyr a staff ddeall eu cyfrifoldebau a rhoi’r safonau ar waith yn hyderus. Ar gyfer y sefydliadau hynny y mae rheoleiddio codi arian yn faes newydd iddynt, byddwn yn cyhoeddi canllaw rhagarweiniol ar ddefnyddio’r Cod Ymarfer Codi Arian cyn bo hir.

ADNODDAU I SEFYDLIADAU YNG NGHYMRU

Mae’r cod a’r canllawiau cymorth sy’n cyd-fynd ag ef ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’r canllawiau hyn yn trafod meysydd fel dogfennu penderfyniadau codi arian, diwydrwydd dyladwy a gweithio gyda phartneriaid. Ar gyfer sefydliadau sydd â chwestiynau penodol am sut i roi’r safonau ar waith, mae ein gwasanaeth cyngor ar y Cod (Code Advice Service) ar gael am ddim i roi cymorth un-i-un wedi’i deilwra.

Rydyn ni eisoes wedi ymgysylltu’n eang â’r sector yng Nghymru ynghylch y newidiadau i’r cod. Mae hyn wedi cynnwys gweminar mewn partneriaeth â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) a mynd i nifer o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb a rhithwir yng Nghymru, gan gynnwys gofod3. Rydyn ni’n deall bod elusennau yng Nghymru yn gweithredu yn eu hamgylchiadau unigryw eu hunain, a byddwn yn parhau i sicrhau bod ein gwasanaethau allgymorth a chymorth ar gael iddynt.

EDRYCH I’R DYFODOL

Mae cyflwyno’r cod newydd y penwythnos yma yn gam pwysig ymlaen ar gyfer safonau codi arian. Mae’n adlewyrchu realiti codi arian heddiw, gan sicrhau hefyd bod y mesurau diogelu sydd eisoes ar waith ar gyfer y cyhoedd yn aros yn gadarn yn eu lle.

Ar gyfer elusennau yng Nghymru, mae’r cod newydd yn darparu fframwaith ymarferol i roi arweiniad ar sut i godi arian mewn ffordd foesegol mewn amgylchedd sy’n newid. Wrth ddefnyddio’r safonau, gallwch feithrin perthynas gryfach â rhoddwyr, diogelu enw da eich sefydliad, a chyfrannu at ymddiriedaeth y cyhoedd yn y sector yn ehangach.

Darllenwch fwy am y cod newydd yn www.fundraisingregulator.org.uk.