Dyma Sara Moseley, Pennaeth y Cyngor Meddygol Cyffredinol (CMC) yng Nghymru, yn siarad am y cyfle allweddol hwn i leisio’ch barn am arfer meddygol da.
Rhwng 27 Ebrill a 20 Gorffennaf, mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn ymgynghori ar fersiwn wedi’i diweddaru o Arfer meddygol da – y safonau ymddygiad proffesiynol a gofal cleifion a ddisgwylir gan bob meddyg yn y Deyrnas Unedig.
Fel rheoleiddiwr meddygon yng Nghymru, mae’n hollbwysig inni glywed gan gleifion o Gymru. Rydym yn ymwybodol bod anghenion cleifion yn amrywio ledled Cymru. O’i chymunedau gwledig i’w dinasoedd bywiog ac amrywiol: rydym yn awyddus i glywed lleisiau Cymry o bob cefndir.
PWY YDW I?
Sara Moseley ydw i, Pennaeth y Cyngor Meddygol Cyffredinol (CMC) yng Nghymru. Mae’r CMC yn gweithio i warchod cleifion ac i wella addysg ac ymarfer meddygol ar draws y DU. Rydym yn gosod y safonau y mae angen i feddygon eu dilyn drwy gydol eu gyrfaoedd.
PAM MAEN NHW’N NEWID?
Ers i ni gyhoeddi’r fersiwn gyfredol yn 2013, mae’r ffordd yr ydym yn cael mynediad at ofal wedi newid.
Rydym yn adolygu’r canllaw i wneud yn siŵr eu bod yn cyd-fynd â’r materion sy’n bwysig i gleifion a gweithwyr meddygol proffesiynol, nawr ac yn y dyfodol.
PWYSIGRWYDD LLAIS Y CLAF
Bydd pob un ohonom ar ryw adeg yn ein bywydau yn derbyn gofal meddygol. Mae’n hanfodol bwysig bod cleifion a’r cyhoedd yn dal ar y cyfle i lunio dyfodol safonau gofal a fydd yn effeithio ar gynifer.
CYMERWCH RAN
Er mwyn sicrhau bod llais cleifion Cymru i’w glywed, ewch ati i gwblhau ein holiadur ar gyfer cleifion, gofalwyr, a grwpiau cleifion. Gallwch ymateb yn Gymraeg neu Saesneg. Dylai gymryd rhwng pump a 15 munud i’w gwblhau, ond bydd effaith yr ymatebion i’w deimlo am flynyddoedd i ddod.
Rydym am i’r fersiwn wedi’i diweddaru helpu meddygon i ddarparu’r gofal gorau posibl am flynyddoedd lawer i ddod.
I ddod o hyd i ragor o wybodaeth ewch i’n tudalen we, neu cysylltwch â gmcwales@gmc-uk.org.