Mae Jo Davies a Lynne Connolly o CGGC yn rhannu eu profiad o fynychu cynhadledd Conffederasiwn GIG Cymru.
CYNHADLEDD CONFFEDERASIWN GIG CYMRU
Mae mudiadau gwirfoddol yn chwarae rôl allweddol ochr yn ochr â gwasanaethau cyhoeddus, gan gael effaith sylweddol ar ymyriadau cynnar ac ataliol. Wrth i wasanaethau ddod yn fwyfwy ddibynnol ar y sector, mae’n rhaid i fudiadau gael eu cynnwys mewn trafodaethau ynghylch dylunio gwasanaethau, llwybrau gofal ac arloesedd.
Trwy gyfuno gwybodaeth arbenigol a data ar draws sectorau, gallwn wella’r gwasanaethau a ddarperir a chael mwy o effaith gyfunol. Gan ystyried yr holl bethau hyn, gwnaeth Jo Davies, Pennaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol CGGC, a Lynne Connolly, Pennaeth Helplu Cymru, fynychu cynhadledd Conffederasiwn GIG Cymru i chwifio’r faner dros bwysigrwydd y sector. Gwnaethant gyflwyno gweithdy allweddol ar gyfer y sector a chlywed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
GWELLA PERFFORMIAD Y GIG
Cafodd y prif anerchiad ei wneud gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a oedd yn edrych ar wella perfformiad y GIG a diogelu’r GIG ar gyfer y dyfodol.
Mae nifer o gynlluniau ar droed ynghylch gwella perfformiad.
- Lleihau amserau aros: Gan adeiladu ar ymdrechion presennol fel y Rhaglen Chwe Nod a’r Her 50 Diwrnod, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £28 miliwn mewn cyllid i leihau ôl-groniadau
- Mewnwelediadau a yrrir gan ddata: Bydd adolygiadau data chwarterol yn cael eu cynnal ar draws saith bwrdd iechyd Cymru, a fydd yn nodi arferion gorau ac yn amlygu’r meysydd i’w gwella
- Llywodraethiant ac Atebolrwydd: Mae’r Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Berfformiad a Chynhyrchiant, a gadeirir gan Ann Lloyd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, wedi cyhoeddi adroddiad yn amlinellu argymhellion i gryfhau llywodraethiant ac atebolrwydd
- Cydweithrediad ac arweinyddiaeth: Cefnogi arweinyddiaeth gref er mwyn gosod disgwyliadau clir, sefydlu rolau a chyfrifoldebau sydd wedi’u diffinio’n dda, sicrhau atebolrwydd i fyrddau iechyd a meithrin cydweithrediad
O ran diogelu ar gyfer y dyfodol, mae’r ffocws hirdymor ar sicrhau cynaliadwyedd y GIG yng ngŵydd yr heriau, gan gynnwys demograffeg newidiol y boblogaeth, datblygiadau mewn technoleg gofal iechyd a chyfyngiadau ariannol.
Pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet yr angen am gydweithrediad ar draws Byrddau Iechyd, gan annog pobl i rannu arferion gorau a meithrin arloesedd. Roedd yn cefnogi dull gweithredu ‘Unwaith dros Gymru’ a fyddai’n safoni prosesau, gan hefyd ganiatáu hyblygrwydd ar gyfer datrysiadau lleol a rhanbarthol sydd wedi’u teilwra at anghenion penodol.
YDYN NI’N GYFARTAL?
Cafodd Jo wahoddiad i gyflwyno mewn sesiwn o’r enw ‘A ydym ni’n bartneriaid cyfartal’.
Rhannodd ychydig o wybodaeth o’n gwaith casglu data a rhai o’r problemau i’r sector gwirfoddol wrth weithio yn y system iechyd a gofal.
Gofynnodd, ‘a oes angen i ni fod yn bartneriaid cyfartal i weithio’n dda gyda’n gilydd a chyflawni canlyniadau llesiant da?’
Dyma rai o uchafbwyntiau’r drafodaeth:
- Natur ansicr atgyfeiriadau rhwng gwasanaethau statudol a’r sector gwirfoddol, a’i bod hi’n anodd i’r sector gwirfoddol gael atgyfeiriadau gan y sector statudol
- Gweithwyr cymdogaeth a chymunedau dyfeisgar
- Y potensial am ddrwgdybiaeth rhwng y sector gwirfoddol a Llywodraeth Cymru. Pan mae’r sector yn ceisio rhoi adborth neu ddylanwadu, maen nhw’n gallu cael eu gweld fel lobïwyr
- Grym hunangyfeirio – os oes rhywun yn cael diagnosis, dylai gael mynediad at dapestri o wybodaeth
Cynnig gan yr Hwb Gwyddorau Bywyd i gefnogi’r sector gyda cheisiadau a chynigion grant.
SUT MAE’R GROES GOCH BRYDEINIG YN HELPU CLEIFION SYDD GARTREF O’R YSBYTY
Cyflwynodd y Groes Goch Brydeinig weithdy arall. Mae wedi bod yn cael effaith sylweddol ar draws adrannau brys gyda’i Wasanaeth Llesiant a Diogelwch Cartref, sydd wedi bod yn cefnogi cleifion a staff ers Rhagfyr 2018. Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei gyllido gan fyrddau iechyd unigol nawr ac mae’n gweithredu mewn saith ysbyty ledled Cymru. Caiff ei gydnabod am ei bartneriaeth gref â’r GIG, ac mae wedi rhoi cymorth hanfodol i fwy nag 1.2 miliwn o bobl hyd yn hyn. Mae tîm y Groes Goch yn helpu cleifion a’u teuluoedd drwy gydol eu cyfnod yn yr ysbyty ac ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, gan sicrhau bod cleifion yn dychwelyd adref yn ddiogel ac yn treulio llai o amser yn yr ysbyty.
Yn ogystal â chynorthwyo â thasgau ymarferol, fel casglu meddyginiaeth a chanlyniadau profion, mae’r tîm yn cynnig cymorth emosiynol, yn helpu gydag atgyfeiriadau i wasanaethau cymunedol ac yn sicrhau bod cartrefi cleifion yn ddiogel pan fyddant yn cael eu rhyddhau.
GWERTH SIARAD
Roedd hi’n braf sgwrsio â Faye Patton o fudiad Gofal a Thrwsio Cymru am rôl y sector mewn cefnogi llwybrau o’r ysbyty i’r cartref a thrafod datblygu’r gweithdai sydd eisoes yn cael eu cynnal gan y Prosiect Iechyd a Gofal ar y pwnc.
Roedd hi hefyd yn hyfryd cwrdd ag wynebau cyfarwydd o’r byd ar-lein. Rhoddodd Dr Tracy Breathnach o Rwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru becyn llesiant hyfryd i ni. Gwnaethom hefyd drafod rhai syniadau ardderchog a oedd yn ymwneud ag edrych ar ymchwil i werth ac effaith ymyriadau ataliol.
Roedd yn ddiwrnod ardderchog ar y cyfan – gwnaethom lawer o gysylltiadau defnyddiol â phobl, mwynhau’r holl sesiynau, a gadael gyda digon o bethau i feddwl amdanynt.
AM FWY O WYBODAETH
Ewch i ganfod mwy am y Prosiect Iechyd a Gofal, a darllen rhai astudiaethau achos am waith gwych y sector yn y maes iechyd a gofal.