Cyfleoedd gwirfoddoli amlwg, cyllid, a chadw mewn cysylltiad ag eraill – y newyddion diweddaraf gan Felicitie Walls o CGGC wrth iddi rannu ei phrif awgrymiadau ar gyfer Rheolwyr Gwirfoddol yng Nghymru.
Rydyn ni’n aml yn siarad am y ‘sector’ mewn termau haniaethol, ond os ydych chi’n rheoli gwirfoddolwyr yn 2026, mae’r realiti yn llawer mwy personol. Mae’n ymwneud â sicrhau cydbwysedd rhwng cefnogi cymunedau gan sicrhau nad ydym heb adnoddau ein hunain.
Gyda Blwyddyn Ryngwladol Gwirfoddolwyr y Cenhedloedd Unedig o’n blaenau, mae’n amser gwych i oedi ac edrych ar y darlun mawr. Mae ein cenedl, o’i gymharu â llawer o rai eraill ledled y byd, yn ffodus i gael cefnogaeth a seilwaith sy’n hwyluso gwirfoddoli.
Mae hynny’n wych – ond mae angen i chi wybod y pethau hanfodol.
1. MAE’R DULL NEWYDD O WIRFODDOLI YNG NGHYMRU YMA
Yr haf diwethaf lansiodd Llywodraeth Cymru a CGGC y Dull Newydd o wirfoddoli. Mae llawer wedi bod yn digwydd y tu ôl i’r llenni ers hynny, ond beth mae’r Dull Newydd yn ei olygu i chi ar lawr gwlad?
Mae’n dechrau gyda gweledigaeth ar gyfer 2030. Cymru lle mae gwirfoddoli yn ‘ffordd o fyw’, gan wella lles pobl, eu cymunedau a’u hamgylcheddau drwy wirfoddoli cynhwysol, diogel, cynaliadwy a gyda chefnogaeth. Y tu hwnt i’r weledigaeth mae fframwaith wedi’i gynllunio i sicrhau nad rhywbeth y bydd pobl yn meddwl amdano wedyn neu rywbeth ‘neis ei gael’ yw gwirfoddoli ond ei fod yn cael ei gynnwys yn llawn ar draws polisïau a chyllidebau.
Dychmygwch pe bai arweinyddiaeth, amcanion clir a chyfraniad gwirfoddolwr o’r diwrnod cyntaf yn rhan o bob rhaglen? Cymerwch olwg ar y Dull Newydd ac ystyriwch sut y gallai’r ffactorau galluogi hyn effeithio ar eich dull o wirfoddoli?
2. CYFLEOEDD GWIRFODDOLI AMLWG – YDI POBL YN GALLU EICH GWELD?
Dim ond os yw eich cyfleoedd gwirfoddoli’n amlwg y bydd pobl yn gallu dod o hyd iddynt a dim ond trwy greu hysbyseb gwirfoddoli o ansawdd uchel y byddan nhw’n denu’r gwirfoddolwyr cywir!
Rydyn ni’n gwybod bod gwirfoddolwyr heddiw yn chwilio am rolau gwirfoddoli hyblyg sy’n cyd-fynd â’u dyheadau penodol a’r amser sydd ganddyn nhw i’w neilltuo. (Os oes angen rhywfaint o help arnoch i ystyried y rolau, edrychwch ar y Dudalen wybodaeth Recriwtio, Dewis a Sefydlu Gwirfoddolwyr.)
Bob mis, mae nifer y bobl sy’n ymweld â llwyfan cwbl ddwyieithog Gwirfoddoli Cymru yn cynyddu, diolch i waith gwych y 19 Canolfan Wirfoddoli ledled Cymru. Bob wythnos, mae Swyddogion Datblygu Gwirfoddolwyr yn mynd i ddigwyddiadau, ffeiriau swyddi, gyda chyflogwyr yn ysbrydoli pobl i wirfoddoli a’u cyfeirio at – https://volunteering-wales.net/cy – yw eich cyfleoedd yn ddigon amlwg iddynt?
CYLLID AR GYFER GWIRFODDOLI
Mae adnoddau yn parhau i fod yn her, fodd bynnag, mae sawl cronfa benodol ar gyfer cefnogi’r tueddiadau gwirfoddoli rydyn ni’n eu gweld;
- Prif Grantiau Gwirfoddoli Cymru – er bod y cylch diweddar wedi dod i ben, cadwch lygad am recriwtio Cydlynwyr Gwirfoddolwyr, prosiectau newydd sy’n chwilio am gydweithwyr a chyfle i recriwtio gwirfoddolwyr newydd.
- Bydd Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru yn cael eu lansio yn ystod y misoedd nesaf ar gyfer y rhai sy’n awyddus i ddatgloi potensial gwirfoddoli yn unol â’r dull newydd ar gyfer Cymru.
- Grantiau a Arweinir gan Bobl Ifanc – mae’r rhain yn parhau i ffynnu ac yn gwahodd pobl ifanc i wireddu eu syniadau i roi camau cymdeithasol cymunedol mewn lleoliadau ar waith! Ym mhob ardal o Gymru mae pobl ifanc yn ariannu prosiectau dan arweiniad pobl ifanc – mynnwch wybod beth sydd ar gael yn eich ardal chi drwy gysylltu â’ch Canolfan Wirfoddoli leol.
- Mae’r Gronfa Cynnwys Gwirfoddolwyr Ifanc ar gael i gael gwared ar rwystrau sy’n atal pobl ifanc (14 – 25) rhag gwirfoddoli. Os oes gwirfoddolwr ifanc yr hoffech ymgysylltu â nhw a bod rhwystrau ychwanegol, cysylltwch â ni yn volunteering@wcva.cymru.
4. NID YW RHEOLWYR GWIRFODDOLWYR AR EU PENNAU EU HUNAIN – ER Y GALL DEIMLO’N UNIG
Yn achos nifer o Reolwyr Gwirfoddolwyr, yn aml chi yw’r unig un sy’n gyfrifol am wirfoddoli yn eich sefydliad, ac yn y byd sydd ohoni heddiw gall hynny deimlo’n arbennig o heriol. Fodd bynnag, mae rhwydwaith cysylltiedig o fforymau lleol a chenedlaethol ar-lein ac wyneb yn wyneb sydd ar gael i’ch cefnogi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y darn blaenorol, ’Cynnwys gwirfoddolwyr yng Nghymru? Ydych chi wedi’ch cysylltu?
5. MAE’N ALLWEDDOL GWYBOD Y NEWIDIADAU DIWEDDARAF YM MAES DIOGELU
Mae’r Gymuned Ymarfer Diogelu a hwylusir gan CGGC yn helpu pawb sydd â chyfrifoldeb am ddiogelu i gael eu diweddaru. Yn y sesiwn ddiweddar tynnwyd sylw at y pethau allweddol hyn:
- Mynnwch weld y copi papur – dylech bob amser weld y dystysgrif DBS drosoch eich hun – peidiwch â dibynnu ar air rhywun.
- Ceisiwch osgoi gwiriadau cyffredinol – mae’n aneffeithlon a gall fod yn risg GDPR.
Eisiau ymuno â’r Gymuned Ymarfer? E-bostiwch: safeguarding@wcva.cymru.
6. RHOWCH Y DYDDIADAU HYN YN EICH DYDDIADUR
Mae 2026 yn flwyddyn i ddathlu a throi tuag at y dull newydd o wirfoddoli. Defnyddiwch y digwyddiadau a’r ymgyrchoedd hyn fel cyfleoedd i arddangos, dylanwadu a chysylltu.
- Wythnos Elusennau Cymru – cyfle i dynnu sylw at eich effaith rhwng 9-13 Chwefror 2026.
- Wythnos Gwirfoddolwyr – 1-7 Mehefin 2026 – wythnos i ddathlu popeth y mae gwirfoddolwyr yn ei gyfrannu.
- gofod3 – digwyddiad blaenllaw blynyddol CGGC gan y sector ar gyfer y sector ar 17 Mehefin 2026 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
EISIAU MWY?
Dyma’r cyntaf mewn cyfres o ddiweddariadau ar thema gwirfoddoli sydd wedi’u paratoi er mwyn eich diweddaru. Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf gwnewch yn siŵr eich bod wedi’ch cysylltu drwy;
- Ymuno â’ch fforwm neu rwydwaith Rheolwr Gwirfoddolwyr lleol
- Dod yn bartner CGGC – mae’n cynnig nifer o fanteision ac mae am ddim
- Ymuno â’n rhestr bostio