Menyw fusnes gyda gliniadur yn gwenu ac yn gwrando ar gydweithwyr benywaidd mewn ystafell fwrdd.

Chwalu rhwystrau a chreu arweinyddiaeth gynhwysol

Cyhoeddwyd: 01/04/26 | Categorïau: Dylanwadu,Hyfforddiant a digwyddiadau, Awdur: Elen Notley

Mae Elen Notley, Pennaeth Ymgysylltu CGGC, yn rhannu’r uchafbwyntiau o’n digwyddiad diweddar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (DRhM) ar y thema ‘Rhoi i Ennill’.

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i ddathlu cyraeddiadau menywod a chodi ymwybyddiaeth o’r anghydraddoldebau y mae menywod yn parhau i’w hwynebu. Eleni oedd 115fed flwyddyn yr ymgyrch, a galla’ i ddim peidio â meddwl y dylen ni fod mewn sefyllfa well nag yr ydyn ni fel cymdeithas o ran cydraddoldeb.

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld hawliau menywod (ymhlith eraill) yn cael eu gwrthdroi, astudiaeth ddiweddar yn canfod bod dynion Gen Z yn fwy yn erbyn Menywod na’u perthnasau’r ‘Boomers’ ac mae iechyd menywod yn parhau i fod wedi’i dangyllido a’i danbrisio’n enfawr. Mae’r holl bethau hyn yn codi’r cwestiwn – ydyn ni’n mynd tu chwith?

Eleni felly, roedden ni eisiau edrych ar ba gamau ymlaen y gallwn ni eu cymryd fel unigolion a chyflogwyr i chwalu’r rhwystrau i Fenywod yn y gweithle.

IECHYD MENYWOD: DEALL A CHWALU’R RHWYSTRAU

Gwnaeth ran gyntaf ein digwyddiad ganolbwyntio ar Iechyd Menywod gydag Isabel Linton o fudiad Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW) a wnaeth gyflwyniad ar sut gall cyflyrau iechyd fod yn rhwystr.

Mae FTWW yn brwydro dros bobl â chyflyrau iechyd na adnabyddir rhyw lawer ac yn codi ymwybyddiaeth o’r bylchau rhwng polisïau safonol a phrofiadau go iawn. Mae llawer o fenywod a phobl a bennwyd yn fenyw ar adeg eu geni yn parhau i deimlo nad ydynt yn ddiogel nac yn cael eu cefnogi i ddatgelu cyflyrau iechyd er mwyn cael addasiadau yn y gweithlu. Noda eu defnyddwyr eu bod yn teimlo’u bod yn cael eu cosbi am gymryd amser o’r gwaith i fynd i apwyntiadau ac nad oes digon o empathi tuag at symptomau na ellir eu gweld.

Amlygodd y cyflwyniad gyflyrau sy’n gallu effeithio ar bobl bob dydd, gan gynnwys endometriosis, adenomyosis, gwaedu mislif trwm, ffibroidau, anhwylder dysfforig cyn y mislif (PMDD), perimenopos/menopos, cyflyrau awto-imiwn a chyflyrau niwrolegol fel ME neu epilepsi. Yn aml, mae’n cymryd cryn amser i’r cyflyrau hyn gael eu diagnosio, ond hyd yn oed heb ddiagnosis, maen nhw’n parhau i syrthio o dan gwmpas Deddf Cydraddoldeb 2010, sy’n aml yn cael eu hanghofio gan gyflogwyr.

AWGRYMIADAU I GYFLOGWYR

Amlinellodd Isabel gamau ymarferol y gall cyflogwyr eu cymryd i chwalu’r rhwystrau a chreu gweithleoedd gwirioneddol gynhwysol:

  • Cydgynllunio polisïau gyda’r staff a gofyn am gyngor arbenigol gan fudiadau allanol
  • Mabwysiadu Model Anabledd Cymdeithasol a hyfforddi pob rheolwr ar gyflyrau sy’n amrywio ac addasiadau cyfreithlon
  • Gwneud gweithio hyblyg yn ddiofyn lle bynnag y bo’n bosibl
  • Archwilio gweithleoedd am hygyrchedd: toiledau, mannau tawel, rheolaeth o’r tymheredd, arwyddion a chynnyrch mislif ar gael i’w cymryd (gan gynnwys mewn toiledau pobl anabl, nid dim ond yn nhoiledau’r menywod)
  • Cael gwared â thuedd strwythurol – peidiwch ag aros i rywun gofyn cyn gwneud newidiadau positif
  • Rhannu adnoddau yn fewnol a’i gwneud hi’n hawdd cael gafael ar gymorth

Dim ond rhai o’r camau y gall cyflogwyr eu cymryd yw’r rhain sy’n cael effaith enfawr ar unigolion.

CODI WRTH DDRINGO

Rhoddodd y drafodaeth banel ar y thema ‘Rhoi i Ennill’ fewnwelediad rhagorol i enghreifftiau unigol o Fenywod sydd wedi ysbrydoli a chodi pobl eraill a sut gall pob un ohonom ni gefnogi ein gilydd.

Amlygodd Bethan Russel-Williams, Prif Swyddog Gweithredol Mantell Gwynedd apêl Heddwch Menywod Cymru ym 1923 lle trefnodd grŵp o Fenywod ddeiseb gyda 390,296 o lofnodion (dogfen saith milltir o hyd) yn galw am gydweithrediad rhyngwladol i atal rhyfel arall. Mae hyn yn dangos grym menywod sy’n dod ynghyd i greu newidiadau ystyrlon ar gyfer y dyfodol.

Roedd mentora ac ymagweddau unigol at arweinyddiaeth yn themâu parhaol drwy gydol y drafodaeth. Siaradodd panelwyr am bwysigrwydd annog mentora personol a phroffesiynol er mwyn helpu i fagu hyder a llywio datblygiad i fenywod.

Gwnaeth yr aelodau panel hefyd drafod buddion mabwysiadu dulliau arwain sy’n canolbwyntio ar ddeall anghenion ac amgylchiadau unigolion. Gall addasu patrymau gwaith a dulliau rheoli tasgau fel y bo’n briodol i bob aelod staff helpu i gael y gorau o bobl.

BETH MAE’R DATA YN EI DDWEUD WRTHYM?

Gwnaeth y panel hefyd drafod yr *ymchwil a arweiniwyd gan CBI Cymru a Phrifysgol De Cymru ar gael gwared â’r rhwystrau at arweinyddiaeth i fenywod a’r newid sy’n bosibl pan rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i godi menywod.

Mae’r gwaith ymchwil yn amlygu heriau cyson ar lwybrau menywod at arweinyddiaeth yng Nghymru, sy’n gyferbyniad llwyr rhwng y biblinell i arweinyddiaeth y mae dynion yn ei brofi’n aml o’i gymharu â’r llwybrau llawn rhwystrau y mae menywod yn eu hwynebu’n rheolaidd. Fodd bynnag, nododd y panel fod y sector gwirfoddol, a dweud y gwir, yn arwain y ffordd pan ddaw hi i fenywod mewn rolau arwain a threfniadau gweithio mwy hyblyg.

CAMAU NESAF

Eleni, mae CGGC wedi cydweithio â Phrifysgol De Cymru a CBI Cymru i ychwanegu opsiwn ar gyfer y sector gwirfoddol yn yr Arolwg Tirwedd Arweinyddiaeth diweddaraf, er mwyn dangos y cymariaethau rhwng ein sector ni a rhai eraill. Os hoffech chi ddweud eich dweud, cwblhewch yr arolwg.

Byddwn ni’n amlygu canfyddiadau’r gwaith ymchwil hwn yn ddiweddarach eleni. I gael y diweddaraf, cofrestrwch i gael cylchlythyr CGGC.

*Saesneg yn unig