Dwy ddynes yn chwarae offerynnau cerdd i glaf yn gorwedd mewn gwely ysbyty

Cerddoriaeth mewn lleoliadau gofal yn taro’r nodyn cywir i lesiant cleifion

Cyhoeddwyd: 27/09/24 | Categorïau: Gwirfoddoli,Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Kirsty Richmond

Gall cerddoriaeth fyw mewn ysbytai a chartrefi gofal wneud byd o wahaniaeth i lesiant pobl.

DIWRNOD CERDDORIAETH RHYNGWLADOL

Mae’n Ddiwrnod Cerddoriaeth Rhyngwladol ar 1 Hydref 2024, felly roeddwn i’n meddwl y byddai’n amser gwych i Kirsty Richmond, Swyddog Storïau a Chyfryngau Cerddoriaeth mewn Ysbytai a Gofal, ddweud mwy wrthym ni.

Dychmygwch fyd heb gerddoriaeth. Dim tapio bys na siglo ychydig i rythm. Dim gwenau na chanu pob gair o gân. Dyma’r realiti i lawer o bobl mewn ysbytai a gofal.

Mae Cerddoriaeth mewn Ysbytai a Gofal wedi bod yn ymroddedig i rannu pŵer iachaol cerddoriaeth fyw ers dros 75 o flynyddoedd. Dechreuodd weithredu yng Nghymru ym 1997. Bob blwyddyn, mae rhwydwaith o gerddorion proffesiynol yn rhannu cerddoriaeth fyw gyda phobl na fyddai’n ei phrofi fel arall. Mae’r rhain yn cynnwys y rheini sy’n byw â dementia, problemau iechyd meddwl neu bobl sy’n ddifrifol wael.

PŴER CERDDORIAETH FYW

Mae gan gerddoriaeth fyw’r pŵer i ddwyn atgofion i gof ac mae’n lleihau ynysigrwydd. Gall cerddoriaeth fyw drawsnewid cydberthnasau rhwng cleifion, teuluoedd, gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, preswylwyr a gofalwyr. Pan mae pobl yn mwynhau cerddoriaeth gyda’i gilydd, maen nhw’n teimlo’n fwy cysylltiedig, ac mae hyn yn arwain at ofal mwy personoledig.

Clywir pobl yn dweud yn aml sut mae cerddoriaeth fyw yn eu helpu i deimlo o dan lai o bwysau ac yn fwy ymlaciedig. Mae cleifion yn nodi eu bod yn teimlo’n llai ymwybodol o’u poen ac yn gallu ymdopi’n well â’u triniaethau. Gall cerddoriaeth hyd yn oed helpu rhai cleifion sy’n cael trafferth cysgu, gan gynnig ymdeimlad mawr ei angen o lonyddwch a rhyddhad.

Dyma Katrina Rigby, Rheolwr Cerddoriaeth Fyw Cerddoriaeth mewn Ysbytai a Gofal Cymru a Gogledd Iwerddon i egluro:

‘Mae cerddoriaeth fyw yn cynnig dihangfa fawr ei hangen i gleifion o fwrlwm bywyd mewn ysbyty. Yng nghanol y sŵn a’r prysurdeb cyson, mae’n cynnig seibiant lleddfol, gan eu helpu i ymlacio ac anghofio’r straen am gyfnod. Mae’n ffordd syml ond pwerus i roi gwên ar wynebu rhywun a rhoi hwb i’w ysbryd.’

CERDDORIAETH MEWN YSBYTAI

Mae Cerddoriaeth mewn Ysbytai a Gofal yn gweithio mewn partneriaeth â mudiadau o’r byd Celf ac Iechyd a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn cartrefi gofal a byrddau iechyd lleol ledled Cymru. Mae’r cydweithrediad hwn yn helpu’r tîm i gyrraedd y wardiau a’r mannau iawn, diwallu anghenion lleol a gwerthuso effaith y gerddoriaeth fyw. Trwy weithio mewn partneriaeth fel hyn, mae’r elusen wedi datblygu prosiect cerddoriaeth a chelfyddydau gweledol yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n dod â chleifion iechyd meddwl ifanc a staff ynghyd drwy fynegiant creadigol.

Dywedodd Katrina:

‘Roedden ni eisiau ceisio cyflwyno celf fel cerbyd i’r bobl ifanc hyn fynegi eu hunain tra bod cerddoriaeth yn chwarae. Mae’n fwy na dihangfa – mae’n ffordd o gysylltu â phobl eraill, yn lleihau teimladau o ynysigrwydd ac yn dod â chleifion a staff ynghyd y tu allan i’w hamgylchedd therapiwtig clinigol arferol.’

CERDDORIAETH MEWN GOFAL CRITIGOL

Mewn unedau dibyniaeth uchel a gofal dwys, gall yr amgylchedd fod yn ingol a llethol. Dengys gwaith ymchwil y gall cerddoriaeth fyw wella profiad claf mewn lleoliadau gofal critigol yn aruthrol. Canfu un astudiaeth fod cerddoriaeth fyw ar y delyn yn lleihau poen o fwy na chwarter (27%).

Ar hyd a lled Cymru, mae rhaglen ICU Hear® yn dod â cherddoriaeth fyw yn syth i erchwynnau gwelyau cleifion, gan greu awyrgylch heddychlon sy’n lleihau straen a gorbryder. Mae’r profiad hwn o gerddoriaeth fyw wedi’i ddylunio’n benodol i helpu i liniaru poen, gwella iechyd corfforol ac emosiynol a gwella’r profiad cyffredinol o fod mewn ysbyty.

Mae’r delynores Delyth Jenkins wedi bod yn gerddor gwerthfawr gyda’r mudiad Cerddoriaeth mewn Ysbytai a Gofal ers 2007, yn dod â seiniau tyner cerddoriaeth Gymreig a’i chyfansoddiadau ei hunan i leoliadau amrywiol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Delyth wedi bod yn ymweld yn rheolaidd ag unedau gofal critigol ysbytai Glangwili, Llwynhelyg a Thywysog Philip yn ne Cymru drwy bartneriaeth Cerddoriaeth mewn Ysbytai a Gofal â Bwrdd Iechyd ac Elusennau Hywel Dda.

Eglura Delyth:

‘Mae’r gerddoriaeth yn helpu i leddfu’r boen gorfforol ac emosiynol i gleifion a’u teuluoedd. Rwy’n defnyddio fy nhelyn fach i symud o un wely i’r llall, yn chwarae caneuon cyfarwydd fel emynau Cymreig i gysylltu â’r cleifion.’

Er y gall yr ymateb fod yn fach, fel gwên neu droed yn tapio i’r rhythm, mae’r effaith yn enfawr. Gwnaeth Delyth ddwyn i gof digwyddiad teimladwy:

‘Fe genais i’r delyn i ddyn anymwybodol  nad oedd wedi siarad am dros wythnos. Ar ôl i mi orffen, dywedodd, ‘roedd hynna’n hyfryd’, a ddaeth â dagrau i lygaid pawb, gan gynnwys fy rhai i.’

EICH CEFNOGAETH

Dim ond gyda’ch cefnogaeth chi y gall elusennau fel Cerddoriaeth mewn Ysbytai a Gofal ddod â cherddoriaeth fyw i’r rheini mewn gofal critigol, a rhoi cysur a rhyddhad yn ystod rhai o’r adegau mwyaf heriol. Am ragor o wybodaeth am sut gallwch chi gefnogi.

GWYBODAETH BELLACH

Am ragor o wybodaeth am iechyd a gofal yng Nghymru, ewch i dudalen Prosiect Iechyd a Gofal CGGC neu anfonwch e-bost at iechydagofal@wcva.cymru.