Dyn ar dynn uwchben geunant

Cerdded y ffin denau: ansawdd y dystiolaeth yn erbyn ansawdd profiad

Cyhoeddwyd: 12/11/20 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Mike Corcoran

Sut mae cydbwyso ansawdd y dystiolaeth y mae’n rhaid i’n gwerthusiadau ei chynhyrchu ag ansawdd y profiad y mae’n ei ddarparu i bawb yr ydym yn gweithio gyda nhw? Mae Mike Corcoran, Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru, yn ymchwilio.

Yn ôl ym mis Chwefror (er ei fod yn teimlo fel blynyddoedd maith yn ôl bellach!) bûm yn ddigon ffodus i gymryd rhan yn nigwyddiad ‘Gwerthuso Gwasanaethau Rheng Flaen – Beth sy’n Gweithio’ Ennyn Effaith, mewn cydweithrediad â CGGC, Data Cymru, Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru a Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.

Treuliwyd y diwrnod gyda grŵp anhygoel o bobl angerddol ac ymroddedig o bob rhan o’r wlad – gan ddod i adnabod ein gilydd, a rhannu ein hanesion am y problemau wrth geisio cynnal gwerthusiadau priodol.

Mae un o’r straeon hynny’n dal yn fy nghof. Hanes cartref gofal lle’r oedd staff brwdfrydig a diwyd yn cofnodi eu gweithgareddau’n briodol ar hyd y dydd, gan ddefnyddio dyfeisiau electronig i fewnbynnu gwybodaeth am bob pryd bwyd, pob archwiliad, pob trip i’r toiled, pob ymwelydd … bob agwedd ar fywyd bob dydd yn y cartref. Ar yr wyneb, roedd hon yn system gydymffurfiol, syml,  effeithlon a hawdd ei defnyddio, oedd yn cynhyrchu tystiolaeth ddibynadwy o’r safon uchaf – ond roedd rhywbeth ddim yn iawn. O safbwynt trigolion y cartref, yr hyn a welsant oedd staff oedd yn dangos mwy o ddiddordeb mewn dyfais electronig nag ynddyn nhw, collwyd cyfleoedd i greu’r ‘eiliadau arbennig’ hynny sy’n gallu digwydd pan fyddwn yn symud ein ffocws o brosesau i bobl, a systemau nad oedd yn bosibl cofnodi’r eiliadau hynny arnynt pe baent yn ceisio.

Mae gwneud i werthusiadau weithio’n ymarferol, fel llawer o bethau, yn ymwneud â sicrhau cydbwysedd. Cydbwysedd rhwng y pwysau ar amser, arian ac adnoddau cyfyngedig. Cydbwysedd rhwng disgwyliadau defnyddwyr gwasanaeth, rheolwyr, cyllidwyr a rheoleiddwyr. A chydbwysedd rhwng ansawdd y dystiolaeth y mae’n rhaid i’n gwerthusiadau ei chynhyrchu, ac ansawdd y profiad y dylem ei sicrhau i bawb sy’n rhan ohonynt.

Mae cynhyrchu data o ansawdd da, sy’n gadarn, yn ddibynadwy ac yn cael ei barchu, yn ganolog i unrhyw werthusiad – ond ni ddylai hyn fod ar draul profiad pawb sy’n rhan o’r gwerthusiadau. O’i wneud yn iawn, mae gwerthuso’n gallu grymuso pobl, atgyfnerthu a chryfhau perthynas. Ond o’i wneud yn anghywir, ac (fel yn achos ein cartref gofal) gall prosesau gwerthuso ddarparu tystiolaeth gwbl resymol ond ar yr un pryd gall wneud i bobl deimlo’n ddiymadferth, colli diddordeb a dad-wneud yr holl waith caled a wnaethpwyd.

Yr ateb – cadwch eich llygaid ar yr hyn sy’n bwysig – pobl sydd wrth wraidd eich gwerthusiad, rhowch eu buddiannau nhw’n gyntaf, a gadewch i bopeth arall ddilyn. Drwy ein Teclyn Gwerthuso  Mesur yr hyn sy’n Bwysig , cyflwynir cwestiwn canolog unrhyw werthusiad, ‘beth sydd bwysicaf i’r bobl yn fy ngwerthusiad?’ a thrwy’r Fframwaith Cwestiynau Syml‘  newydd yr ydym wedi’i ddatblygu gyda CGGC, gobeithiwn feithrin diwylliannau gwerthuso lle mae prosesau’n ffitio o gwmpas pobl, nid fel arall. Mae digonedd o ddulliau a theclynnau gwerthuso gwych ac amrywiol iawn ar gael, a digon o gyfle i fod yn greadigol wrth eu defnyddio. Nid yw rhoi pobl yn gyntaf yn gorfod golygu mwy o amser, mwy o arian na hyd yn oed mwy o arbenigedd. Y cyfan y mae’n ei olygu yw ffordd wahanol o feddwl beth yw ystyr gwerthusiad – nid dim ond mesur effaith, ond cyfle i’w wella’n gadarnhaol.

Mae Mike Corcoran yn gweithio gyda mudiadau drwy Gymru a ledled y byd fel ymgynghorydd ymgysylltu ac effaith. Mae’n gydymaith hirdymor o Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru ac arweiniodd y gwaith o ddatblygu teclyn gwerthuso ‘Mesur yr Hyn sy’n Bwysig’ y Rhwydwaith a fframwaith gwerthuso ‘Cwestiynau Syml’ CGGC.

DIGWYDDIADAU ENNYN EFFAITH

Mae rhaglen ddigwyddiadau Ennyn Effaith yn cynnal digwyddiadau bob mis hyd at fis Chwefror 2021.

  • 21 Hydref – 7 Cwestiwn Syml: Archwilio’r berthynas rhwng gofyn cwestiynau syml fel mater o drefn a datblygu dull trwyadl, cyfannol o werthuso
  • 10 Tachwedd – Ansawdd y Dystiolaeth yn erbyn Ansawdd Profiad: Archwilio safonau tystiolaeth, sut y cânt eu defnyddio a sut i gydbwyso ansawdd y dystiolaeth sy’n ofynnol â dewisiadau a phrofiadau’r rhai a werthusir.
  • 1 Rhagfyr – Gwerthuso, Cyllido a Chaffael: Archwilio’r berthynas rhwng gofynion cyllido a chaffael a dulliau a strategaethau gwerthuso.
  • 19 Ionawr – Gwerthuso a Chymhlethdod: Archwilio datblygiad a dulliau a thechnegau gwerthuso cyfranogol a’u perthnasedd i werthuso mewn amgylcheddau cymhleth sy’n newid yn gyflym
  • 9 Chwefror – Ymarfer Myfyriol: Archwilio’r berthynas rhwng ymarfer myfyriol, gwerthuso a diwylliant sefydliadol

Gallwch archebu lle am ddim, ac am ragor o wybodaeth ewch i https://www.eventbrite.co.uk/o/wcva-cggc-12161492678