menyw yn dal ei hanadl ar reid beic gwledig

Cefnogi ysgyfaint y genedl

Cyhoeddwyd: 18/05/20 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Joseph Carter

Dyma Joseph Carter, Pennaeth y Cenhedloedd Datganoledig ar gyfer Sefydliad Ysgyfaint Prydain ac Asthma UK, yn manylu ar bryderon y ddau fudiad, a sut maen nhw’n cefnogi’r rhai sydd â chyflyrau yr ysgyfaint trwy’r pandemig.

Y gwir anffodus amdani yw y bydd un ym mhob pump ohonom yn cael clefyd ar yr ysgyfaint; mae hynny’n gannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru a fydd yn cael eu heffeithio naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan glefydau ar yr ysgyfaint. Asthma UK a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yng Nghymru  yw’r unig elusen ar draws y DU sy’n gofalu am ysgyfaint y genedl: ein gwaith ni yw hybu, caniatâu ac amlinellu’r lefel uchel o ofal ac arweiniad sydd eu hangen er mwyn ein galluogi ni i gyd i anadlu’n haws allan o ysgyfaint iachach.

Mae ein gwaith yn bellgyrhaeddol, o hybu diwrnodau ymwybyddiaeth o gyflyrau’r ysgyfaint, megis Diwrnod Asthma’r Byd ar Fai’r 5ed, i alw am Ddeddf Aer Glân i Gymru i wella ansawdd aer cyffredinol yn ogystal ag iechyd ein hysgyfaint ledled y wlad.

Mae hyn yn arbennig o wir yn ystod y cyfnod sydd ohoni. Rydym yn ceisio’n gorau i gynnal ein lefel o gefnogaeth i bobl sy’n byw gyda chyflwr ar yr ysgyfaint, megis asthma neu glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD), tra ar yr un pryd yn creu gwasanaethau cefnogi newydd sbon trwy’r Hwb Ôl-Cofid (Post-Covid Hub) i’r rhai a fu yn yr Ysbyty yn ystod y pandemig. Er bod gwaith ymchwil yn mynd rhagddo, rydym yn derbyn galwadau ac yn cynnig cefnogaeth i’r rheiny a adawyd â thrafferthion parhaus ar ôl gwella o Covid.

Teimlo’n bryderus? Ninnau hefyd.

Gallwn i gyd gytuno fod hwn yn gyfnod digynsail, a chyda newid mor ddrastig i’n bywydau bob dydd, dyw hi ond yn naturiol ein bod ni’n pryderu. Yn ddiweddar fe gynhaliom arolwg yng Nghymru i asesu effaith Covid-19 ar bobl sy’n dioddef o gyflyrau’r ysgyfaint. Pan ofynnom iddynt sut roedden nhw’n teimlo mynegodd bron i 90% ohonynt lefelau gorbryder ar ben ucha’r raddfa o rhwng chwech a deg. Darganfu astudiaeth debyg o’r boblogaeth gyffredinol, gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, mai 47% yn unig o’r ymatebwyr sgoriodd rhwng chwech a deg.

Yn ddealladwy byddai lefelau gorbryder unrhywun yn uchel, ond yn ystod pandemig sy’n effeithio ar yr ysgyfaint, mae’r rheiny sydd â chyflyrau ar yr ysgyfaint yn teimlo llawer yn fwy pryderus. Roedd iechyd aelodau o’r teulu hefyd yn bryder i’n hymatebwyr yng Nghymru. Ar adegau pan na allwn weld ein hanwyliaid wyneb yn wyneb, mae gorbryder yn cronni y tu ôl i sgrîn.

Ond gallwn gymryd cysur o’r ffaith fod y rheiny sydd wedi cael cais i aros gartref yn ddiogel yn gwneud hynny. O’n hymatebwyr a dderbyniodd lythyr gwarchod, roedd bron y cyfan, yn wir 98%, yn aros gartref. Mae hyn yn newyddion gwych, ac yn amlygu cryfder a phenderfyniad ein pobl fwyaf agored i niwed i gynorthwyo i gefnogi ein gwasanaethau rheng flaen ac arbed bywydau.

Fodd bynnag, dim ond os derbynioch chi lythyr y mae hynny’n wir.

Derbyniodd llai na 10% o’n hymatebwyr lythyr yn y lle cyntaf. O’i gymharu â’r gwledydd eraill, mae Cymru 7.7% y tu ôl i gyfartaledd (GI/Yr Alban/Lloegr). Gallai’r canlyniadau hyn fod oherwydd i 16% o lythyron gael eu hanfon i’r cyfeiriad anghywir, tra nad oedd cleifion â chyflyrau’r ysgyfaint megis ILD (Clefyd Interstitaidd yr Ysgyfaint) ac IPF (Ffibrosis Idiopathig Cynradd) ar y rhestr ddosbarthu wreiddiol.

Pan ofynnom i’n hymatebwyr am eu pryderon yn ystod y cyfnod ynysu, doedd 87% o’r rheiny oedd yn cael trafferth cael nwyddau groser heb dderbyn llythyr gwarchod. Yr hyn sy’n achosi pryder i ni yw bod y llythyron hyn yn cynnig cefnogaeth gan awdurdodau lleol, a hebddynt dydy aelodau agored i niwed mewn cymdeithas ddim yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ynysu.

Yn ddiweddar fe gyhoeddom yr arolwg a gofyn i gynrychiolwyr etholedig ofyn cwestiynau yn y Senedd, gan amlinellu astudiaethau achos sy’n peri gofid o’r rheiny sydd ar hyn o bryd y tu allan i’r categori gwarchod.

Newyddion da diweddar yw bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd dros 21,000 o lythyron newydd yn cael eu hanfon at bobl â chyflyrau newydd sydd wedi’u hychwanegu at y rhestr o bobl agored i niwed, gan gynnwys ILDau. Bydd derbynwyr y llythyron hyn yn cael eu cynghori i ynysu tan y 15fed o Fehefin (diwedd y cyfnod cyntaf o 12 wythnos), ac yn dilyn hynny bydd Llywodraeth Cymru yn diweddaru’r holl grŵp o bobl sy’n cael eu gwarchod wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu codi.

Yr Hwb Ôl-Covid (The Post-Covid Hub)                    

Mae hi hefyd yn werth nodi fod dros 62% o’r ymatebwyr i’n harolwg yng Nghymru yn poeni ynglŷn â rheoli eu cyflwr iechyd. Oni bai am wasanaethau rhoi’r gorau i smygu (sydd wedi cynorthwyo i hyrwyddo ymgyrch ‘Helpa fi i stopio’ gan Iechyd Cyhoeddus Cymru) mae mynediadau i feddygon teulu ac ysbytai wedi gostwng.

Mae gostyngiadau o’r fath yn cynyddu’r risg o iechyd gwael yn ogystal â gostwng y tebygrwydd o reolaeth dda o gyflyrau iechyd hir-dymor, megis clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint neu asthma. Mae ehangu ar wasanaethau arferol megis y Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corff neu Wasanaeth Adsefydlu Cleifion yr Ysgyfaint yn ddigidol wedi bod yn flaenoriaeth gennym erioed ac mae’r pandemig wedi amlygu’r ffaith fod yr angen hyd yn oed yn fwy nag erioed.

Bydd gwasanaethau digidol arloesol yn gymorth nid yn unig yn ystod y pandemig ond yn ystod tymor y ffliw hefyd, yn enwedig wrth i’r rheiny sydd fwyaf agored i niwed ddewis cymdeithasu llai er mwyn lleihau eu siawns o ddod i gysylltiad â haint.

Trwy ddatblygu gwasanaethau digidol newydd, megis yr  Hwb Ôl-Covid  a chefnogaeth gan ein llinellau cymorth a’n grwpiau cynghori, byddwn yn parhau i weithredu dros well iechyd yr ysgyfaint i bawb.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â COVID-19 a’r gefnogaeth a gynigir gennym, ewch i’n dwy wefan:

Mae AUK-BLF Cymru yn cefnogi ymgyrch #NawrFwyNagErioed – i helpu i atgoffa’r llywodraeth, cyllidwyr, rhoddwyr a’r cyhoedd o ba mor hanfodol yw’r sector gwirfoddol nawr ac yn y dyfodol.