Grŵp o bobl o raglen Egin yn sefyll am lun yn yr eira

Cefnogi cymunedau yng Nghymru i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd

Cyhoeddwyd: 16/03/23 | Categorïau: Cyllid,Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Gwyneth Jones

Mae Gwyneth Jones, Rheolwr Cyfathrebiadau Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru, yn egluro sut mae’r rhaglen newydd, Egin, yn helpu i ddatgloi potensial cymunedau yng Nghymru i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Symudais yn ôl i Gymru’n ddiweddar gyda’r nod o helpu fy nghymuned i ddod yn fwy gwydn yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. A minnau’n hanu o gymuned wledig Gymreig ym Mhen Llŷn, rwy’n ymwybodol iawn o sut mae’r cysylltiadau cymunedol cryf roedd fy Nain a Thaid yn eu hadnabod ac yn dibynnu arnyn nhw wedi gwanhau dros y blynyddoedd, ac mae gennyf awydd cryf i helpu pobl i ailgysylltu â’r ymdeimlad hwnnw o berthyn a chwilio ystyr.

Mae gan Ogledd-orllewin Cymru rhai o’r cyflogau isaf yn y DU, ac eto mae’r argyfwng tai yn golygu bod fforddio eiddo, neu hyd yn oed rhentu, yn ddim mwy na breuddwyd pell i lawer. Ond nid yr argyfwng costau byw yw’r unig beth y bydd angen i ni boeni amdano yn y blynyddoedd i ddod: bydd y newid yn yr hinsawdd yn gyrru prisiau’n uwch fyth, yn ogystal â lefelau’r môr, sy’n newyddion drwg i ardal â chymaint o gymunedau arfordirol.

AILGYNNAU HEN GYSYLLTIADAU

Dyna pam mae ailgynnau’r hen gysylltiadau cymunedol hynny’n bwysicach nag erioed – i atgoffa pobl ein bod ni’n gallu, ac yn gorfod, gweithio gyda’n gilydd i wynebu heriau cymhleth ac anniben ein hoes.

Rwyf wrth fy modd i fod yn gweithio ar y rhaglen Egin gan ei fod yn ceisio grymuso cymunedau i ddod ynghyd a chreu’r byd y maen nhw eisiau byw ynddo. Mae Egin yn ymwneud â gwrando ar leisiau pawb, yn hytrach na chael penderfyniadau wedi’u gwneud gan rai a’u gorfodi ar gymunedau oddi uchod.

Mae hefyd angen i ni gydnabod na fydd pawb yn cael eu heffeithio gan y newid yn yr hinsawdd yn yr un modd. Bydd yn effeithio fwyaf ar y rheini sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd, fel cymunedau ethnig lleiafrifol, y rheini â phroblemau iechyd a chymunedau tlawd arfordirol a gwledig (gwefannau Saesneg yn unig). Nod Egin yw cyrraedd y rheini sy’n fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y newid yn yr hinsawdd ond y lleiaf tebygol o deimlo eu bod yn cael eu cynnwys neu eu cynrychioli mewn sgyrsiau ynghylch yr hinsawdd a chynaliadwyedd.

BETH YW EGIN?

Mae Egin yn cynorthwyo grwpiau cymunedol, elusennau, cwmnïau nid-er-elw, mudiadau anllywodraethol a mentrau cymdeithasol yng Nghymru i weithredu dros yr hinsawdd a byw yn fwy cynaliadwy. Rydyn ni’n canolbwyntio’n bennaf ar helpu grwpiau nad ydynt wedi cymryd unrhyw gamau gweithredu o’r blaen, ac nad ydynt yn siŵr ble i ddechrau.

Mae gennym ni dîm o naw hwylusydd wedi’u gwasgaru ar hyd a lled Cymru sydd wrthi’n estyn i mewn i gymunedau ac yn dechrau sgyrsiau diamod gyda grwpiau ynghylch yr heriau a’r problemau y maen nhw’n eu hwynebu. Os byddwch chi’n cysylltu â ni a ninnau’n teimlo bod eich grŵp yn ffitio’n dda gydag Egin, fe wnawn ni eich rhoi chi mewn cysylltiad â’ch hwylusydd agosaf fel y gallwch chi ddechrau sgwrs.

CYMORTH AR GAEL

Bydd rhai grwpiau yn penderfynu ymrwymo i gael cymorth gan Egin. Os byddwch chi’n penderfynu ymuno â ni, bydd eich Hwylusydd yn helpu eich grŵp i feddwl am, a phenderfynu ar syniadau i helpu eich cymuned i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd neu i fyw yn fwy cynaliadwy, ac yn rhoi cymorth i chi weithio ar eich Cynllun Gweithredu.

Bydd eich Hwylusydd yn eich helpu wedyn i ddewis Mentor Cymheiriaid i barhau i weithio gydag ef. Mentora sydd wrth wraidd ein gwaith yn DTA Cymru – y syniad y gall newid go iawn dim ond digwydd o’r llawr i fyny, trwy alluogi pobl i gysylltu â’i gilydd i rannu profiadau, cyngor a sgiliau.

Daw Mentoriaid Cymheiriaid Egin o bob rhan o Gymru; maen nhw’n bobl sydd eisoes wedi ennill profiad a sgiliau drwy weithio ar brosiectau tebyg i’r rhai yr hoffech chi eu cyflawni o bosibl ac maen nhw’n barod i rannu eu hamser a’u phrofiadau gyda chi. Bydd pob grŵp sy’n ymuno ag Egin yn cael hyd at dri diwrnod o fentora cymheiriaid.

Gall mentoriaid eich helpu chi gyda phob math o brosiectau os ydynt yn canolbwyntio ar ymdrin â’r newid yn yr hinsawdd a byw mewn modd mwy cynaliadwy – ar hyn o bryd, mae gennym ni bobl â phrofiad o weithio mewn gerddi cymunedol, cerbydau trydanol, trafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy, codi arian, cyfathrebu, gwastraff, lleihau carbon, datblygu rhaglenni a chaffis trwsio, ymhlith lliaws o rai eraill.

BETH AM GYLLID?

Mae Egin yn rhad ac am ddim i’r grwpiau rydyn ni’n eu cynorthwyo, oherwydd caiff ei gyllido gan Camau Cynaliadwy Cymru – Grant Mentora, a weinyddir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Daw’r cyllid o’r Cynllun Asedau Segur (gwefan Saesneg yn unig) – sy’n rhoi arian nad yw wedi’i ddefnyddio am fwy na 15 mlynedd mewn cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu.

Gallai grwpiau sydd wedi derbyn Mentora Cymheiriaid fel rhan o Egin wneud cais am grant o hyd at £15,000 hefyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i helpu gyda chostau eu prosiect – darllenwch fwy am Gamau Cynaliadwy Cymru – grantiau Egin yma.

YNGLŶN Â DTA CYMRU 

Mae Egin yn rhaglen a redir gan Gymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru (DTA Cymru), mudiad aelodaeth sy’n seiliedig ar ymarferwyr annibynnol sy’n hyrwyddo gwaith ymddiriedolaethau datblygu, ac yn cefnogi’r rhwydwaith cynyddol o ymddiriedolaethau datblygu, yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw am gymunedau ffyniannus a gwydn ar hyd a lled Cymru; mannau llawn posibiliadau lle gall pobl gymryd rheolaeth dros eu bywydau drwy fentrau cymunedol, gweithredu cymdeithasol a pherchnogaeth asedau cymunedol.

DTA Cymru hefyd oedd y mudiad y tu ôl i Adfywio Cymru, a gynorthwyodd cannoedd o fudiadau ledled Cymru rhwng 2012 a 2022 i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a dod yn fwy cynaliadwy.

CYMRYD RHAN

Gall grwpiau sydd â diddordeb mewn cael eu cynorthwyo gan Egin gysylltu â ni drwy ein gwefan. Rydyn ni’n arbennig o awyddus i glywed gennych chi os nad ydych chi wedi gweithredu ar yr hinsawdd o’r blaen ac yn chwilio am gymorth i gymryd eich camau cyntaf, ac os yw eich grŵp yn cynnwys, neu gyda’r prif nod o geisio cynorthwyo, grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Efallai bod gennych chi eisoes weledigaeth glir ar gyfer yr hyn rydych chi eisiau ei gyflawni drwy gymorth Egin, ond gallai hefyd fod yn ddefnyddiol dod â’ch cymuned ynghyd a chael eich Hwylusydd i’ch helpu i feddwl am syniadau a gweithio arnyn nhw.

Rydyn ni hefyd yn awyddus i glywed gennych chi os oes gennych chi brofiad o gyflwyno neu weithio ar brosiect dan arweiniad cymuned a diddordeb mewn dod yn un o’n Mentoriaid Cymheiriaid. Byddwn ni’n recriwtio Mentoriaid ar gyfer pob un o’n rhaglenni DTA Cymru yn y misoedd nesaf, ar sail dreigl yn ôl yr angen. Os yw hyn yn swnio’n ddiddorol i chi, darllenwch fwy yma.