Gwnaeth CGGC gynnal digwyddiad ar-lein ym mis Ionawr i ddysgu o brofiad dau brosiect peilot sy’n datblygu gwirfoddoli mewn cartrefi gofal. Mae Fiona Liddell, Rheolwr Helplu Cymru, yn rhannu rhai o’r themâu cyffredin a’r ffactorau llwyddo.
YMATEB I’R ‘ARGYFWNG YMWELD’
Pan ddaeth Covid-19 i’n rhan ni yn 2020, bu’r effaith ar gartrefi gofal, preswylwyr, perthnasau a staff yn ddigyffelyb. Mae cadw’r cysylltiad rhwng preswylwyr a’u perthnasau yn hanfodol i’w llesiant, ond rhoddodd y flaenoriaeth hon bwysau enfawr ar staff cartrefi gofal a oedd eisoes dan bwysau.
‘Mae cryn dipyn o ymwelwyr mewn oed eu hunain ac ni chaiff plant ddod yma ar hyn o bryd …. Mae un dyn wedi dweud nad yw un ymweliad hanner awr yr wythnos i weld ei wraig yn ddigon. Mae’n byw ar ei ben ei hun ac yn unig dros ben.’ – Gwirfoddolwr
Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru a chymorth gan Helplu Cymru (CGGC), bu modd i Age Cymru beilota dull gweithredu a oedd yn ceisio cefnogi ymweliadau a chysylltiadau cymdeithasol rhwng preswylwyr a pherthnasau, wrth hefyd leihau ychydig o’r pwysau ar staff cartrefi gofal.
Gwnaeth saith cartref gofal yng Nghymru gymryd rhan yn y prosiect – pob un ohonyn nhw wedi cael cydberthnasau ag Age Cymru o’r blaen. Cafodd 12 o wirfoddolwyr eu recriwtio, hyfforddi a’u cyflwyno i gartrefi gofal.
MEITHRIN PARTNERIAETHAU
Gwnaeth Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir Fflint (FLVC) weithio’n agos gyda Chyngor Sir y Fflint (FCC) yn ystod y pandemig, gan ddatblygu rolau gwirfoddoli pwrpasol a recriwtio a hyfforddi 64 o wirfoddolwyr yn ystod 2020, er mwyn ategu gwaith staff gofal cymdeithasol a chynorthwyo gwasanaethau hanfodol i barhau.
Gwnaeth cyllid grant amserol ganiatáu i waith dichonoldeb gael ei wneud, ynghyd â datblygu gwirfoddoli o fewn cartrefi gofal, o dan nawdd partneriaeth traws-sector. FLVC oedd yn gyfrifol am recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr. Gwaith tîm contractau’r FCC oedd cynghori ar baru gwirfoddolwyr â chartrefi gofal, ar sail eu gwybodaeth am wasanaethau a’u chydberthynas â rheolwyr cartrefi gofal. Ymgymerodd gwirfoddolwyr â rolau cyfeillio er mwyn bod yn gwmni i breswylwyr ac yn glust i wrando.
SAFBWYNTIAU CARTREFI GOFAL
Treuliwyd cryn dipyn o amser yn siarad â rheolwyr cartrefi gofal a rhanddeiliaid eraill er mwyn deall anghenion lleol a rhoi sylw i gwestiynau a phryderon. Mae angen mynd i’r afael â llawer o feysydd er mwyn sicrhau dealltwriaeth gyffredin a sicrhau bod parodrwydd ar bob ochr i ymrwymo i’r hyn sydd ei angen i gyflwyno gwirfoddoli i mewn i amgylchedd cartrefi gofal mewn modd diogel ac effeithiol.
Er enghraifft:
- Sut ydyn ni’n cadw ffiniau clir rhwng rolau staff a gwirfoddolwyr?
- Sut bydd perthnasau’n teimlo am wirfoddolwyr, pan nad ydyn nhw’n cael ymweld â lleoedd eu hunain?
- Pa brosesau rheoli sydd eu hangen i gynorthwyo gwirfoddolwyr?
- A fydd gwirfoddolwyr o fudd i gartrefi gofal neu’n faich ar eu hadnoddau?
Y prif bryder oedd lleihau heintio a sicrhau diogelwch pawb dan sylw, ond mae cyfnodau clo lleol, salwch ac ynysu preswylwyr hefyd wedi bod yn aruthrol o heriol.
Pan oedd gwirfoddolwyr yn cael eu cyflwyno’n llwyddiannus a’u rolau yn cael eu sefydlu, roedd cartrefi gofal yn gwerthfawrogi eu cymorth a’u hymrwymiad.
‘Mae wedi bod yn fraint llwyr i gael gwirfoddolwr yn y cartref. Fe wnaeth hi gynnig gwirfoddoli cyn neu ar ôl gweld ei modryb i ddechrau, ac mae bellach wedi cynyddu ei horiau ac wedi rhoi ei slot ymweld i deulu arall. Roedd yn gymorth mawr pan oedd hi’n mewnbynnu canlyniadau profion ar y porth – gwnaeth hynny leihau llawer o’n baich ni.’ – Rheolwr cartref gofal
Gwnaeth staff gydnabod a gwerthfawrogi gweld rhai o’r gwirfoddolwyr yn magu hyder – llawer ohonynt heb unrhyw brofiad o amgylchedd cartref gofal cyn hyn.
‘Mae gwirfoddoli yn broses ddwy ffordd. Roedd un o’n gwirfoddolwyr yn swil ofnadwy pan ymwelodd â ni’r tro cyntaf. Trwy fod gyda’r preswylwyr, mae wedi dod allan o’i gragen nawr.’ – Rheolwr cartref gofal
Croesawyd y cysylltiad â mudiad allanol profiadol a oedd yn lleihau’r gwaith ‘gweinyddol’ sy’n gysylltiedig â gwirfoddoli, gan gynnwys recriwtio, gwiriadau DBS a hyfforddiant cynefino. Rhoddodd partner-fudiadau (Age Cymru ac FLVC) gymorth parhaus, yn cadw diddordeb gwirfoddolwyr ac yn hysbysu ar bob cam o’r daith. Aethant ati i gael adborth gan wirfoddolwyr a staff fel ei gilydd a bu modd iddyn nhw wneud neu awgrymu addasiadau pan oedd angen.
Gwnaeth partneriaid o’r sector gwirfoddol gynhyrchu canllawiau ysgrifenedig ac anffurfiol a rhoi cymorth i staff cartrefi gofal ar wahanol agweddau ar ymrwymiad gwirfoddolwyr, ynghyd â gwybodaeth ar gyfer teuluoedd a pherthnasau fel eu bod nhw’n deall beth oedd rôl a diben y gwirfoddolwyr.
PROFIAD GWIRFODDOLWYR
Oherwydd amgylchiadau newidiol Covid-19, a’r newidiadau yng nghapasiti’r staff a’r cyfyngiadau a osodwyd ar gartrefi unigol yn sgil hyn, bu’n rhaid ‘gohirio’ lleoliadau gwirfoddolwyr ar brydiau a rheoli disgwyliadau.
Roedd argaeledd ac ymrwymiad gwirfoddolwyr yn amrywio; mewn rhai achosion, byddai gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi a’u recriwtio, ond yn gwrthod cymryd y lleoliad gan nad oeddent yn teimlo’n gysurus yn ychwanegu at y risg o ddal yr haint. Ond yn gyffredinol, roedd y rheini a fanteisiodd ar y cyfle’n frwdfrydig yn awyddus i wneud mwy, gan gynnwys cael cysylltiad mwy uniongyrchol â’r preswylwyr.
‘D oedd un o’r gwirfoddolwyr cyntaf ac yn awyddus iawn i ehangu ar yr hyn roedd hi’n ei wneud. Mae’n ymhél â’r preswylwyr yn eithaf aml, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo; mae preswylwyr yn gweld yr un wynebau o hyd felly mae wyneb newydd, sgwrs newydd, yn wych’ – Rheolwr cartref gofal
Roedd gwirfoddolwyr o bob oed ac ethnigrwydd – gan gynnwys llawer mwy o bobl ifanc nag y disgwyliwyd.
O ganlyniad i gysylltiadau ag Ysgol Alun, yr Wyddgrug, Coleg Cambria a Phrifysgol Glyndŵr, bu myfyrwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn gysylltiedig â chartrefi gofal Sir y Fflint a chael lleoliadau. Roedd yr hyfforddiant cychwynnol yn cynnwys cyflwyniad i wirfoddoli, cyflwyniad i ofal cymdeithasol a sut i ysgogi preswylwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau digidol, a’r holl bethau hyn yn ychwanegu dysgu a phrofiad gwerthfawr a oedd yn ymwneud â’u gyrfaoedd.
‘Rwy’n dueddol o baentio’u hewinedd ac mae’r menywod yn dwli ar hynny. Rydyn ni wedi siarad am lawer o bethau .. mae’n braf siarad â nhw am ddiddordebau a hobïau sydd gennym ni’n gyffredin. Rwy’n credu eu bod nhw’n mwynhau siarad â mi ac rwyf wrth fy modd yn siarad â nhw. Mae wedi bod yn hyfryd dros ben‘. – Gwirfoddolwr
FFACTORAU LLWYDDIANT
Serch ei heriau, fe wnaeth Covid alluogi mewn rhai ffyrdd – mae wedi ysgogi pobl i wirfoddoli ac mae wedi gwneud i ni feddwl yn wahanol am ble a sut y gall gwirfoddolwyr fod o gymorth.
Roedd cynnwys mudiad o’r sector gwirfoddol gydag arbenigedd mewn rheoli gwirfoddolwyr yn gatalydd hanfodol yn y ddau brosiect, gan frocera a chefnogi’r gydberthynas rhwng gwirfoddolwyr a chartrefi gofal. Roedd cael un cysylltiad allweddol o fewn y mudiad a oedd yn trefnu yn hanfodol.
Mae cartrefi gofal, neu grwpiau o gartrefi gofal, yn gweithio’n annibynnol a chyda’u ffyrdd eu hunain o wneud pethau, felly nid oes un ffordd sy’n briodol i bawb. Roedd paratoi’r tir drwy ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid yn bwysig er mwyn sicrhau bod pob ochr yn deall ac yn ymrwymedig o’r cychwyn cyntaf.
‘Gwnaeth yr amser y gwnaethon ni ei dreulio ar baru gwirfoddolwyr â’r lleoliadau gorau posibl a’r ymdrechion y gwnaethon ni â rheolwyr y cartrefi gofal a’r gwirfoddolwyr helpu i wneud y prosiect yn llwyddiannus. Gallwn ni fynd ati mewn gwirionedd nawr i adeiladu ar hyn’ – Aelod staff tîm contract FCC
Cafodd gwirfoddolwyr eu paratoi’n dda ac roedd ganddyn nhw ddealltwriaeth glir o’u rôl o fewn y lleoliad gofal ac o bwysigrwydd parchu ffiniau eu rôl. Wedi dweud hynny, pan oedd eu rôl yn ymwneud yn bennaf â Covid, gan gynnwys croesawu ymwelwyr, sicrhau bod pawb yn cydymffurfio â’r rheolau o ran defnyddio cyfarpar diogelu personol a diheintio’r dwylo, roedd hi’n amlwg bod gwirfoddolwyr, staff a phreswylwyr fel ei gilydd yn edrych ymlaen at amser pan fyddai modd cael cysylltiad personol mwy uniongyrchol, fel cynorthwyo â gweithgareddau a chael mwy o gyfle i sgwrsio.
Mae’n cymryd cryn dipyn o amser, adnoddau, amynedd a pharodrwydd i fod yn hyblyg, i wirfoddoli fod yn ddiogel ac yn llwyddiannus i bawb dan sylw.
Fodd bynnag, mae’r enillion yn amlwg pan fydd gwahanol bartneriaid yn defnyddio’u cryfderau, ac yn galluogi’r lliaws o fuddion posibl i bob ochr trwy ddod â gwirfoddolwyr a phreswylwyr cartrefi gofal ynghyd.
EDRYCH YMLAEN
Wrth i gyfyngiadau Covid lacio, edrychwn ymlaen at weld lleoliadau i fyfyrwyr yn cael eu datblygu ar raddfa ehangach mewn cartrefi gofal yn Sir y Fflint, a gwirfoddoli’n cael ei ehangu i agweddau eraill ar ofal cymdeithasol.
Mae Age Cymru yn bwriadu datblygu’r rôl wirfoddoli i ganolbwyntio ar ennyn preswylwyr cartrefi gofal i rannu eu profiadau a’u gobeithion am y dyfodol, fel rhan o’r prosiect prosiect ‘Tell me more’ sydd ar droed.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at gefnogi cartrefi gofal, y sector gwirfoddol a phartneriaid yr awdurdod lleol i ddatblygu gwirfoddoli yn eu ffordd eu hunain, o fewn eu hardaloedd.
RHAGOR O WYBODAETH
Am brosiect cartrefi gofal Age Cymru: carehomevolunteer@agecymru.org.uk
Bydd adroddiad o’r prosiect ac adnodd pecyn cymorth ar gael yn fuan
Am brosiect cartrefi gofal Sir y Fflint: info@flvc.org.uk
Am gartrefi gofal a gwirfoddoli yn gyffredinol: fliddell@wcva.cymru
Mae Helplu Cymru yn gweithio gyda Chefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs)), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Ewch i dudalen we Helplu Cymru, neu i dderbyn diweddariadau ar e-bost, cofrestrwch yma a dewiswch yr opsiwn ‘gwirfoddoli iechyd a gofal’.