Eglura Natalie Zhivkova, Rheolwr Polisi a Mewnwelediadau CGGC, bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth yn sgil ansefydlogrwydd ariannol.
Nid oes diwrnod yn mynd heibio heb i rywun sôn am yr argyfwng costau byw. Mae chwyddiant ym mhobman, mae torri cyllidebau a rhewi cyllid yn bryder mawr i’r sector cyhoeddus, a lleihau incwm dewisol yn bryder i fusnesau. Ond a ydym ni’n anghofio am un o flociau adeiladu pwysig economi sylfaenol Cymru wrth fynd ymlaen?
SEFYLLFA’R SECTOR GWIRFODDOL
Amcangyfrifir fod y sector gwirfoddol yng Nghymru yn cyfrannu oddeutu £6,630 miliwn i lesiant cymdeithasol ac economaidd ein cenedl (dolen i ddogfen Saesneg yn unig). Ar y rheng flaen o gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, rydyn ni’n arbenigwyr mewn troi buddsoddiadau cymharol fach yn effaith gymdeithasol fawr. Ond wrth i ni barhau i weld y galw mwyaf erioed am wasanaethau a’r anghenion fwyfwy cymhleth sydd gan ddefnyddwyr gwasanaethau, rydyn ni’n poeni am ein gallu i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn y dyfodol.
Mae mudiadau gwirfoddol o dan bwysau aruthrol oherwydd:
- Effeithiau chwyddiant ar gostau gweithredu parhaus
- Dim digon o eglurder, sicrwydd a chyfathrebu gan gyllidwyr
- Cyllid sy’n cael ei rewi a chontractau cyhoeddus ddim yn cael eu cynyddu yn unol â’r chwyddiant
- Heriau difrifol o ran cadw a recriwtio staff a gwirfoddolwyr
- Llai o arian yn cael ei roi gan y cyhoedd a llai o allu i gynhyrchu incwm
Noda chwaer-fudiad CGGC yn Lloegr, y Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol, fod un o bob pum elusen yn dweud y gallent gael eu gorfodi i ‘ddiflannu’ y gaeaf hwn, gan adael y bobl a’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu mewn perygl. Mae 85% syfrdanol o elusennau yn rhagweld y bydd y gaeaf hwn mor anodd, os nad yn anoddach, na’r un diwethaf. A dywedodd cymaint â 27% eu bod eisoes yn credu na fyddant yn gallu ateb y galw cynyddol am eu gwasanaethau.
Adlewyrchir y canfyddiadau hyn yng Nghymru. Canfu arolwg o fwy na 300 o dderbynyddion Cronfa Gwydnwch y Trydydd Sector fod y mwyafrif o’r ymatebwyr yn disgwyl y bydd recriwtio staff a chynhyrchu incwm masnachu yn ‘heriol iawn’ yn ystod y 12 mis nesaf, a disgrifiwyd y cynnydd mewn cyflogau a chostau staff yn ‘heriol ofnadwy’.
YR HERIAU O GYFLENWI CONTRACTAU CYHOEDDUS
Dywedodd 93% o’r ymatebwyr i’n harolwg diweddar ar gyflenwi contractau cyhoeddus wrthym eu bod yn sybsideiddio gwasanaethau dan gontract a gwasanaethau a gyllidir gan grantiau, gyda 37% yn dewis peidio â gwneud cynnig neu gais am gontract neu grant newydd a 23% pellach yn annhebygol o ail-dendro pan fydd eu rhwymedigaeth yn dod i ben.
Mae 43% o’r mudiadau a arolygwyd wedi lleihau nifer y staff, mae 37% ohonynt wedi lleihau nifer yr atgyfeiriadau y maen nhw’n eu derbyn, ac mae 30% ohonynt wedi lleihau eu horiau agor i gyd-fynd â chyfyngiadau ariannol eu contractau neu grantiau cyhoeddus.
Dim ond 6% o’r ymatebwyr sy’n cyflenwi contractau’r GIG sydd wedi derbyn mwy o gyllid i gyd-fynd â’r cynnydd statudol yng nghyflogau staff y GIG, a dim ond 13% o’r rheini sy’n darparu gwasanaethau gofal statudol ar ran awdurdodau lleol sydd wedi derbyn mwy o gyllid i gynyddu cyflogau’r staff gofal.
Ar wahân i’r effaith ar ddefnyddwyr gwasanaethau, mae’r sector gwirfoddol yn gyfrifol am 10% o’r gyflogaeth yng Nghymru. Mae pryder dybryd ynghylch y cyfuniad o golli cyllid yr Undeb Ewropeaidd ac anwadalwch a thanbrisiad contractau cyhoeddus. Mae hyn wedi arwain staff arbenigol y sector gwirfoddol i orfod gweithio fwyfwy ar gontractau tymor byr a chael eu talu llai am yr un gwaith â staff yn y sector statudol. Mae hyn yn arwain at drosiant staff uchel a chostau hyfforddi uwch. Ar ben hynny, mae’n gofyn cwestiwn dwfn ynghylch goblygiadau cyflogaeth ansicr a thoriadau cyllid mewn sector sy’n cyflogi mwy o fenywod na dynion.
GWERTH GWEITHIO MEWN PARTNERIAETH
Mae’r sector gwirfoddol yn cynnig rhwydwaith unigryw o gymorth hygyrch, lleol ac arbenigol i bobl a chymunedau ar hyd a lled Cymru. Rydyn ni’n chwarae rôl hanfodol mewn atal ac ymyrraeth gynnar drwy ddarparu gwasanaethau cymorth cofleidiol sy’n ategu’r ddarpariaeth gyhoeddus.
Mae gwasanaethau cyhoeddus wedi dod i ddibynnu mwy a mwy ar fudiadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn eu gweithrediadau bob dydd. O ganlyniad, byddai colli unrhyw ran arall o gyllid y sector gwirfoddol yn peryglu ei gynaliadwyedd ac yn cyflwyno ôl-effeithiau y tu hwnt i’r sector ei hun.
Rhennir pryder ynghylch lleihau cyllid heb rybudd ac y gallai lliaws o gyrff cyhoeddus leihau cyllid i’r sector ar yr un pryd fel mesur arbed arian.
Ni ddylai’r effaith y mae penderfyniadau cyllido cyhoeddus yn ei chael ar y sector gwirfoddol fod yn ôl-ystyriaeth; yn hytrach, dylai fod yn ystyriaeth bwysig. Bu mudiadau gwirfoddol yn hanfodol o ran helpu cymdeithasau Cymru drwy bandemig COVID-19 ac maen nhw’n parhau i chwarae rhan bwysig mewn cynorthwyo’r bobl fwyaf agored i niwed heddiw.
Rhaid i gyllidwyr cyhoeddus a phenderfynwyr sicrhau nad yw’r sector gwirfoddol yn cael ei effeithio’n anghymesur yn yr argyfwng hwn drwy:
- Roi egwyddorion y Cod Ymarfer ar gyfer Cyllido’r Trydydd Sector ar waith wrth wneud unrhyw benderfyniadau cyllidebol
- Asesu penderfyniadau cyllido yn erbyn y cyd-destun ehangach o doriadau parhaus a sicrhau dull gweithredu cydgysylltiedig nad yw’n effeithio’n anghymesur ar y sector gwirfoddol
- Bod yn dryloyw ynghylch prosesau penderfynu a sicrhau bod data ar gyllid ar gael i’r cyhoedd
Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru wedi gwneud cyflwyniadau swyddogol i’r Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â deiliaid portffolio eraill yn ystod y misoedd nesaf. Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i ddod drwy’r argyfwng hwn a sicrhau na chaiff unrhyw un ei adael ar ôl.
CADW MEWN CYSYLLTIAD
I gael y newyddion diweddaraf ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru, gallwch chi gofrestru i dderbyn cylchlythyr wythnosol CGGC.
AELODAETH CGGC
Rydyn ni’n credu y gallwn wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd, felly beth am ymuno â ni a’n rhwydwaith cynyddol o fudiadau ledled Cymru?
Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim i fudiadau ag incwm blynyddol o £50,000 neu lai, ac fel arall yn dechrau ar £32 y flwyddyn yn unig. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddod yn aelod ewch i’n tudalen aelodaeth.