Llun agos o ddwylo person wrth iddyn nhw gyfrif arian gyda chyfrifiannell

Canllawiau newydd ar gyfer codwyr arian yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 01/06/26 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Mary Roberts

Mae Mary Roberts, Rheolwr Rhanddeiliaid a Pholisi Cymru y Rheoleiddiwr Codi Arian, yn rhoi diweddariad i fudiadau gwirfoddol ar ddatblygiadau diweddar gan gynnwys canllawiau ar AI a chymorth i godwyr arian newydd.

Cafodd y Cod Ymarfer Codi Arian newydd (‘y cod’) ei gyhoeddi ddiwedd y llynedd ar ôl proses ymgynghori dwy flynedd. Roedd elusennau yng Nghymru wedi dweud wrthym eu bod eisiau cod a oedd yn fwy eglur, yn haws ei lywio ac yn un a allai gael ei addasu ar gyfer codi arian yn y byd modern. Fe wnaethom wrando ar yr adborth hwn a chyflwyno cod symlach sydd 45% yn fyrrach na’r fersiwn flaenorol, gyda gwell cyfeiriadau at ganllawiau cyfreithiol a chanllawiau’r sector.

Yn y chwe mis ers lansio’r cod newydd, rydyn ni wedi gweithio’n galed i gynhyrchu canllawiau ymarferol gyda’r nod o helpu codwyr arian i gymhwyso’r fframwaith newydd. O ddatblygu canllaw rhagarweiniol i’r cod, i roi cymorth ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) mewn ymgyrchoedd codi arian, rydyn ni wedi llunio cyfres gynhwysfawr o ganllawiau a fydd yn ddefnyddiol i fudiadau, codwyr arian unigol ac ymddiriedolwyr.

CYFLWYNIAD I’R COD YMARFER CODI ARIAN

Mae’r canllaw, wedi’i ddylunio i helpu codwyr arian a’r rheini sy’n rheoli mudiadau elusennol i ddeall sut i fodloni gofynion y cod. Meddyliwch amdano fel man dechrau ar gyfer llywio’r cod a deall sut mae’n berthnasol i faes codi arian penodol.

Bydd yn arbennig o ddefnyddiol i fudiadau sy’n newydd i godi arian neu sydd wedi cofrestru gyda’r Rheoleiddiwr Codi Arian yn ddiweddar. Dylid ei ddefnyddio ochr yn ochr â *chanllawiau ac arferion da eraill ac mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

CANLLAWIAU AI

Rydyn ni’n gwybod bod mudiadau’n defnyddio fwyfwy o ddeallusrwydd artiffisial yn eu gweithgareddau bob dydd, felly rydyn ni wedi datblygu *canllawiau i’w helpu i gydymffurfio â’r cod wrth ddefnyddio AI at ddibenion codi arian.

Mae’n bwysig cofio bod sefydliadau elusennol a’r rheini sy’n eu llywodraethu yn gyfrifol ac yn atebol am y defnydd o AI at ddibenion codi arian, gan gynnwys os caiff ei ddefnyddio gan *bartneriaid codi arian. Dylai mudiadau ddilyn y canllawiau hyn os ydynt yn archwilio, paratoi ar gyfer ac yn defnyddio AI i godi arian elusennol.

CANLLAWIAU WEDI’U DIWEDDARU AR ‘OPTIO I MEWN MEDDAL’

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi cyhoeddi eu *canllawiau diwygiedig ar farchnata electronig uniongyrchol (e-byst a thecstiau) i helpu i sicrhau bod elusennau’n cydymffurfio â’r gyfraith newydd ar ‘optio i mewn meddal dibenion elusennol’.

Mae ‘optio i mewn meddal’ yn cyflwyno cyfle i gryfhau cydberthnasau â chefnogwyr sydd wedi mynegi diddordeb mewn elusen neu wedi cynnig rhoi cymorth i’r elusen yn y gorffennol. Rhaid i elusennau osgoi defnyddio’r ddarpariaeth newydd mewn ffyrdd a allai niweidio ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd mewn codi arian elusennol, felly anogwn bob mudiad codi arian i ddarllen canllawiau newydd yr ICO i sicrhau bod eu gweithgareddau codi arian yn gyfreithlon ac yn barchus.

CANLLAW MARCHNATA CODI ARIAN A CHANLLAW DIWYGIEDIG AR BREIFATRWYDD DATA

Cyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi canllaw ar farchnata codi arian, a fydd yn cynnwys gwybodaeth am sut y gall ‘optio i mewn meddal’ weithio yn ymarferol. Bydd y canllaw yn cynnwys cyngor ymarferol i helpu elusennau i gydymffurfio â’r cod a’r gyfraith yn y maes hwn.

Yn y cyfamser, gall codwyr arian ddechrau defnyddio ein *canllaw diwygiedig ar breifatrwydd data. Mae’r canllaw yn cynnwys awgrymiadau ymarferol i fudiadau codi arian elusennol i fodloni’r cod a’r gyfraith wrth brosesu data personol. *Darllenwch ein blog i ddarganfod mwy am hyn a’n canllaw marchnata codi arian i ddod.

RHAGOR O WYBODAETH

*Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr i gael diweddariadau ar bryd y byddwn yn cyhoeddi ein canllaw newydd ar farchnata codi arian ac edrychwch ar ein cyfres ehangach o *ganllawiau rheoleiddiol a chanllawiau cymorth ar y cod i’ch helpu i gydymffurfio â’r cod. Bydd gennym hefyd stondin yn gofod3 (17 Mehefin 2026 yn Stadiwm Dinas Caerdydd), felly dewch i’n gweld ni yno!

 

*Saesneg yn unig