Llun sgrin wedi'i rannu wedi'i gymryd o ITV News, 9 o elusennau Cymru yn siarad trwy alwad fideo

Camu ymlaen: sut mae sector gwirfoddol Cymru yn ymdopi ag argyfwng COVID-19

Cyhoeddwyd: 15/04/20 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Ruth Marks

Yma, mae Prif Weithredwr CGGC, Ruth Marks, yn myfyrio ar ymateb mudiadau gwirfoddol i’r pandemig coronafeirws yng Nghymru.

Mae’n fraint cael gweithio yn y sector gwirfoddol, yn enwedig ar hyn o bryd yn ystod realiti cyfredol Covid19 ym mis Ebrill 2020.

O’r eiliad y gwnaethom benderfynu cau ein swyddfeydd, ac yn ystod y pedair wythnos ers hynny, rydyn ni wedi gweld rhai o’r ymrwymiadau a chamau gweithredu gorau yn ogystal â rhai o’r heriau mwyaf ers blynyddoedd maith – efallai erioed.

Yr ymchwydd enfawr o wirfoddolwyr ar lawr gwlad sydd wedi rhoi o’u hamser yn agos i gartref i helpu cymdogion a phobl yn y gymuned leol.

Y nifer sylweddol o elusennau sydd wedi cynyddu eu hymdrechion mewn ymateb i’r alwad i’r gad. Y mudiadau sydd wedi newid eu dibenion gwaith er mwyn gallu cefnogi’r anghenion gwahanol o ran cysylltiad cymdeithasol, darparu bwyd a meddyginiaethau, gweithgareddau ar gyfer plant gweithwyr allweddol (a llawer mwy o enghreifftiau ardderchog).

Yr ymrwymiad i gadw mewn cysylltiad drwy fwy o blatfformau na phrif orsaf drenau ac i ddysgu amdanynt drwy brofi a methu (yn enwedig y botwm tawelu melltith hwnnw sy’n peri i mi rannu syniadau gwych y gall neb ond fi eu clywed).

Rydyn ni wedi galluogi lliaws o drafodaethau sydd nid yn unig wedi rhannu profiadau i gefnogi pobl ac elusennau i ymgasglu ledled Cymru, ond sydd hefyd wedi sbarduno syniadau a phethau arloesol y gallai fod yn ddefnyddiol iawn i ni pan fyddwn ni’n symud i’r camau sefydlogi ac adfer.

Yr ymrwymiad i gysylltu â’n gilydd a chyda phartneriaid ar draws pob rhan o’r gwasanaethau cyhoeddus a busnesau er mwyn mynd ati’n effeithiol i baratoi’r adnoddau gwirfoddoli ffurfiol gwych a chefnogi mwy fyth o weithgarwch cymunedol anffurfiol gwych.

Mewn ymateb i hyn, mae’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau, y rhai hynny rydym yn ceisio dylanwadu arnynt yn gyson, wedi agor eu drysau i ystyried y ffordd orau o weithio gyda’n gilydd, gan gydnabod cwmpas a hyblygrwydd y sector.

 

Felly mae rhai pethau da i fyfyrio arnynt, ond yn ôl yr arfer, mae ochr arall i’r stori. Y realiti na fydd pob elusen neu grŵp cymunedol yn goroesi’r heriau economaidd a grëwyd wrth stopio rasys elusennol, atal cacennau rhag cael eu prynu ar stondinau cacennau a pheidio â chaniatáu i unrhyw un ohonom edrych o amgylch siopau elusen heb sôn am roi eitemau iddynt a phrynu eitemau oddi wrthynt.

Rwyf wedi gweld mwy o gydweithio rhwng mudiadau sy’n awyddus i fanteisio ar eu cryfderau mewn partneriaeth ag eraill. Rwyf hefyd wedi gweld elfennau o gystadlu, lle mae elusennau wedi gallu symud yn gyflym a hyrwyddo eu syniad neu wasanaeth i bobl sy’n awyddus i gael datrysiad newydd i broblem newydd.

Yn bendant, mae’r heriau a’r rhaniadau sylfaenol mewn cymdeithas wedi cael eu hamlygu’n sydyn. O ran tlodi bwyd – pwy allai fforddio swmp-brynu neu bentyrru eitemau rai wythnosau’n ôl? Mae pawb yn byw dan wahanol amgylchiadau, ond sut brofiad yw cyfyngiadau symud i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n rhannu lletyau a chyfleusterau fel peiriannau golchi dillad, a heb le agos y tu allan i’w plant chwarae? Efallai bod yr achosion o unigrwydd ac ynysu a wynebir gan rai pobl hŷn wedi lleihau yn sgil arwyddion cyfeillgar o gardiau post yn cael eu rhoi drwy flychau post. Ond eto i gyd, rydyn ni’n poeni ynghylch y cynnydd mewn sgiamiau a all niweidio pobl mewn amgylchiadau agored i niwed yn ddifrifol.

Rydyn ni hanner ffordd drwy fis Ebrill 2020, pedair wythnos i mewn i ffordd wahanol o weithio heb unrhyw ddiwedd mewn golwg, ond mae un peth yn sicr – mae angen i ni adeiladu ar ein hymrwymiad i gysylltu â’n gilydd, gan alluogi pob un ohonom i gysylltu’n effeithiol a dylanwadu ar sut bynnag olwg fydd ar y gwaith adfer.

Mae elusennau a’r bobl sy’n gwirfoddoli i gymryd camau ar y tir, y rheini sy’n rhoi o’u hamser fel ymddiriedolwyr i lywio a chyfeirio’r gweithgareddau hynny, a’r staff (lle mae’r rheini ar gael) i gyd wedi ‘camu ymlaen’. Os gallwn ni adeiladu ar y gorau o’r profiad hyd yma a dysgu o’r gorffennol agos, rwy’n ffyddiog y byddwn yn rym cryfach er da yn y dyfodol. Mae’r sector yn un annibynnol ac ymrwymedig, sy’n gallu cefnogi gweithgarwch lleol ar lawr gwlad, rhoi cyngor ac arweiniad a chymryd cyfrifoldeb ffurfiol dros wasanaethau penodol, naill ai ar ei ben ei hun neu mewn partneriaeth â gwasanaethau a busnesau statudol. Ac rwy’n gobeithio y gallaf drechu’r botwm tawelu melltith hwnnw hefyd.