Mae Keegan & Pennykid yn noddi gofod3 ac yma, mae’r Swyddog Gweithredol Cyfrif, Garry Dalton yn dweud wrthym ni’r hyn y gallwn ni ei ddisgwyl o’r tair sesiwn addysgiadol y maen nhw’n eu cyflwyno yn ystod yr wythnos.
Mewn oes lle mae plethora o wybodaeth ar flaenau ein bysedd (a all neu na all fod yn ddibynadwy!), a mwy o ffocws ar gyfrifoldebau mudiadau tuag at eu rhanddeiliaid (gan gynnwys cyflogeion, gwirfoddolwyr, defnyddwyr gwasanaethau a’r cyhoedd ehangach), mae’n hanfodol bod gennym ni’r wybodaeth a’r offer cywir i’w defnyddio er mwyn sicrhau bod gennym ni’r siawns orau o gyflawni nodau a chyfrifoldebau ein mudiad.
Gan ystyried hyn, gofod3 yw’r platfform perffaith ar gyfer dysgu a datblygu er ein budd ni fel unigolion ac er budd ein mudiadau. Waeth a oes gennych chi ddiddordeb penodol neu beidio, rydych chi’n siŵr o ddod o hyd i sesiynau sy’n berthnasol i chi a’ch mudiad yn gofod3 eleni. Gobeithio y byddwch chi’n ymuno â ni yn un (neu’n wir, rhagor!) o’r tair sesiwn y byddwn ni’n eu cyflwyno yn ystod yr wythnos, sy’n cynnwys:
Byddwch chi’n cael y cyfle ym mhob un o’n gweithdai i gael gwybodaeth a dealltwriaeth well o’r pwnc dan sylw a chyda hynny, gobeithir y byddwch chi mewn sefyllfa well i ddeall y risgiau i’ch mudiad a’u heffaith arnoch chi a’r rheini sy’n dibynnu ar eich gwasanaethau. Pan fydd gennych chi’r wybodaeth hanfodol honno, byddwch chi fwy parod i reoli’r risgiau hyn.
RHEOLI RISG
Rheoli risg – yr hyn sydd angen i chi ei wybod i helpu i ddiogelu eich mudiad
Dydd Mercher 22 Mehefin 2022, 12pm
Gan droi at ein gweithdy cyntaf ar Reoli Risg, mae hwn yn bwnc treiddgar, ac er na fyddwn ni’n gallu ymdrin â phopeth yn y sesiwn, byddwn ni’n edrych ar hanfodion rheoli risg, a fydd yn eich galluogi i fynd i’r afael â meysydd rheoli risg go iawn yn ôl yn eich mudiad. Peidiwch ag amau pwysigrwydd Rheoli Risg am un funud, na’r angen i’w ystyried yn barhaus.
RISGIAU SEIBER
Beth allwch chi ei wneud i leihau risgiau seiber i’ch mudiad?
Dydd Iau 23 Mehefin 2022, 12pm
Bydd ein hail weithdy yn treiddio i faes Risgiau Seiber a’r effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol y gallai ymosodiadau seiber ei chael arnoch chi. Beth fyddech chi’n ei wneud pe bai un o’ch prif gyflenwyr neu gwsmeriaid yn dioddef ymosodiad seiber a fyddai’n golygu na fyddent, o bosibl, yn gallu cynnal eu gwasanaethau – a allech chi ymdopi heb y gwasanaeth hwnnw am gyfnod?
Os na yw’r ateb, yna bydd angen i chi ystyried mesurau lliniaru risgiau. Yn bendant, mae gan yswiriant seiber le mewn rhoi diogelwch i’ch mudiad o ran risgiau seiber uniongyrchol, ond dim ond un o nifer o fesurau risg y bydd angen i chi eu hystyried o fewn eich rhaglen rheoli risg gyffredinol yw hwn.
INDEMNIAD YMDDIRIEDOLWYR
Yswiriant indemniad ymddiriedolwyr – gwybod y pwysigrwydd
Dydd Mawrth 21 Mehefin 2022, 12pm
Mae ein trydedd sesiwn, a’r un olaf, ar gyfer ymddiriedolwyr, rheolwyr a phobl eraill sydd â chyfrifoldebau sylweddol dros gynnig help, cefnogaeth a gwasanaethau. Mae llywodraethu da yn hanfodol i lwyddiant mudiad. Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno gwybodaeth am y safonau disgwyliedig sydd angen i ymddiriedolwyr gadw atynt. Bydd yn caniatáu i chi asesu a ydych chi’n bodloni’r safonau gofynnol neu a oes, a dweud y gwir, ddiffygion sydd angen sylw. Byddwn ni’n rhoi manylion darpariaethau polisi nodweddiadol a geir o fewn polisi Indemniad Ymddiriedolwyr.
Os oes polisi Indemniad Ymddiriedolwyr yn ei le (fel y byddem ni bob amser yn ei argymell fel rheol), mae’n bwysig nad yw’n cael ei ystyried fel rhywbeth i ddisodli llywodraethu da, a ddibynnir arno i ymateb i unrhyw hawliadau neu honiadau o ddrygau gan ymddiriedolwyr.
WELWN NI CHI YNO?
Mae gofod3 yn ddigwyddiad ffantastig llawn cynnwys ac adnoddau perthnasol – edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!
Mae Keegan & Pennykid yn un o Gyflenwyr Dibynadwy CGGC ac yn Frocer Yswiriant trydydd sector arbenigol sy’n gwasanaethu cleientiaid ar hyd a lled y DU.
YNGLŶN Â GOFOD3
Mae gofod3 – gofod Cymru ar gyfer y sector gwirfoddol – yn digwydd ar-lein, 20-24 Mehefin 2022.
Mae gofod3 yn ddigwyddiad a drefnir gan CGGC, mewn cydweithrediad â’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Waeth a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod staff, yn wirfoddolwr neu’n bob un o’r rhain, mae gofod3 wedi’i ddylunio’n arbennig i bobl sy’n rhan o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.
Gyda dros 70 o wahanol ddosbarthiadau meistr, dadleuon panel a gweithdai yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos (sydd AM DDIM i’w mynychu!), mae rhywbeth at ddant pawb.
I weld y rhaglen lawn ac archebu eich lleoedd ewch i gofod3.cymru.