Dyma Matthew Brown, Dirprwy Brif Weithredwr CGGC, i gyflwyno baromedr sector gwirfoddol newydd Cymru ac egluro sut gall cofrestru eich helpu chi a’ch mudiad.
Mae rhywbeth newydd yn dod yr Hydref hwn. Rydyn ni’n gyffrous iawn am lansiad Baromedr Cymru sy’n prysur agosáu, sef adnodd data treigl a fydd yn rhoi darlun cyfredol i ni o’r hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd ar draws y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Trwy gofrestru, ac yn gyfnewid am dreulio ychydig bach o amser bob chwarter, byddwch yn derbyn data wedi’i bersonoli a allai fod yn drawsnewidiol wrth wneud penderfyniadau.
Bydd Baromedr Cymru yn cymryd mewnbwn o bobl sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli mewn mudiadau gwirfoddol ar hyd a lled y wlad, mewn mudiadau o bob siâp, maint a nodau elusennol. Rydyn ni’n galw ar bobl i gofrestru nawr a bod yn rhan o’r Baromedr Cymru gyfan cyntaf ym mis Hydref.
PA FUDD SYDD I MI?
Bydd cael mynediad at Faromedr Cymru yn rhoi tystiolaeth i gefnogi eich ceisiadau cyllido a’ch sgyrsiau â rhanddeiliaid a phenderfynwyr:
- Bydd pob mudiad sy’n cyfrannu yn cael dangosfwrdd wedi’i bersonoli, sy’n dangos sut mae eich ymatebion yn cymharu â rhai pobl eraill ar draws y sector. Mae’n ffordd ddefnyddiol o fyfyrio, meincnodi a chynllunio.
- Byddwch yn cael mynediad hefyd at ddangosfwrdd sector gyfan sy’n dangos tueddiadau’r sector a sut maen nhw wedi newid dros amser.
- Gyda phob ‘ton’ chwarterol bydd adroddiad byr, yn amlygu’r canfyddiadau ac yn edrych yn fanylach ar feysydd o ddiddordeb arbennig. Fel cyfrannwr, chi fydd y cyntaf i gael hwn.
- Wrth i’r data adeiladu dros amser, bydd mewnwelediadau eraill ar gael i chi hefyd. Byddwn ni’n gweithio gydag ymchwilwyr a phobl academaidd i gynnal dadansoddiadau mwy manwl – er mwyn ein helpu ni i gyd i ddeall beth sy’n newid, beth sy’n gweithio a beth sydd angen i ni weithredu arno.
BETH MAE’N EI GYNNWYS?
I’r rheini a fydd wedi cofrestru, bydd Baromedr Cymru yn cynnwys arolwg chwarterol yn gofyn i fudiadau yng Nghymru ynghylch:
- Eich sefyllfa ariannol
- Pwysau gwirfoddolwyr a staffio
- Y Galw am wasanaethau
- Hyder am y dyfodol
- Ac adran sy’n cylchdroi ar ‘bynciau llosg’ neu feysydd rydyn ni eisiau edrych yn fanylach arnyn nhw
Bydd pob mudiad yn ymateb unwaith yn unig bob chwarter, fel arfer drwy aelod staff neu wirfoddolwr sy’n deall sut mae’r mudiad yn dod yn ei flaen. Bydd yn cymryd oddeutu 10–15 munud i’w gwblhau.
SUT I GYMRYD RHAN
Mae cam un yn syml: crëwch broffil i’ch mudiad. Dim ond unwaith sydd angen i chi wneud hyn. Ar ôl hynny, byddwch yn derbyn arolwg byr bob chwarter – a’ch dangosfwrdd personol yn gyfnewid amdano.
Mae creu proffil yn rhoi gwybodaeth allweddol i ni – fel ble rydych chi’n gweithio, y maes rydych chi’n canolbwyntio arno a’ch maint – fel y gallwn ni greu darlun manylach o’r sector yn ôl daearyddiaeth, thema neu fath o fudiad.
Dim ond unwaith y flwyddyn fydd angen i chi adolygu’r proffil hwn. Ac os yw eich mudiad yn elusen gofrestredig neu os oes gennym ni ychydig o wybodaeth amdanoch chi eisoes, fe wnawn ni fwy fyth o’r gwaith – trwy lenwi’r manylion i chi’n awtomatig fel mai’r cwbl y bydd angen i chi ei wneud fydd gwirio a chadarnhau.
Cofrestrwch nawr i fod yn rhan o’r Baromedr Cymru gyfan cyntaf ym mis Hydref.
PAM YDYM NI’N GWNEUD HYN?
Ar adeg pan mae mudiadau gwirfoddol yng Nghymru o dan bwysau go iawn, mae angen tystiolaeth gref, reolaidd arnom ni i ddangos beth sy’n digwydd ar lawr gwlad.
Bydd Baromedr Cymru yn helpu i:
- Bledio’r achos i’r llywodraeth a chyllidwyr
- Lunio cymorth a gwasanaethau mwy clyfar
- Olrhain newidiadau dros amser a chanfod problemau sy’n dod i’r golwg
- Sicrhau bod ein profiadau cyfunol yn dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi
Nid ymchwil er mwyn ymchwil mo hwn. Mae’n dystiolaeth â diben – a chi sydd yn ei ganol.
Byddwn ni hefyd yn gosod ein holl waith ar fewnwelediadau i mewn i Faromedr Cymru, gan leihau nifer yr arolygon y byddwn ni’n eu cynhyrchu. Mae hynny’n golygu llai o ofynion gennym ni – a data o ansawdd gwell i chi a’r sector ehangach.
DEWCH I NI ADEILADU RHYWBETH GWELL – GYDA’N GILYDD
Mae Baromedr Cymru yn ymwneud â chryfhau ein llais fel sector. Rydyn ni eisiau lleihau dyblygu, rhannu mewnwelediadau a gwneud yn siŵr bod mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn cael eu gweld, eu clywed a’u deall.
Felly ymunwch â ni. Rhannwch brofiad eich mudiad. A helpwch ni i lunio’r dyfodol.