Mae Ruth Marks yn myfyrio ar yr argyfwng costau byw a’r hyn y mae’n ei olygu i’r sector gwirfoddol yng Nghymru
Mae’n teimlo fel petai ni’n clywed mwy o newyddion ar y costau byw cynyddol ddydd ar ôl dydd; mae biliau ynni drwy’r to, rhagwelir y bydd chwyddiant yn cyrraedd lefelau na welwyd ers argyfwng olew’r 70au, a dim ond i un cyfeiriad y mae llawer o eitemau bwyd bob dydd yn mynd – i fyny. Bydd gweithwyr yng Nghymru yn gweld y gostyngiad incwm mwyaf mewn termau real ers 20 mlynedd. Mae’r rhain yn argyfyngau economaidd a fydd yn effeithio ar y tlotaf fwyaf, ac mae pobl yn gorfod gwneud dewisiadau anodd yn feunyddiol ar yr hyn y gallant eu fforddio.
Mae nifer y bobl sy’n ceisio cymorth gan y sector gwirfoddol yn saethu i fyny, a bydd yn parhau i wneud hynny am fisoedd i ddod wrth i ni weld prisiau’n codi. Mae’r galw am wasanaethau yn rhoi mwy a mwy o bwysau ar fudiadau’r sector gwirfoddol – pwysau na allant ei ysgwyddo.
MAE COSTAU CYNYDDOL YN GOLYGU MWY O BWYSAU AR Y SECTOR GWIRFODDOL
Mae’r sector gwirfoddol yn cael ei fwrw mewn tair ffordd – costau uwch, mwy o alw a llai o incwm.
Rydyn ni’n gwybod bod codi arian yn dod yn fwy anodd gan fod gan bobl lai o arian i’w roi. Mae gwirfoddolwyr – sy’n fwy gwerthfawr nag arian mewn llawer o achosion – yn gorfod blaenoriaethu gweithgareddau eraill yn fwy a mwy oherwydd yr argyfwng. Gofynnir i’r sector gwirfoddol, sydd eisoes wedi’i ymestyn i’r eithaf ar ôl y pandemig, wneud mwy a mwy gyda llai.
Yr hyn sy’n fwy rhwystredig yw ein bod ni’n gwybod bod gwaith y sector gwirfoddol yn atal pobl rhag mynd i galedi pellach yn ddiweddarach. Er enghraifft, gall cyngor ar gyflogaeth, sy’n gallu atal tlodi mwy hirdymor a chynorthwyo pobl i dalu eu biliau, atal straen ariannol mwy hirdymor. Gall rhoi clust cyfeillgar i rywun atal problemau iechyd meddwl mwy hirdymor. Mae’n hanfodol bod elusennau a grwpiau gwirfoddol yn gallu cadw’r golau ynghyn i ddarparu’r mathau hyn o wasanaethau sy’n hanfodol i lesiant pobl. Ein pryder ni yw y bydd yr heriau ariannol a wynebir gan y sector gwirfoddol ac effaith y costau byw cynyddol, yn eu tro, yn lleihau llesiant pobl.
BYDD CGGC YN CEFNOGI’R SECTOR
Mae ein llais cyfunol yn bwysig iawn yn y drafodaeth hon. Mae yna gymaint o fudiadau sy’n gwneud gwaith mor anhygoel, a gyda chymaint o arbenigedd i gynorthwyo pobl mewn angen.
Mae CGGC wedi lansio arolwg i glywed gan y sector sut mae’r problemau hyn yn effeithio arnyn nhw. Os allech chi roi ychydig o’ch amser i’w gwblhau, byddai hyn yn helpu i gryfhau ein gwaith ar y problemau hyn.
Llywodraeth y DU sydd â’r rhan helaeth o’r pwerau i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn ystod yr argyfwng hwn. Gan ddefnyddio ein rhwydweithiau gyda’n cydweithwyr ledled y DU, a gryfhawyd yn ystod ymateb y sector i’r pandemig, rydyn ni’n gweithio i ddangos maint yr her; i unigolion ac i fudiadau’r sector gwirfoddol. Rydyn ni eisoes wedi ymuno â galwadau i roi cefnogaeth ystyrlon i bobl mewn angen a’r mudiadau sy’n eu cynorthwyo.
Yma yng Nghymru, rydyn ni’n gwbl ymrwymedig i fwyhau llais y sector gwirfoddol gyda Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill. Bydd hyn yn flaenoriaeth i’n Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector cenedlaethol gyda Gweinidogion Cymru. Ond rydyn ni hefyd yma i gysylltu mudiadau â rhwydweithiau, a chyflwyno platfform ar gyfer llwyddiannau a heriau ein haelodau. Fel y corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer y sector gwirfoddol, byddwn yn cyflwyno’r ddadl ar ran ein haelodau a’r rôl rydyn ni’n ei chwarae i ddiogelu’r rheini sy’n agored i niwed rhag argyfwng, yn enwedig pan fo’r argyfwng hwnnw yn rhoi mwy o bobl mewn mwy o berygl.
GWEITHIO GYDA’N GILYDD
Mae CGGC hefyd yn rhoi cyngor a chymorth i’r sector gwirfoddol, mewn partneriaeth â chynghorau gwirfoddol sirol. Gyda’n gilydd, byddwn ni’n edrych ar sut gallwn ni sicrhau bod y cymorth yn cynnwys cynghori pobl drwy’r heriau ariannol cyfredol. Ni fydd y cyngor a’r cymorth hwn yn gallu datrys popeth, ond gobeithio gallwn ni ei gwneud hi’n haws i fudiadau gynllunio ar gyfer yr heriau y maen nhw’n debygol o’u hwynebu yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Mae CGGC yn bodoli am ein bod yn gwybod ein bod ni, y sector gwirfoddol, yn gwneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd. Rwy’n hyderus y bydd ein haelodau yn dangos eu heffaith yn ystod y misoedd i ddod wrth i’r costau byw uwch gynyddu’r caledi a wynebir gan y bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw. Drwy feithrin cysylltiadau rhwng mudiadau’r sector gwirfoddol, gallwn wneud yn siŵr bod ein heffaith mor arwyddocaol â phosibl.
Os hoffech chi rannu eich profiadau, neu os oes gennych chi syniadau ar sut gall y sector gefnogi pobl yn ystod y cyfnod hwn, cysylltwch ag CGGC. Bydden ni hefyd yn dwli clywed astudiaethau achos gan eich mudiad ynghylch sut mae’r costau a’r galw uwch wedi effeithio arnoch chi, neu storïau ysbrydoledig o sut mae mudiadau’r sector gwirfoddol yn cynnig help llaw. Cysylltwch â policy@wcva.cymru i siarad â ni ynghylch y mater hwnnw.