rescue worker helping a person up from ground

Cadw eich pen uwchlaw’r argyfwng

Cyhoeddwyd: 15/06/22 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Awdur: Menai Owen-Jones

Mae’r sector gwirfoddol wedi ymgodymu â nifer o argyfyngau mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf – y newid yn yr hinsawdd, y pandemig, ffoaduriaid yn dianc o ryfel. Yma, mae Menai Owen-Jones, Ymddiriedolwr CGGC, yn ystyried sut gall mudiadau gwirfoddol ymateb yn effeithiol.

Wedi byw drwy ddwy flynedd o bandemig COVID-19 nawr, rydyn ni wedi gweld â’n llygaid ein hunain bod argyfyngau yn gallu digwydd, er mor annhebygol yw hynny, a’u bod yn gallu cael effaith drychinebus.

Rydyn ni’n byw mewn oes ansicr, gymhleth, gythryblus sy’n newid yn gyflym. Mae gwahanol fathau ac achosion o argyfyngau. Yr un peth sydd ganddyn nhw’n gyffredin â’i gilydd yw eu gallu i roi’ch mudiad mewn perygl. Sut gall mudiadau gwirfoddol oroesi’r storm a chadw’u pennau uwchlaw’r dŵr?

Gan fyfyrio ar fy amser fel Prif Weithredwr ‘The Pituitary Foundation’ ar anterth y pandemig, rwy’n credu yr oedd tri phrif ffactor a alluogodd y mudiad i ymateb yn gadarn, gan nid yn unig goroesi, ond ffynnu…

DIWYLLIANT

Roedd gennym ni ddiwylliant ethos ‘un tîm’ a oedd yn cynnwys pawb – ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr. Roedden ni’n ymddiried yn ein gilydd. Gallem ni ddibynnu ar ein gilydd, ac oherwydd hyn, gallon ni ymateb yn gyflym pan darodd y pandemig, a chafodd cydweithwyr eu grymuso i gymryd cyfrifoldeb a gwneud penderfyniadau, fel ein bod yn gallu addasu’n gyflym.

Gwnaethom ni hefyd weithio fel tîm i fod yn arloesol, gan gynnwys trawsnewid rhai gwasanaethau cymorth yn blatfformau digidol a chreu apêl codi arian digidol hynod lwyddiannus, ‘500 Faces’, a gododd mwy nag £120,000. Nid oeddem ni’n ofn profi a rhoi cynnig ar bethau newydd a dysgu o brofiad.

CYMUNED

Mae argyfwng yn profi cryfder eich cydberthynas â’ch rhanddeiliaid. Gwnaeth cryfder cymunedol ‘The Pituitary Foundation’ dywynnu drwy’r pandemig, gydag aelodau, rhoddwyr, gwirfoddolwyr a chodwyr arian yn mynegi eu hymrwymiad drwy roi arian, trefnu gweithgareddau codi arian rhithwir a gwirfoddoli amser i helpu.

Byddaf bob amser yn cofio haelioni sylweddol pobl yn ystod y cyfnod hwn, pwysigrwydd yr elusen iddyn nhw a faint roedden nhw’n ei gwerthfawrogi.

SYLFAEN GADARN

Diolch i flynyddoedd maith o waith gan lawer o bobl, roedd ‘The Pituitary Foundation’ wedi adeiladu sylfaen gadarn, gyda system lywodraethu dda, digon o arian a gweithrediadau cadarn, a oedd yn cynnwys arferion gwaith modern e.e. digidol.

Golygai hyn bod gennym ni gynlluniau wrth gefn, rhywbeth i gwympo’n ôl arno pan darodd y pandemig, felly llwyddasom i nid yn unig barhau i ddarparu ein gwasanaethau a’n gweithrediadau heb doriad, ond yn wir, eu cynyddu, a oedd yn hanfodol yn sgil y galw digyffelyb am ein gwasanaethau cymorth.

Yn fyr, fe fydden i’n dweud bod angen cyfuniad o ffactorau i wneud eich mudiad yn wydn a hyblyg er mwyn gallu cadw’ch pen uwchlaw’r dŵr.

Y GALLU I BARATOI A DYSGU

Dywed rhai na ellir rhagweld argyfyngau fel y pandemig, byddai eraill yn dadlau y gellid mynd o flaen argyfwng a’i liniaru drwy ragweld, rheoli risg a bod yn barod – rydw i yn y garfan olaf.

Er bod llawer o bethau a ffactorau allanol sydd y tu hwnt i’n rheolaeth ni fel mudiad gwirfoddol, mae rhai pethau y gallwn ni ddylanwadu arnynt os dymunwn. Er enghraifft, mae argyfwng yn gyfle da i ddysgu, waeth pa mor anodd yw’r amgylchiadau.

Tybed faint o fudiadau sydd wedi edrych yn ôl ar y ddwy flynedd ddiwethaf a myfyrio ar yr hyn y maen nhw wedi’i ddysgu? Faint ohonyn nhw sydd wedi meddwl am yr hyn y bydden nhw’n ei wneud yn wahanol ac wedi dechrau rhoi newidiadau ar waith er mwyn cynyddu eu gwydnwch yn y dyfodol?

SESIWN DRAFOD YR OES ARGYFWNG YN GOFOD3

Byddwn ni’n edrych ar yr atebion i’r cwestiynau hyn, a llawer o rai eraill, yn y sesiwn Oes Argyfwng ddydd Mawrth 21 Mehefin am 2pm yn ystod cynhadledd ddigidol CGGC, gofod3.

Rwy’n edrych ymlaen at gadeirio’r drafodaeth, pan fyddwn ni’n clywed gan arbenigwyr o’r sector gan gynnwys: Bev Garside, Ymgynghorydd a Chyd-Gyfarwyddwr ‘Charity Job Finder’; Henry Barnes, Rheolwr Gweithrediadau Ymateb Brys Cymru, y Groes Goch; a Gareth Owen MBE, Cyfarwyddwr Dyngarol Achub y Plant.

Bydd y panel yn rhannu eu mewnwelediadau ar sut gall mudiadau gwirfoddol bod yn barod i wynebu argyfwng a bydd amser am gwestiynau ac atebion rhyngweithiol. Gobeithio y byddwch chi’n ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad hwn wrth i ni ystyried sut gall y sector gwirfoddol nid yn unig goroesi, ond ffynnu, yn ystod ‘yr oes argyfwng’.

RHAGOR O WYBODAETH

Menai Owen-Jones yw Cyfarwyddwr Siartredig ac Is-gadeirydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Enw Trydar: @Menai_OJ

LinkedIn: uk.linkedin.com/in/menaiowenjones

YNGLŶN Â GOFOD3

Mae gofod3 – gofod Cymru ar gyfer y sector gwirfoddol – yn digwydd ar-lein, 20-24 Mehefin 2022.

Mae gofod3 yn ddigwyddiad a drefnir gan CGGC, mewn cydweithrediad â’r sector gwirfoddol. Dyma’r digwyddiad sector gwirfoddol mwyaf o’i fath yng Nghymru.

Waeth a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod staff, yn wirfoddolwr neu’n bob un o’r rhain, mae gofod3 wedi’i ddylunio’n arbennig i bobl sy’n rhan o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.

Gyda dros 70 o wahanol ddosbarthiadau meistr, dadleuon panel a gweithdai yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos (sydd AM DDIM i’w mynychu!), mae rhywbeth at ddant pawb.

I weld y rhaglen lawn ac archebu eich lleoedd ewch i gofod3.cymru.