Wrth i’r cyfyngiadau lacio, aiff Fiona Liddell, rheolwr Helplu Cymru, i’r afael â chwestiynau ynghylch rheoli risg ar gyfer gwirfoddoli
Wrth i mi ysgrifennu, mae nifer yr achosion o COVID-19 yng Nghymru yn gostwng, fel mae’r gorau, ar ôl y penllanw uchel a welsom ar ddechrau’r flwyddyn. Mae mwy na 75% o boblogaeth Cymru wedi cael dau frechiad, a bron 60% wedi cael pigiad atgyfnerthu hefyd (am ragor o wybodaeth, gan gynnwys data rhanbarthol, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru (data Saesneg yn unig).
Erbyn diwedd mis Mawrth, rydyn ni’n disgwyl gweld diwedd i’r holl amddiffynfeydd a gofynion domestig cyfreithiol sydd ar ôl, a ddaeth i rym yn 2020.
Ond nid yw Coronafeirws 19 wedi diflannu ac mae cyfrifoldeb ar fudiadau o hyd i wneud penderfyniadau gwybodus ar sail eu hasesiadau eu hunain o’r risgiau yn eu cyd-destunau penodol. Mae mudiadau gwirfoddol yn cydnabod bod ganddyn nhw gyfrifoldeb tuag at ddiogelwch gwirfoddolwyr, staff a defnyddwyr gwasanaethau a’r ymddiriedaeth sydd gan bobl eraill ynddyn nhw – ac nid ydyn nhw eisiau colli na thanseilio hyn. Mae hyn yn golygu y gallai mesurau rheoli fod ar waith o hyd os bydd eich mudiad yn credu, ar sail asesiad risg, eu bod yn angenrheidiol.
A DDYLAI GWIRFODDOLWYR GAEL EU BRECHU?
Cwestiwn y mae rheolwyr gwirfoddolwyr wedi bod yn gofyn i ni yn yr wythnosau diwethaf yw ‘a ddylem fynnu bod gwirfoddolwyr gael eu brechu?’
Mae’r cwestiwn hwn yn codi o awydd i fod yn wyliadwrus ac yn gyfrifol. Fodd bynnag, mae angen meddwl yn ofalus am hyn. Byddai polisi ar gyfer brechu gorfodol yn allgau’r rheini nad ydyn nhw’n bodloni’r safon am ba bynnag reswm (a fyddai hynny’n cael ei ddiffinio yn ôl nifer y pigiadau a dderbyniwyd, neu drwy gael brechiad o fewn cyfnod penodol o amser?).Oni bai bod achos cryf dros hyn, a’r achos hwnnw wedi’i fynegi’n dda, bydd hyn yn debygol o fod yn arfer cynhennus sy’n tresmasu ar breifatrwydd gwirfoddolwyr.
Mae’n wir fod cam wedi’i gymryd gan Loegr i gyflwyno rheoliadau newydd a fyddai’n gofyn i bob gweithiwr yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol ehangach sydd â chysylltiad wyneb yn wyneb â chleifion gael ei frechu.
Fodd bynnag, mae’r cynnig hwn wedi’i wrthod am ddau brif reswm. Mae Omicron, y prif amrywiolyn bellach, yn llai difrifol na’r amrywiolyn Delta blaenorol. Ac yn ail, nid yw hyd yn oed cwrs llawn o frechlyn cymeradwy yn amddiffyn rhag lledaeniad Covid 19, yn y ffordd y tybiwyd cyn hyn.
Mae annog y brechlyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth i bawb. Mae pob brechlyn yn rhoi mwy o ddiogelwch parhaol rhag clefydau neu farwolaeth (er, dylid nodi bod y diogelwch rhag cael eich heintio yn lleihau o fewn wythnosau i gael y brechlyn yn ôl pob tebyg).
Y cyngor call felly yw i annog gwirfoddolwyr i gael eu brechu, ond nid oes digon o sail dros wneud hyn yn amod cyffredinol o wirfoddoli.
PWYSO A MESUR Y RISGIAU
Rydyn ni’n dechrau dod yn gyfarwydd â’r mesurau rheoli sydd ar gael i ni ar gyfer rheoli risgiau’r coronafeirws erbyn hyn, fel gwisgo masgiau wynebu, defnyddio hylif diheintio dwylo, cadw pellter cymdeithasol, sicrhau awyru da, cymryd profion llif unffordd ac annog y rheini sy’n dangos symptomau o’r haint i gadw draw.
Mae’r mesurau rydyn ni’n gofyn i wirfoddolwyr eu mabwysiadu yn dibynnu ar asesiad o’r risgiau. Gall rhai mesurau, fel hylendid dwylo ac aros gartref pan rydych chi’n anhwylus, fod yn arferion da yn gyffredinol. Pan mae’r risgiau’n uwch, oherwydd bregusrwydd grwpiau cleient neu wirfoddolwyr, er enghraifft, gall rhagofalon ychwanegol fod yn briodol, fel gwneud profion llif unffordd (tra bod y rhain ar gael am ddim) neu gadw pellter cymdeithasol.
Cofiwch fod asesiad risg yn ymwneud â rhoi ystyriaeth lawn i bedair agwedd: yr adeilad/amgylchedd, y grŵp cleient/defnyddiwr gwasanaeth, y gwirfoddolwyr a’r gweithgaredd dan sylw. Mae rheoli risg yn ymwneud â rhoi mesurau cymesur ar waith er mwyn lleihau, ond nid o reidrwydd cael gwared â’r risg.
Mae offeryn asesu risg COVID-19 Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru yn ffordd ddefnyddiol i wirfoddolwyr edrych ar eu risg personol eu hunain, a gall hyn wedyn lywio trafodaeth ar yr hyn y maen nhw’n barod i’w wneud, ac yn gallu ei wneud, ac unrhyw addasiadau y gellid eu gwneud i’r gweithgaredd neu’r amgylchedd gwirfoddoli.
Mae’r profiad o’r pandemig wedi ein haddysgu bod unigolion yn goddef lefelau gwahanol o risg ac mae angen ystyried hyn hefyd: gall yr hyn a ystyrir yn ‘ddiogel a chymesur’ gan un person barhau i deimlo’n anghysurus i rywun arall.
Y ffordd orau o sicrhau ein bod yn bwrw iddi mewn modd cytbwys a chymesur yw drwy gynnwys pobl eraill yn y broses o asesu risg ac ailedrych ar hyn yn rheolaidd.
EDRYCH I’R HIRDYMOR
Mae angen i ni gynllunio ar gyfer yr hirdymor nawr; am ddyfodol lle mae COVID-19 yn rhan o’r amgylchedd risg, ynghyd â’r ffliw a feirysau heintus eraill.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r achosion o ffliw wedi disgyn. Mae’r sylw dyfal rydyn ni wedi’i roi i hylendid dwylo, cadw pellter cymdeithasol ac ati nid yn unig wedi atal pobl rhag cael eu heintio gan Covid-19, ond hefyd wedi atal feirysau eraill. Dylai rhagofalon hylendid cyffredinol barhau i fod yn flaenoriaeth, ac efallai bod hwn yn rhywbeth nad ydyn ni wedi rhoi digon o sylw iddo yn y gorffennol.
Gyda deddfwriaeth y coronafeirws yn dod i ben, mae’r sail gyfreithiol dros ein hymateb iechyd cyhoeddus yn dychwelyd i’r hyn a oedd cyn y pandemig. Gwnaeth mesurau brys roi’r hawl, neu yn wir y mandad, ar fudiadau i gasglu data personol gan wirfoddolwyr, gan gynnwys gwybodaeth iechyd fel canlyniadau profion a statws brechu. Unwaith y bydd y ddeddfwriaeth Covid wedi’i diddymu, GDPR fydd y prif ganllawiau i’w dilyn eto o ran pa ddata personol y gellir ei gasglu a hawliau preifatrwydd gwirfoddolwyr.
Cyhoeddwyd y daflen wybodaeth Gwirfoddoli a Llacio’r Cyfyngiadau Symud y llynedd ar adeg pan oedd cyfyngiadau Covid mwy llym ar waith a phan nad oedd statws brechu’r rhan fwyaf o bobl gystal â nawr. Mae’n parhau i fod yn ganllaw defnyddiol ar gyfer meddwl am reoli risg yn y cyfnod mwy hirdymor.
Mae’r daflen yn rhagweld y ‘bydd angen i lawer o fudiadau ymateb i amseroedd newidiol, fel galwadau os bydd ‘cynnydd sydyn’ yn y coronafeirws … gallai rhai o’r newidiadau sydd eu hangen yn ystod y cyfnod hwn gael eu hymwreiddio fel ffyrdd newydd o weithio yn y tymor hirach’.
Ni ellir diystyru’r posibilrwydd o amrywiolion newydd, a phe bai’r sefyllfa yn gofyn amdani, gallai deddfwriaeth yng Nghymru fandadu mesurau ychwanegol fel yr ydyn ni wedi’u gweld yn ystod y blynyddoedd diwethaf unwaith eto. Ond tan hynny, gall hwn fod yn gyfle cadarnhaol i ailfeddwl ein harferion safonol, i sicrhau bod gennym ni fesurau cymesur a chynaliadwy ar waith, er mwyn parchu ac amddiffyn y rheini sy’n agored i niwed.
Mae Helplu Cymru yn gweithio gyda Chefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs)), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Ewch i dudalen we Helplu Cymru, neu i dderbyn diweddariadau ar e-bost, cofrestrwch yma a dewiswch yr opsiwn ‘gwirfoddoli iechyd a gofal’.