Yma, mae Malcolm John, sylfaenydd yr ymgyrch ‘Action for Trustee Racial Diversity’, yn amlinellu’r gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud i annog mwy o ymddiriedolwyr o gefndiroedd Du ac Asiaidd.
Y NOD
Gweledigaeth ‘Action for Trustee Racial Diversity’ yw cynyddu nifer yr ymddiriedolwyr Du ac Asiaidd ar fyrddau elusennau yn sylweddol. Rydyn ni’n bwriadu gwireddu’r weledigaeth hon drwy roi arweiniad i fudiadau ag awydd gwirioneddol i recriwtio a chadw ymddiriedolwyr Du ac Asiaidd a darparu’r adnoddau i’w galluogi i wneud hynny.
Awgryma’r ystadegau diweddaraf fod mwy na 100,000 o rolau ymddiriedolwyr elusennau gwag yn y DU. Mae bron tri chwarter o elusennau yn nodi eu bod nhw’n cael anhawster recriwtio ymddiriedolwyr a phobl â sgiliau proffesiynol. Fodd bynnag, mae’r ffaith bod mwy na 70% o elusennau yn recriwtio’n anffurfiol a thrwy eu rhwydweithiau cyfredol yn arwain at brinder syfrdanol o amrywiaeth ymhlith ymddiriedolwyr.
Y GWIRIONEDD PLAEN
- Yng Nghymru a Lloegr, dim ond 8% o ymddiriedolwyr sydd o gefndiroedd Du ac Asiaidd a dim ond 2.9% sy’n fenywod lliw (llai na 5,000 o 168,000 o ymddiriedolwyr!). Mae hyn yn y cyd-destun fod 14% o boblogaeth Cymru a Lloegr o gefndiroedd nad ydynt yn wyn ac yn amlygu darlun damniol o fwy na 40% o dangynrychiolaeth
- Mae 92% o ymddiriedolwyr yn wyn, yn hŷn ac wedi derbyn incwm ac addysg uwch na’r cyffredin (Comisiwn Elusennau 2017)
- Mae gan 62% o’r elusennau mwyaf, yn ôl incwm, fyrddau cwbl wyn
- Mae gan 34 o bob 100 elusen fawr yn y DU uwch-arweinyddiaeth gwbl wyn (o ran gwirfoddolwyr a phobl broffesiynol) (Green Park 2017)
Mae’r ymgyrch The Action for Trustee Racial Diversity yn barod i gydnabod bod amrywiaeth yn ymwneud ag ystod ehangach o briodweddau a nodweddion na dim ond hil. Fodd bynnag, rydyn ni’n ddigon ewn i awgrymu bod y ffigurau uchod yn atgyfnerthu ein cred mai’r broblem o ran amrywiaeth hiliol sydd wedi gweld y lleiaf o gynnydd.
O’m mhrofiad fy hun o fod yn ymddiriedolwr ar nifer o fyrddau elusennau ers mwy nag 20 mlynedd, a rheini’n amrywio o rai mawr iawn i rai bach iawn, prin iawn yw’r adegau lle mae fy nghyd-ymddiriedolwyr hefyd wedi dod o gefndiroedd Du neu Asiaidd.
Mae’n wir i ddweud hefyd bod y cyfleoedd ar y rhan fwyaf o’r byrddau hyn wedi dod o’m rhwydweithiau a’m cysylltiadau personol fy hun yn hytrach nag unrhyw broses recriwtio. Sefyllfa annymunol o unrhyw safbwynt cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
BUDDION AMRYWIAETH
Mae llawer wedi’i nodi am fuddion croesawu amrywiaeth. Mae amrywiaeth yn helpu i ddenu cronfa ehangach o ddoniau, gan ddod â gwahanol brofiadau a gwahanol ffyrdd o feddwl a dod o hyd i ddatrysiadau i broblemau mudiad.
Mae bwrdd ymddiriedolwyr mwy amrywiol yn helpu mudiadau i adlewyrchu’r rheini y maen nhw’n eu cefnogi, eu cymunedau a’r gymdeithas ehangach yn fwy eglur a’u cynrychioli’n fwy effeithiol. Mae amrywiaeth yn helpu i osgoi meddylfryd grŵp a dallineb cyfunol ar Fyrddau lle daw’r holl ymddiriedolwyr o’r un cefndir cymdeithasol, diwylliannol ac addysgol.
Y RHWYSTRAU
Mae ymgysylltiad yr ymgyrch, yn enwedig â phobl iau o gefndiroedd Du ac Asiaidd, yn datgelu bod ymddiriedolaeth yn ‘wlad arall’ nad oes ganddyn nhw’r pasbort cywir iddi a lle mae’n anodd ei gael. Dim ond un profiad negyddol sydd ei angen ar rywun Du neu Asiaidd wrth wneud cais i ddod yn ymddiriedolwr cyn y bydd yn rhoi’r gorau i ymgeisio yn y dyfodol.
Adrodda llawer bod pobl wedi dweud wrthyn nhw nad ydyn nhw’n ffitio neu nad oes ganddyn nhw’r sgiliau a phrofiad gofynnol. Neu bydd y rheini sy’n meddwl profi dyfroedd dieithr ymddiriedolaeth yn cael eu digalonni pan na welant lawer o bobl fel nhw ar broffiliau ymddiriedolwyr ar-lein disglair elusennau o bob maint.
Mae ‘Action for Trustee Racial Diversity’ eisiau paentio darlun llai swrrealaidd: darlun sy’n llawer mwy cynrychioliadol o ddemograffeg yr 21ain ganrif.
PARTNERIAETH AG CGGC
Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod na allwn ni wireddu ein gweledigaeth ar ein pennau ein hunain. Rydyn ni eisiau gweithio gyda phartneriaid allweddol eraill fel CGGC yn y sector elusennol a sectorau eraill er mwyn cyfuno adnoddau a chyflawni mwy o effaith.
Ein nod mwy hirdymor – gan ddechrau eleni – yw datblygu capasiti lleol a phartneriaethau lleol a fydd yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o fuddion a rhwystrau Byrddau mwy hiliol amrywiol a chreu cysylltiadau cynaliadwy rhwng elusennau lleol a rhwydweithiau Du ac Asiaidd lleol. Byddwn ni’n rhannu’r hyn y byddwn ni’n ei ddysgu o weithgareddau’r ymgyrch ac yn amlygu’r tri phrif adnodd rydyn ni wedi’u datblygu.
- Mae ein cronfa ddata gyfredol o fwy na 500 o fudiadau rhwydwaith Du ac Asiaidd (BANOs) ar draws sectorau – corfforaethol, elusennol, proffesiynol, myfyrwyr, aelodaeth, rhwydweithiau staff ac ati – yn cynrychioli miloedd o ymddiriedolwyr posibl â’r sgiliau a’r profiad y mae ar elusennau eu hangen yn daer
- Ein canllaw arloesol – From here to diversity – Canllaw ymarferol ar recriwtio ymddiriedolwyr elusennau Du ac Asiaidd (Saesneg yn unig)
- Ein rhwydwaith cyfryngau cymdeithasol o fwy na 300 o bobl Du ac Asiaidd sy’n ymddiriedolwyr neu’n gobeithio bod yn ymddiriedolwyr, lle y gall elusennau hysbysebu eu rolau gwag am ymddiriedolwyr. Os ydych chi’n unigolyn Du neu Asiaidd sy’n frwdfrydig ac yn awyddus i chwarae rôl allweddol mewn arweinyddiaeth yn y sector elusennol, cofrestrwch i fod ar y rhwydwaith yma https://action-for-trustee-racial-diversity-uk.mn.co/invite
YR HER
Mae 100,000 o rolau ymddiriedolwyr gwag bob blwyddyn. Bydd recriwtio 10,000 o ymddiriedolwyr ychwanegol o gefndiroedd Du ac Asiaidd yn codi canran yr ymddiriedolwyr Du ac Asiaidd o 8% i 14% ac yn cyrraedd gwlad yr addewid o gynrychiolaeth gymesur.
Mae 168,000 o elusennau yn y DU. D’oes ond angen i 5,000 ohonyn nhw – 3% o’r cyfanswm – i recriwtio dau ymddiriedolwr yr un o gefndiroedd Du ac Asiaidd i gyrraedd y 14% hudol! D’oes bosibl nad yw hynny y tu hwnt i’n hymrwymiad a’n dychymyg? Gyda chymorth ac ymgysylltiad gweithredol CGGC a mudiadau seilwaith tebyg ledled y DU, gallwn ni gyflawni hyn.
Os yw hwn yn fater pwysig i’ch elusen a hoffech chi ein cefnogi, cysylltwch â: Malcolm John, Sylfaenydd, ‘Action for Trustee Racial Diversity’, malcjohn18@gmail.com.
Malcolm John yw sylfaenydd yr ymgyrch ‘Action for Trustee Racial Diversity’ ac mae’n un o ymddiriedolwyr Cymdeithas y Cadeiryddion.