Grŵp o bobl, dwy fenyw yn dal dwylo

‘Byd lle mae tosturi, ymroddiad a gwytnwch yn rhinweddau dyddiol’

Cyhoeddwyd: 30/11/23 | Categorïau: Ar gyfer aelodau, Awdur: Joanne O'Keeffe

Ymunodd Thomas Carroll Group â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn ddiweddar fel cyflenwr dibynadwy. Dyma Joanne O’Keeffe yn trafod pam mae’r grŵp yn frwd dros weithio gyda’r sector gwirfoddol, a sut y gallan nhw helpu aelodau CGGC.

Mae Thomas Carroll Group yn credu mewn pŵer cydweithio a chryfder y cymunedau sy’n dod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth. Rydyn ni’n falch iawn o gael ein penodi’n gyflenwr dibynadwy gan CGGC, ac rydyn ni’n awyddus i rannu’r angerdd gyda chi sy’n llywio ein hymrwymiad i’r bartneriaeth hon.

EIN TIR CYFFREDIN

Mae CGGC yn un o hyrwyddwyr y sector gwirfoddol yng Nghymru, ac maent yn gweithio’n ddiflino i gryfhau cymunedau a gwella bywydau unigolion ar hyd a lled y wlad. Mae eu cenhadaeth yn cyd-fynd yn agos â’n gwerthoedd craidd ni. Yn debyg i CGGC, rydyn ni’n credu fod meithrin ymdeimlad o gymuned a chefnogi’r bobl mewn angen yn dangos ymdrech wych, ac mae’n gyfrifoldeb y mae pawb yn ei rannu.

RHANNU GWELEDIGAETH

Rydyn ni’n ymwybodol o’r gwaith anhygoel y mae’r sector gwirfoddol ac elusennol yn ei wneud. Mae’n fyd lle mae tosturi, ymroddiad a gwytnwch yn rhinweddau dyddiol. Ein rôl ni ydy darparu ein gwasanaeth, rhoi help llaw i bobl a bod yno pan fydd arnoch ein hangen ni fwyaf. Mae ein hymrwymiad wedi’i wreiddio yn y gred y gallwn ni gefnogi eich cenhadaeth i’ch helpu i greu newid parhaol a chreu dyfodol mwy disglair i’r rheini rydych chi’n eu gwasanaethu.

SUT GALLWN NI HELPU

Rydyn ni am bwysleisio bod ein partneriaeth â CGGC yn cynnig datrysiadau yswiriant a rheoli risg, a bod y bartneriaeth yn ymwneud â darparu presenoldeb cefnogol, rhannu gwybodaeth, a chydweithio i greu effaith barhaol. Mae gennym ni gyfoeth o brofiad o reoli risg, gan gynnwys iechyd a diogelwch a chyfraith cyflogaeth, a gall y profiadau hyn fod yn amhrisiadwy o ran helpu mudiadau elusennol i ffynnu.

Rydyn ni’n canolbwyntio ar ddeall eich anghenion, eich heriau a’ch dyheadau unigryw. Drwy wneud hynny, gallwn ni deilwra ein gwasanaethau i ategu a gwella eich cenhadaeth. Gyda’n gilydd, ein nod ydy cyfrannu at lesiant a bywiogrwydd cyffredinol y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.

RHANNU EIN GWYBODAETH

Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi aelodau CGGC drwy rannu gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol ar reoli risg. Rydyn ni wedi datblygu Canolfan Risg sydd wedi cael ei dylunio i gefnogi busnesau ar draws amrywiaeth o sectorau gwahanol ar y risgiau sy’n gysylltiedig â’u busnes. Yn ein canolfan, gallwch chi ddod o hyd i ddolenni i weminarau, digwyddiadau, adnoddau a chanllawiau yn y gorffennol ac sydd ar y gweill. Mae ein hadnoddau wedi’u llunio i fod yn hygyrch ac yn hawdd eu deall, er mwyn i chi gael yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn gyflym ac yn hawdd.

Mae ein tîm o ymgynghorwyr risg wrth law i roi sylw i unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gennych chi. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.thomascarroll.co.uk/hub.

Wrth i ni gychwyn ar y daith hon gyda CGGC, rydyn ni eisiau mynegi ein brwdfrydedd gwirioneddol dros y cydweithio sydd o’n blaenau. Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed gan gymuned CGGC, gan rannu ein syniadau a dod o hyd i ddatrysiadau ar y cyd i’r heriau sy’n wynebu’r sector gwirfoddol.

Mae croeso i chi fynd i www.thomascarroll.co.uk i gael rhagor o wybodaeth amdanom ni ac am y gwaith rydyn ni’n ei wneud.