Mae Bwyd Dros Ben Aber wedi ennill y marc ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr am y tro cyntaf. Dyma Laura Cooper, Cydlynydd Gwirfoddolwyr, i ddweud mwy wrthym ni.
Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) yw safon ansawdd y DU ar gyfer pob mudiad sy’n cynnwys gwirfoddolwyr. Mae’n unigryw, oherwydd hon yw’r unig safon sy’n canolbwyntio ar reoli gwirfoddolwyr. Nod yr IiV yw gwella ansawdd y profiad gwirfoddoli i bob gwirfoddolwr a dangos bod mudiadau yn gwerthfawrogi’r cyfraniad aruthrol y mae eu gwirfoddolwyr yn ei wneud.
Rhoddir gwerth mawr ar ein gwirfoddolwyr ac maen nhw’n greiddiol i’n mudiad, ac mae’r marc ansawdd hwn yn teimlo fel prawf pwysig o hyn. Hwn yw’r tro cyntaf rydyn ni wedi ceisio ennill y dyfarniad, ac rydyn ni wrth ein boddau.
Gwnaethon ni weithio tuag at ein hachrediad IiV fel tîm. Rydyn ni wrthi’n datblygu dull mudiad safonol ar draws y gwirfoddolwyr a staff, felly dyna sut aethom ati i ddilyn y broses IiV. Roedd ein haseswyr IiV yn ardderchog – gwnaethant gefnogi ein huchelgeisiau a’n dull gweithredu drwy gydol y broses.
Mae’r profiad wedi bod yn werthfawr tu hwnt i’n mudiad ac rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi ennill cydnabyddiaeth o’r safon ansawdd yn y pen draw. Bu’r profiad yn ymgorfforiad gwych o’n dull strwythur safonol ac yn werth chweil i bawb dan sylw.
CYNNWYS GWIRFODDOLWYR AR BOB CAM
Mae creu ar y cyd yn bwysig iawn i ni, a bu ein gwirfoddolwyr yn rhan o bob agwedd ar y broses Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr. Mae derbyn y dyfarniad yn cydnabod gwaith y mudiad, y dull gweithredu rydyn ni’n ei ddilyn, a’r cyfleoedd rydyn ni’n eu cynnig. Mae’r newyddion am y Dyfarniad wedi dod ar adeg amserol iawn, oherwydd daw yn union ar ôl i ni lwyddo’n ddiweddar i gael £439,125 o gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol – gan ddiogelu dyfodol ein menter gymdeithasol arloesol, nid-er-elw am y tair blynedd nesaf.
BETH FYDDWN NI’N EI WNEUD NESAF
Mae Bwyd Dros Ben Aber, yn Aberystwyth, yn fudiad arloesol nid-er-elw. Ei weledigaeth yw cael system fwyd hygyrch, moesegol a chynaliadwy lle y mae cynhyrchwyr a chwsmeriaid yn ddinasyddion gweithgar gyda’r wybodaeth a’r adnoddau i greu newid.
Ein cynlluniau cychwynnol ar gyfer y dyfodol yw dod o hyd i le cymunedol newydd, mwy o faint, sydd â’r capasiti i bobl ddod ynghyd i ddysgu, gweithredu a bod yn greadigol. Byddwn ni’n hwyluso camau gweithredu traws-gymunedol a chyfunol gan fynd i’r afael â phroblemau systemig o ran cynhyrchu, dosbarthu, defnyddio a gwastraffu bwyd.
Byddwn yn mynd ar ôl cyllid i ddatblygu cyfleoedd cyflogaeth sy’n canolbwyntio ar wirfoddolwyr, ac yn tyfu ein tîm o wirfoddolwyr a, chan hynny, yn cynyddu’r mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli amgylcheddol. Byddwn hefyd yn ymchwilio i ffyrdd o fesur a phrofi’r buddion y mae cydweithio â ni’n eu cael ar iechyd meddwl a lles.
Rydyn ni’n byw mewn cyfnod fwyfwy heriol, a thrwy greu gofod positif i archwilio a chymryd camau gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd, rydyn ni’n bwriadu adeiladu gwydnwch o fewn y system fwyd ehangach, ac ymhlith yr unigolion rydyn ni’n rhyngweithio â nhw, yn enwedig ein gwirfoddolwyr.
CYSYLLTWCH
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithredu ar yr hinsawdd ac ymuno â thîm brwdfrydig o wirfoddolwyr, llenwch ffurflen gais gwirfoddoli ar ein gwefan neu casglwch un o’r Hwb Rhannu Bwyd ECO.
Cyfryngau cymdeithasol: @aberfoodsurplus
E-bost: afscommunityhub@gmail.com
Gwefan: www.aberfoodsurplus.co.uk (Saesneg yn unig)
Cyfeiriad yr Hwb ECO: 15 Y Ffynnon Haearn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1EJ
YNGLŶN Â BUDDSODDI MEWN GWIRFODDOLWYR
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y safon ar dudalen IiV CGGC. Bydd y safon yn gwella’r ffordd y rheolir gwirfoddolwyr ac mae’n drylwyr, ond mae wedi’i dylunio i fod yn syml i’w rhoi ar waith heb gynhyrchu llwyth o waith papur.