gwirfoddolwyr

Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr – safbwyntiau asesydd

Cyhoeddwyd: 18/11/21 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Bob Hughes

Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) yw safon ansawdd y DU ar gyfer gwirfoddoli. Dyma beth sydd gan Bob Hughes, y prif asesydd IiV yng Nghymru, i ddweud wrthym am ddewis dod yn Asesydd IiV.

Er fy mod wedi ymddeol o weithio mewn mudiad annibynnol bum mlynedd yn ôl – ac yn arbenigwr mewn datblygu arweinyddiaeth, roedd y rhan fwyaf o’m hamser a’m contractau yn ystod y 18 mlynedd ddiwethaf yn ymwneud ag asesu anghenion datblygu mudiadau – Buddsoddwyr mewn Pobl, Safonau Ansawdd Hyfforddiant a Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr.

Rwyf wedi dewis ymddeol o’r holl waith asesu, heblaw am Fuddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, ac mae’r rheswm am gadw’r cyfleoedd hyn yn syml – hwn oedd (ac sydd o hyd, yn fy marn i) y safon sydd wedi fy ngalluogi i fynd ati’n haws i hyrwyddo ‘gwelliant parhaus’ fel y prif reswm dros ddymuno cael asesiad (ac adolygiadau dilynol).

Rwy’n credu mai’r rheswm dros hyn yw’r ffaith bod yr angen i gynnig amrediad eang o ofal dibynadwy, o safon uchel – cymorth, i unigolion a chymunedau lleol yn benodol, wedi bod yn cynyddu’n raddol ers nifer o flynyddoedd – wrth i’r cyllid sydd ar gael gan y llywodraeth ac Ewrop, ynghyd â’r cyllid gan Awdurdodau Lleol, leihau yn raddol.

O ganlyniad, mae’r mudiadau rwyf wedi bod yn eu cynorthwyo wedi bod yn chwilio am ffordd o’u galluogi i nodi, recriwtio, datblygu a chadw gwirfoddolwyr sy’n awyddus i wneud eu cyfraniad eu hunain at gymdeithas, ac yn aml, sydd eisiau dychwelyd y cymorth y maen nhw wedi’u derbyn gan fudiadau’r trydydd sector yn y gorffennol.

GWEITHIO AR Y SAFON IIV NEWYDD YN YSTOD Y PANDEMIG

Wrth gwrs, mae’r pandemig a’r cyfyngiadau a osodwyd wedi rhwystro gweithgareddau gwirfoddoli (er fy mod yn dechrau gweld pethau’n dychwelyd i normal newydd yn raddol). Yn y cyfamser, ac wrth gyflwyno rhai Gweithdai Zoom ar safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr 2021 (Saesneg yn unig), mae’n falch gennyf ddweud bod y rhesymau a nodwyd gan y mudiadau rwy’n gweithio gyda nhw’n parhau i fod yn debyg iawn:

‘Mae angen i ni roi mwy o ystyriaeth i recriwtio pobl â’r ymrwymiad i’n helpu ni i gyflwyno mwy o ofal i fwy o bobl. Ac i ofalu amdanyn nhw’n well!’

Mae hanner y mudiadau rwyf yn gweithio gyda nhw hefyd yn ceisio recriwtio gwirfoddolwyr sy’n gallu bod yn hyblyg (gyda hyfforddiant priodol, yn amlwg) i gyflwyno amrediad fwyfwy eang o wasanaethau, o fewn a rhwng, mudiadau gwirfoddol.

Yn wir, i’r fath raddau fel na fyddai’n fy rhyfeddu pe byddem ni’n gweld gwirfoddolwyr yn cael eu trosglwyddo’n amlach o fewn, neu hyd yn oed rhwng, mudiadau. Os felly, byddai hyn siŵr o fod yn galluogi gwirfoddoli i fod yn ffynhonnell fwyfwy bwysig i ddysgu sgiliau newydd, hunanddatblygiad personol a llwybrau i gyfleoedd newydd.

Rwyf ond yn gobeithio, os mai hyn fydd yr achos, y bydd mudiadau yn gallu ystyried cydlynu a hwyluso er budd y trydydd sector, a chymunedau lleol …

DOD O HYD I GYFLYMDER DA

Mae mudiadau newydd – sy’n newydd i safon 2021 – yn gysurus iawn, yn ôl pob golwg, i symud ymlaen i’r cam nesaf o hunanasesu ar ôl y gweithdy rhagarweiniol. Rwy’n gwbl argyhoeddedig fod ad-drefnu a symleiddio’r Meysydd Ansawdd, ac eglurder y geiriad drwyddi draw, yn cael eu gweld gan ‘fy’ mudiadau cleient (a oedd eisiau adolygiad yn erbyn yr hen safon) fel camau ymlaen yn eu hunain. Ymddengys bod yr holl rai a drosglwyddodd i safon 2021 o’r un farn.

Yn amlwg, nid wyf yn gallu rhoi gwybodaeth wrthrychol eto am ‘yr hyn sy’n digwydd y tu allan’ – ond mor ddiweddar â ddoe, fe dderbyniais newyddion da fod ‘fy mudiad cyntaf’ (ar ôl COVID) newydd gwblhau’r Hunanasesiad ac mewn sefyllfa nawr i’w gyflwyno i’w bwrdd am gymeradwyaeth. Yn y cyfamser, mae gweithgareddau gwirfoddoli’n ailddechrau, ond yn araf iawn.

Rwy’n credu bod safon 2021, o ran ei hiaith fwy cyfeillgar i ddarllenwyr a’i phroses symlach, yn wych; trueni bod y pandemig yn parhau i arafu cynnydd cyflymach.

RHAGOR AM IIV

I gael rhagor o wybodaeth am safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) a sut y gallai fod o fudd i chi, ewch i’n tudalen IiV. I gael rhagor o wybodaeth am IiV, gallwch hefyd fynd i investinginvolunteers.co.uk (Saesneg yn unig), a beth am siarad â’ch cyllidwr am gymorth â ffioedd ac amser cyn i chi ddechrau ar eich taith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr.