Mae’r tîm Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn cymryd munud i rannu stori ymrwymiad parhaus Canolfan Wirfoddoli Sir y Fflint i ragoriaeth mewn gwirfoddoli.
Ychydig o fisoedd ar ôl lansio’r safonau Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr newydd, rydyn ni’n achub ar y cyfle y mae Wythnos Gwirfoddolwyr wedi’i gynnig i ddweud diolch yn fawr wrth wirfoddolwyr yng Nghymru!
Pa ffordd well o wneud hynny na dathlu un o lwyddiannau diweddar ein cyflawnwr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr presennol.
Darllenwch am brofiad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr Canolfan Wirfoddoli Sir y Fflint.
Gwobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yw safon ansawdd y Deyrnas Unedig ar gyfer arfer da ym maes rheoli gwirfoddolwyr. Bob tair blynedd, mae Aseswyr yn ail-ymweld â chyflawnwyr y marc ansawdd i sicrhau eu bod yn cadw at y safonau uchel hyn.
Mae Canolfan Wirfoddoli Sir y Fflint yn dathlu cadw eu statws, a parhau i sicrhau safonau uchel ac arfer da ym maes rheoli gwirfoddolwyr gan sicrhau bod gwirfoddolwyr yn gwybod eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Meddai Claire Worrall, Swyddog Datblygu Gwirfoddolwyr:
‘Yn ogystal â chefnogi pobl leol i fanteisio ar y cyfleoedd gwirfoddoli a hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli lleol a chenedlaethol trwy wefan Gwirfoddoli Cymru, mae’r ganolfan yn rhoi gwybodaeth a chyngor ar bob agwedd o wirfoddoli i’r nifer fawr o grwpiau a mudiadau elusen, gwirfoddol a chymunedol ar draws Sir y Fflint. Mae’r marc ansawdd yn cadarnhau ein bod ni’n ffynhonnell gymorth awdurdodol, gredadwy, a dibynadwy.’
Y Daith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr
Mae’n rhaid i ddeiliaid y marc ansawdd ddarparu tystiolaeth i fodloni 6 dangosydd allweddol arfer da sy’n cynnwys pob agwedd o gynnwys gwirfoddolwyr. Mae taith y gwirfoddolwr yn dechrau o’r amser y bydd gwirfoddolwr yn cysylltu â’r ganolfan wirfoddoli i gynnig eu cymorth hyd at baru a chysylltu’r gwirfoddoli â chyfle neu fudiad a’r holl ffordd nes i’r gwirfoddolwr adael y mudiad os a phryd y bydd hynny’n digwydd.
I gyflawni safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, mae’n rhaid i’r mudiad fodloni safonau o ran:
- Gweledigaeth ar gyfer gwirfoddoli
- Cynllunio ar gyfer gwirfoddolwyr
- Cynnwys gwirfoddolwyr
- Recriwtio a chroesawu gwirfoddolwyr
- Cefnogi gwirfoddolwyr
- Gwerthfawrogi a datblygu gwirfoddolwyr
Rhan fawr o’r daith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yw dangos eich gwerthfawrogiad i wirfoddolwyr gan ddathlu’r buddugoliaethau bach a mawr, a dweud diolch yn fawr wrthyn nhw ym mhob ffordd bosibl. Mae gwerthfawrogi eich gwirfoddolwyr yn un o’r rolau pwysicaf y gall eich mudiad ei chwarae felly sicrhewch eich bod chi’n dathlu Wythnos Gwirfoddolwyr a mynegi eich gwerthfawrogiad yn eich ffordd eich hun.
‘Mae gwirfoddolwyr yn ychwanegu cymaint o werth at ein mudiad’
Mae Canolfan Wirfoddoli Sir y Fflint yn falch o gynnig ei Rhaglen Gwirfoddoli â Chymorth sy’n helpu unigolion o 14 oed a hŷn i baratoi ar gyfer eu taith wirfoddoli gan gynyddu eu sgiliau cyfathrebu, rhoi hwb i lefelau eu hyder a gwella eu lles a’u hiechyd.
Meddai Debbie Long, Uwch Swyddog Datblygu Gwirfoddolwyr,
‘Mae gwirfoddolwyr yn ychwanegu cymaint o werth at ein mudiad. Mae effaith gwirfoddolwyr yn cefnogi’r Ganolfan Wirfoddoli a’n prosiectau wedi cryfhau ein cefnogaeth i’r gymuned ehangach. Mae cadw’r marc ansawdd hwn yn cydnabod ein hymdrechion i ddeall, i gyflenwi, ac i gefnogi’r nodau a’r dyheadau y mae ein gwirfoddolwyr yn dymuno eu cyflawni trwy wirfoddoli.’
Mae Canolfan Wirfoddoli Sir y Fflint yn rhan o Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint (FLVC) sy’n hyrwyddo gweithredu gwirfoddol a chymunedol. Meddai Prif Swyddog FLVC, Ann Woods,
‘Mae’r ganolfan yn ymgorffori popeth y mae Gwobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn ei hyrwyddo. Diolch i’n cydweithwyr yn y Ganolfan Wirfoddoli am eu gwaith caled ac i bob aelod o’n staff ehangach a’n Bwrdd Ymddiriedolwyr am eu hymrwymiad i gydnabod a gwerthfawrogi gwirfoddolwyr.’
I wirfoddoli gyda Chanolfan Wirfoddoli Sir y Fflint, e-bostiwch volunteers@flvc.org.uk neu ffoniwch 01352 744000 i ddysgu mwy.
Os ydych chi’n gyfrifol am wirfoddolwyr mewn mudiad yn ardal Sir y Fflint a hoffech chi dderbyn cyngor ac arweiniad a dysgu a rhannu arfer gorau fel rhan o Rwydwaith Trefnwyr Gwirfoddolwyr, byddai’r Ganolfan yn dwlu ar glywed gennych chi.
Rhagor o wybodaeth
Mae’r safonau Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr bellach wedi’u hadolygu a’u hadnewyddu a lansiwyd y safonau newydd ar 24ain Mawrth 2021 yn ystod digwyddiad a gynhaliwyd ar draws y Deyrnas Unedig. Os hoffech chi ddysgu mwy am y wobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr gan gynnwys y broses, y costau, a’r buddion sydd ynghlwm â bod yn gyflawnwr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, gallwch chi:
- lawrlwytho’r safonau yma am ddim a’u defnyddio fel rhestr wirio ar gyfer eich mudiad
- rhoi cynnig ar yr holiadur Hanfodion Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yma am ddim
- mynd i wefan CGGC yma
- mynd i wefan y Deyrnas Unedig yma
- dilyn @VolWales a #BuddsoddiMewnGwirfoddolwyr ar Twitter i dderbyn diweddariadau a rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr sydd ar y gorwel
- dilyn @CGGCCymru ar Twitter
- tanysgrifio i gylchlythyr am ddim CGGC yma
Os oes gennych chi gwestiynau, syniadau, neu adborth – cysylltwch â ni iiv@wcva.cymru. Edrychwn ymlaen atoch chi’n ymuno â ni ar gyfer y daith hon.
Byddwn ni’n hapus i glywed gennych chi.
Cyfrifon y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint:
@FLVCFlintshire – Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint
@FLVCVolCentre – Y Ganolfan Wirfoddoli
@FlintshireVolunteerCentre – Y Ganolfan Wirfoddoli
@flvcpage – Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint