Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) yw safon ansawdd y DU am wirfoddoli. Mae Perminder Dhillon yn Ymgynghorwr Hyfforddi ac yn Hyfforddwr, yn ogystal â bod yn aseswr ar gyfer yr IiV, ac yma, mae hi’n dweud ei phrofiadau wrthym ni.
ARLOESEDD A’R DYFARNIAD IIV
Mae mudiadau’n arloesol, yn enwedig wrth weithio gyda gwirfoddolwyr. Dyna beth a wnaeth yr argraff fwyaf arnaf pan oeddwn i’n datblygu rhaglenni gwirfoddoli cynhwysol cenedlaethol a lleol ar gyfer y sector gwirfoddol, a dyna beth sy’n gwneud argraff arnaf nawr fel asesydd IiV.
Yn fy marn i, mae proses y Dyfarniad IiV yn galluogi’r arloesedd hon i barhau. Mae’n rhoi cyfle gwych i fudiadau arddangos yr hyn y maen nhw’n ei wneud yn dda ym maes gwirfoddoli ac, yn bwysicach na hynny, i ganolbwyntio ar sut y gallan nhw barhau i ddatblygu arferion gorau.
Mae’r amserlen fanwl a hwylusir yn caniatáu i fudiadau bwyso a mesur a blaengynllunio. Mae hyn yn bwysicach fyth heddiw wrth i bob un ohonom ni gyfarwyddo â’r ‘normal’ newydd ar ôl yr heriau a wynebwyd gan bandemig Covid-19. Fy rôl i fel asesydd yw ysgogi ac annog mudiadau drwy’r broses hon a’u cynorthwyo i fod yn barod ar gyfer eu hasesiad ar gyfer y dyfarniad. Mae sgyrsiau gwerthusol a chyfeirio at adnoddau allanol yn agwedd bwysig ar hyn, ynghyd â sgyrsiau trylwyr ynghylch gwirfoddoli cynhwysol.
Rwy’n gweithio gyda nifer o fudiadau, ac i rai, hon yw eu taith IiV gyntaf. Mae eraill yn adnewyddu eu Dyfarniad IiV, ond mae’r holl fudiadau’n frwdfrydig ac yn awyddus i ddysgu a rhannu eu profiadau, fel y mae’r sylwadau isod yn dangos.
‘CIRCUS ERUPTION’
‘Mae’r daith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr wedi bod yn brofiad eithriadol o wobrwyol i ni yn ‘Circus Eruption’. Mae wedi rhoi’r cyfle a’r fframwaith i ni ddwyn ynghyd yr ymddiriedolwyr, y staff a’r gwirfoddolwyr i drafod sut i wella ein cynnig gwirfoddoli. Yn ogystal â hyn, rydyn ni wedi cael cymorth asesydd rhagorol sydd wedi rhoi’r arweiniad a’r offer i ni i’n helpu ni i wireddu ein syniadau.’
Mathew Belcher – Cydlynydd Gwirfoddolwyr
‘Circus Eruption’
Elusen Ieuenctid Integredig am ddim yn Abertawe, De Cymru
I gael gwybodaeth am Swyddi gyda ‘Circus Eruption’, cliciwch yma! (Saesneg yn unig)
‘THE WILDERNESS TRUST’
‘Mae cymryd rhan ym mhroses achredu’r IiV wedi helpu ein mudiad i ystyried ffyrdd o weithio gyda gwirfoddolwyr na fydden ni wedi’u hystyried pe na fydden ni wedi cymryd rhan yn yr asesiadau. Mae wedi ein helpu i gategoreiddio gwirfoddolwyr a datblygu eu diddordebau a’u sgiliau.’
Joe Arrowsmith
Hwylusydd Cymunedol
Mae ‘The Wilderness Trust’ yn rhedeg pedwar prosiect ar hyn o bryd. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma (Saesneg yn unig).
MIND DYFFRYN CLWYD
‘Rwy’n gweithio i Mind Dyffryn Clwyd fel Swyddog Datblygu Busnesau. Mae rhan o’m rôl i’n cynnwys Asesiadau Ansawdd a fi yw Cydlynydd Gwirfoddolwyr Dros Dro’r mudiad.
Hwn yw fy nhrydydd asesiad gydag IiV, ond roedd y mudiad wedi’i achredu cyn i fi ymddangos!
Trwy ein taith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, mae llawer o newidiadau wedi’u gwneud i’r broses – ond mae pob un ohonyn nhw wedi ein helpu i dyfu a gwella o ran sut rydyn ni’n cynorthwyo ein gwirfoddolwyr.
Mae ein mudiad yn bodoli i gynorthwyo pobl â phroblemau iechyd meddwl, ac rydyn ni’n gwneud hynny drwy gynorthwyo pobl â phroblemau parhaus (gydol oes) yn ogystal â chyflwyno prosiectau i helpu’r rheini â phroblemau iechyd meddwl isel/canolig i ddod yn ôl at eu coed drwy gefnogi eu lles meddyliol.
Heb os, ni fydden ni’n gallu cyflawni’r hyn rydyn ni’n ei wneud heb gymorth ein gwirfoddolwyr – felly rydyn ni’n ceisio gofalu amdanyn nhw!
Mae pob achrediad IIV wedi ein helpu i ailfeddwl a gwella ein prosesau, er enghraifft:
Cyflwyno digwyddiad Caffi’r Byd Blynyddol fel y gall pawb (gan gynnwys gwirfoddolwyr) feddwl am syniadau ac awgrymiadau ar sut gall y mudiad symud ymlaen y flwyddyn ddilynol. Mae dadansoddi’r hyn y mae pobl yn ei ddweud yn ein helpu ni i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i bawb – a sut i’w gyflawni. Mae’r safbwyntiau hynny wedi’u cynnwys yn strategaeth ein mudiad ac yn y cynllun gweithredol yr ydyn ni’n ei ddilyn drwy gydol y flwyddyn. Yna, rydyn ni’n dweud wrth bawb am yr hyn rydyn ni wedi’i wneud drwy ein dogfen a gaiff ei diweddaru’n rheolaidd – ‘You said – We’re working on it –We did!’ (Saesneg yn unig)
Ers ein hasesiad ddiwethaf, rydyn ni wedi cyflwyno Fforwm Gwirfoddolwyr chwarterol – ac rydyn ni’n cael rhai safbwyntiau anodd yn ogystal â syniadau da yr ydyn ni’n eu rhoi ar waith.
Mae ein gwirfoddolwyr yn ein helpu ni i gynnig grwpiau cerdded, prosiectau rhandir, grwpiau cerddoriaeth, sesiynau galw heibio, gweithgareddau crefft, cyrsiau ‘My Generation’ a mwy – a hebddyn nhw, ni fyddai’n bosibl cyrraedd cymaint o bobl.
Rydyn ni wedi llunio prosiect arloesol yn ddiweddar, gyda chymorth Cronfa Gwydnwch y Co-op, i gyflwyno prosiect Presgripsiynu Cymdeithasol ar ein cerbyd DORIS (Gwasanaeth Gwybodaeth Allgymorth Gwledig Sir Ddinbych). Mae DORIS yn teithio i holl ardaloedd cefn gwlad Sir Ddinbych ac yn cynnwys meddygon teulu ac amrywiaeth eang o bartneriaid er mwyn helpu pobl i gael bywydau hapusach.
Mae ein gwirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith gyda ‘Doris ar Daith’ bob wythnos, yn helpu i drawsnewid bywydau pobl – nhw yw ein ‘clust i wrando’ wrth i staff ddarparu gwasanaethau mawr eu hangen.
Ni allem ni ofyn am fwy na hynny!’
Chris Southern
Swyddog Datblygu Busnesau
Mae Mind Dyffryn Clwyd yn wasanaeth ledled y sir sydd wedi’i ddylunio ar gyfer, ac yn cael ei ddarparu’n aml, gan bobl â phrofiad byw o broblemau iechyd meddwl.
Darllenwch fwy
MWY AM IIV
I gael rhagor o wybodaeth am y dyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, ewch i https://investinginvolunteers.co.uk/ (Saesneg yn unig)