Mae grŵp o bobl yn ymuno â'i ddwylo mewn cylch

Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr – blwyddyn yn ddiweddarach

Cyhoeddwyd: 22/03/22 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Korina Tsioni

Mae’r tîm Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) yng Nghymru a gweddill y DU yn dathlu blwyddyn gyfan ers lansio’r dyfarniad newydd ar-lein. Cawn glywed yr holl hanes gan Korina Tsioni, Rheolwr IiV Cymru.

BETH YW IiV

Mae’r Dyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn safon ansawdd sy’n fuddiol i unrhyw fudiad sy’n cynnwys gwirfoddolwyr. Os ydych chi’n gweithio mewn mudiad sy’n cynnwys gwirfoddolwyr, yna byddai Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr o fudd i chi a’ch mudiad.

Mae IiV yn ddyfarniad ledled y DU, sy’n cael ei redeg gan y Grŵp Gweithrediadau yng Nghymru, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr. Mae’n cryfhau eich prosesau yn fewnol ac yn allanol, gan edrych ar yr holl daith rydych chi’n ei chynnig i’ch gwirfoddolwyr ac yn rhoi’r offer a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i wella eich arferion.

Fel proses, mae gan y safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr chwe cham syml.

  1. Dechrau – Cofrestrwch ar-lein a dod i’r gweithdy rhagarweiniol
  2. Hunanasesiad – gweithiwch gyda’ch tîm i nodi’r hyn rydych chi’n ei wneud yn dda a’r hyn sydd angen i chi ei wella yn ôl y 6 dangosydd y gallwch chi eu gweld yn y safon
  3. Cynllun gwella – lluniwch gynllun gyda’ch asesydd ar sut i wella, cwblhewch gamau gweithredu’r cynllun
  4. Asesiad – byddwch chi’n cwrdd â’ch Asesydd a fydd yn gwirio eich cynnydd
  5. Ennill y Dyfarniad – byddwch chi’n cael adroddiad adborth gan eich Asesydd ac, ar ôl i’r Asesydd Arweiniol roi cymeradwyaeth eich bod wedi bodloni safonau’r dyfarniad, byddwch chi’n ennill y dyfarniad
  6. Gwella ac adnewyddu parhaus – dair blynedd ar ôl i chi ennill y dyfarniad, bydd angen i chi adnewyddu eich dyfarniad. Yn y cyfamser, daliwch ati i weithio ar eich arferion

MAE IiV YN WAITH TÎM, I NI AC I CHI

Mae blwyddyn gyfan wedi mynd heibio ers i ni lansio’r safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr newydd wedi’i diweddaru. Mae fy nghydweithiwr, Nicola Nicholls, a finnau wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni yn cyflwyno’r safon newydd yng Nghymru. Rydyn ni wedi cael 49 o gofrestriadau ers mis Ebrill diwethaf, pum gwaith yn fwy na’r flwyddyn gynt ar gyfartaledd. Gwnaeth hyn olygu llawer mwy o waith, gyda thîm mewnol llai nag erioed o’r blaen.

Ni fydden ni wedi gallu cyflawni’r prosiect hwn heb gyfraniadau gwych ein cronfa o Aseswyr ac Aseswyr Arweiniol. Rydyn ni’n dibynnu’n llwyr ar y gwaith y mae ein partneriaid allanol yn eu cyflawni wrth gynrychioli CGGC. Mae gennym ni grŵp o bartneriaid allanol, sydd newydd eu recriwtio a’u hyfforddi fel Aseswyr IiV, ynghyd â rhai Aseswyr ac Aseswyr Arweiniol IiV mwy profiadol sy’n gweithio’n wych gyda’i gilydd, ac rydyn ni mor ddiolchgar am y sgiliau unigryw, y syniadau a’r proffesiynoldeb y mae pob un ohonyn nhw’n eu cyflwyno’n unigol i’r tîm IiV yng Nghymru.

Yn y flwyddyn a ddaeth heibio, cawson ni hefyd gyfle i weithio’n agosach gyda gweddill y Grŵp Gweithrediadau a chyd-gyflwyno’r prosiect hwn yn gyson ledled y DU. Mae cydweithwyr gwych o Ogledd Iwerddon a’r Alban wedi bod yn cwrdd â mi’n rheolaidd i drafod astudiaethau achos ac rydyn ni wedi wynebu heriau a gweithio trwy’r mân broblemau fel tîm er mwyn sicrhau cysondeb a phroses lyfn i brosiectau newydd ledled yr holl genhedloedd.

Sandra Adair, Rheolwr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr Lloeger:  

‘Wel am flwyddyn ers i ni lansio’r safon newydd! Wedi mwynhau gweithio gyda chymaint o fudiadau newydd yn fawr iawn wrth iddyn nhw ddechrau ar eu teithiau IiV. Gwnaeth ein timau o Aseswyr ac Aseswyr Arweiniol groesawu’r safon newydd yn llwyr ac addasu i’r systemau a’r prosesau newydd, a gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith ar-lein dan gysgod Covid!’

Katy Penman, Rheolwr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr o’r Alban:

‘Ar ôl llawer iawn o gydweithio ar draws y sector i ddatblygu a lansio’r safon newydd, rydyn ni wedi gweld yr un faint o ymrwymiad a gwaith caled gan bawb a oedd yn ymwneud â’r IiV ledled y DU yn y flwyddyn ers iddi gael ei lansio. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi ennill ac wedi bod yn gweithio tuag at ennill yr IiV yn ystod y cyfnod hwn a diolch i’r mudiadau sydd wedi croesawu’r newidiadau ac wedi teithio gyda ni ar y daith drawsnewidiol hon!’

Mae Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn safon sy’n cyfeirio at dimau hefyd. Mae’r broses yn cymryd 13 mis a bydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm cryfach o fewn eich mudiad, wrth i gydweithwyr, gwirfoddolwyr ac Ymddiriedolwyr weithio’n agos i fodloni’r safon.

Rhaid syniadau da sydd wedi dod i law gan gyflawnwyr blaenorol yw rhannu’r gwaith ymhlith cydweithwyr eich mudiad, parhau i ymdrechu a chynnwys IiV yn eich cyfarfodydd a chynlluniau wythnosol, gweithio’n gyson arno a’i gadw ar eich agenda dros y 13 mis.

Bydd nodi cydweithwyr, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr â sgiliau, profiad a gwybodaeth benodol sy’n berthnasol i’r safon yn eich helpu i ddyrannu dangosyddion gwahanol yn briodol i’r unigolyn cywir. Bydd dathlu eich gwirfoddolwyr a’u cynnwys yn y broses yn addysgu pawb dan sylw gryn dipyn a bydd yn amlygu meysydd sydd angen eu gwella.

Mae ennill y dyfarniad yn llwyddiant cyfunol, a dylid ei ddathlu a’i rannu felly!

BETH NESAF

  1. Siaradwch â’ch cyllidwr

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ennill y safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, dylech chi siarad â’ch cyllidwr a gofyn, os yn bosibl, am gymorth ariannol tuag at ffioedd ac amser IiV. Mae llawer o grantiau sy’n cefnogi costau IiV, gan gynnwys Grant Gwirfoddoli Cymru, Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru a grantiau Goroesi a Ffynnu Cronfa Gwydnwch y Trydydd Sector.

  1. Siaradwch â’ch tîm

Fel y nodwyd uchod, y ffordd orau o ennill Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yw gweithio’n agos gyda’ch tîm a defnyddio’r holl gapasiti ac adnoddau. Byddwch chi’n dysgu llawer dim ond drwy’r ymarferiad hwn! Siaradwch â’ch cydweithwyr, siaradwch â’ch gwirfoddolwyr a’ch ymddiriedolwyr a lluniwch gynllun gyda’ch gilydd. Ewch ati i benderfynu pam a sut rydych chi’n mynd i fynd i’r afael â hwn fel tîm, a dechreuwch sylwi ar bethau rydych chi’n ei wneud a allai fod yn dystiolaeth o’ch gwaith rhagorol!

  1. Byddwch yn onest

Yr unig ffordd y bydd y broses hon yn gweithio i chi ac yn cyflwyno’r canlyniadau mwyaf buddiol i chi yw drwy fod yn onest gyda’ch hun. Nodwch beth sy’n gweithio’n dda, a dathlwch hynny, ond mae’r un mor bwysig i nodi unrhyw fylchau a cheisio dod o hyd i ffyrdd i’w cau. Bydd y broses hon yn eich helpu llawer wrth ysgrifennu ceisiadau, gweithio gyda chydweithwyr a derbyn beirniadaeth adeiladol ac yn eich helpu i sylwi ar bethau y gallech fod wedi bod yn eu cymryd yn ganiataol neu’n osgoi eu gwneud!

MWY AM IiV

I gael rhagor o wybodaeth am IiV darllenwch yma https://investinginvolunteers.co.uk/ (Saesneg yn unig) ac yma https://wcva.cymru/cy/buddsoddimewngwirfoddolwyr/

Ymunwch â ni ar y daith IiV a gwneud y mwyaf o’ch amser gyda’n tîm IiV gwych yng Nghymru!