Yma, mae Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Lles CGGC, Samantha Carpenter, yn edrych ar y cynnig gofal iechyd newydd i staff CGGC ac yn dweud wrthym ni pam mae profion sgrinio mor bwysig i bawb.
Mae CGGC yn cefnogi Hapus, ymgyrch sy’n hyrwyddo camau positif sy’n ymwneud â lles meddyliol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ymgyrch Hapus a sut mae CGGC yn ei chefnogi, ond rydym yn falch o gyhoeddi heddiw menter newydd sbon sy’n Gysylltiedig â’n cefnogaeth dros ymgyrch Hapus.
PROFION SGRINIO IECHYD
O nawr ymlaen, bydd CGGC yn cynnig amser o’r gwaith â thâl i staff am fynd i brofion sgrinio iechyd iddyn nhw neu eu plant. Mae’r profion sgrinio hyn yn cynnwys:
- Sgrinio am Anewrysm Aortig yn yr Abdomen (AAA)
- Sgrinio Cyn Geni Cymru
- Sgrinio Coluddion Cymru
- Bron Brawf Cymru
- Sgrinio Serfigol Cymru
- Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru
- Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru
- Sgrinio Clyw Babanod Cymru
Ac yn 2027, unwaith y bydd y rhaglen wedi’i rhoi ar waith, bydd Sgrinio ar gyfer Canser yr Ysgyfaint yn cael ei gynnwys hefyd.
GALL PROFION SGRINIO ACHUB BYWYDAU
Gall canfod clefydau mewn profion sgrinio achub bywydau. Ond eto i gyd, yn ôl GIG Cymru, mae rhai pobl yn gwrthod neu’n oedi mynd i apwyntiadau sgrinio am na allant gael amser o’r gwaith neu am na allant fforddio amser o’r gwaith heb dâl. Trwy gynnig y budd hwn yn ffurfiol, gall CGGC helpu i gael gwared â’r rhwystr hwnnw, hyrwyddo mynediad cyfartal a dangos ymrwymiad cryf i lesiant ein staff.
Nid yw gwneud hyn yn costio unrhyw beth penodol i CGGC y tu hwnt i gynnig amser â thâl i fynychu a theithio a gallai gael effaith bositif sylweddol ar ganlyniadau iechyd – yn enwedig i staff mewn rolau â chyflogau is lle na all fod mor ymarferol i gymryd amser o’r gwaith heb dâl.
Mae’r cynnig hwn hefyd yn gwneud mynediad i ofal iechyd ataliol yn fwy cyfartal i’r holl staff. Yn benodol, mae’n cefnogi’r rheini o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is neu’r rheini ar raddau cyflog is, lle gallai cymryd amser o’r gwaith heb dâl neu ddefnyddio gwyliau blynyddol fod yn rhwystr i fynd i brofion sgrinio’r GIG.
GWEITHLU IACHACH
I CGGC, mae hwn hefyd yn ymwneud ag adeiladu gweithlu iachach mwy ymrwymedig. Pan mae pobl yn cael cefnogaeth i ofalu am eu hiechyd, mae pawb ar eu hennill – cydweithwyr, timau a’r mudiad ehangach.
Yn y pen draw, mae hwn yn ymwneud â rhoi’r amser a’r cyfle i’n staff ofalu am eu hiechyd a’u teuluoedd. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
RHAGOR O WYBODAETH
I gael rhagor o wybodaeth am Hapus, ewch i’w gwefan, ac i ddarllen mwy am gysylltiad CGGC â menter Hapus, ewch i’n blog diweddar.
Darllenwch fwy am waith ehangach CGGC ar iechyd a gofal yng Nghymru.