Mae Elen Notley, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu CGGC, yn amlinellu sut gall mudiadau gwirfoddol gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r brechlyn COVID-19 yng Nghymru drwy helpu gyda’r cyfathrebu.
(Wedi’i diweddaru ar 9 Chwefror 2021)
Mae’r rhaglen brechu rhag COVID-19 wedi dechrau yma yng Nghymru erbyn hyn, ac mae CGGC a Chynghorau Gwirfoddol Sirol yn parhau i weithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd lleol i gefnogi’r sector gwirfoddol yn ystod y broses hon.
Mae’r sector gwirfoddol yma yng Nghymru wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod y flwyddyn ddiwethaf drwy gefnogi ein cymunedau yn ystod y pandemig. Mae llu o wirfoddolwyr a mudiadau wedi camu i mewn i gefnogi’r rheini sydd mewn angen ac i helpu i ysgafnhau’r pwysau ar y GIG. Wrth i ni symud ymlaen gyda’r brechiadau, mae’r sector gwirfoddol wedi camu ymlaen unwaith eto i gefnogi ein cymunedau.
Y SEFYLLFA AR HYN O BRYD
Mae’r rhaglen brechu yn erbyn COVID-19 yn mynd rhagddi’n dda yng Nghymru. Mae dau frechlyn wedi cael eu cymeradwyo ac yn cael eu defnyddio – Pfizer ac AstraZeneca. Mae rhagor o frechlynnau ar fin cael eu cymeradwyo ac yn debygol o ddod yn rhan o’r rhaglen brechu o wanwyn 2021 ymlaen.
Mae’r brechlynnau’n cael eu rhoi i bobl yn nhrefn rhestrau blaenoriaeth y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI).
Nod Llywodraeth Cymru yw cynnig y dos gyntaf o’r brechlyn i bawb sy’n perthyn i grwpiau blaenoriaeth 1 i 4 erbyn canol mis Chwefror. Mae hyn yn cynnwys y rheini sy’n byw mewn cartrefi gofal a gofalwyr; gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; y rheini sydd dros 70 oed a’r rheini sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol.
Mae’r seilwaith i gefnogi’r rhaglen wedi cael ei adeiladu mewn dim o dro, gan gynnwys seilwaith digidol cadarn i drefnu apwyntiadau, cofnodi ac adrodd ar y gweithgareddau brechu.
Mae 34 o ganolfannau brechu mawr nawr ar waith ac mae dros 400 o bractisiau meddygon teulu hefyd wrthi’n brechu. Mae rhagor o ganolfannau brechu mawr hefyd ar fin cael eu hagor hefyd.
PA WYBODAETH SYDD AR GAEL HYD YMA?
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth am y brechlyn ac mae’r wybodaeth honno ar gael drwy ddilyn y ddolen yma: https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/
Gan fod COVID-19 yn straen newydd o’r Coronafeirws, bydd gan nifer o bobl lawer o ymholiadau a phryderon. Mae ychydig o gwestiynau ac atebion defnyddiol ar gael isod: https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ynglyn-ar-brechlyn/
Mae rhai adnoddau cyfathrebu hefyd ar gael nawr i fudiadau eu mabwysiadu a’u rhannu: wales.assetbank-server.com/assetbank-wales/images/assetbox/0892f122-3a5d-45c1-996f-30474b296c41/assetbox.html
Mae Valuing Vaccines hefyd yn ymgyrch ddefnyddiol sy’n rhoi ffeithiau ynghylch sut mae brechlynnau’n gweithio ac yn achub bywydau. Mae’r ddolen isod yn rhoi gwybodaeth ac adnoddau i’w rhannu mewn deunyddiau cyfathrebu: https://www.valuingvaccines.org.uk/
Fel rydyn ni gyd yn ei wybod, mae pandemig COVID-19 yn broblem ym mhedwar ban byd, ac felly wrth i’r rhaglen brechu gyflymu yn y DU mae nifer o gwestiynau ynghylch sut mae sicrhau bod pobl o bob gwlad yn cael eu brechu’n effeithiol. Mae rhywfaint o wybodaeth am hyn ar gael isod: https://www.who.int/initiatives/act-accelerator/covax
Mae diweddariadau rheolaidd ar gael ar gynnydd y brechu yma yng Nghymru drwy ddilyn y ddolen hon: https://llyw.cymru/diweddariad-wythnosol-rhaglen-frechu-covid-19-2-chwefror-2021
BETH ALL MUDIADAU GWIRFODDOL EI WNEUD I GEFNOGI’R CYFATHREBU?
Mae mudiadau gwirfoddol yn lleisiau dibynadwy sy’n gweithio’n agos gyda chymunedau, grwpiau penodol mae angen eu blaenoriaethu i gael y brechlyn a phocedi o’n cymunedau sydd efallai’n anoddach eu cyrraedd, ac yn gallu helpu’r broses drwy rannu gwybodaeth am y rhaglen brechu.
Bydd rhoi gwybod am y broses o dderbyn brechlyn, cwestiynau ac atebion, y ffeithiau am ei effeithiolrwydd a gwybodaeth allweddol arall, yn helpu i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn deall sut mae’r brechlyn yn gweithio a’r broses o’i dderbyn.
Mae mudiadau gwirfoddol hefyd yn gallu cefnogi’r gwaith cyflwyno drwy gyfathrebu’n agored â CGGC a Chynghorau Gwirfoddol Sirol i rannu adborth o lawr gwlad. Bydd llawer o ymholiadau a phryderon gan y cyhoedd ac felly drwy’r rannu’r hyn rydych chi’n ei glywed gan gymunedau ac unigolion â ni, gallwn wedyn sicrhau bod yr wybodaeth hon yn cael ei throsglwyddo i Lywodraeth Cymru ac i Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn parhau i siapio’r rhaglen dros y flwyddyn nesaf.
Mae cyfathrebu eang, effeithiol, cyson a thryloyw ynghylch brechlynnau a sut mae cael gafael arnyn nhw’n hollbwysig.
SUT MAE CYMRYD RHAN?
Bydd CGGC yn cefnogi mudiadau drwy rannu offer cyfathrebu gallwch chi wedyn eu dosbarthu gyda’ch rhwydweithiau a’ch defnyddwyr gwasanaeth. Gallai hyn gynnwys pecynnau ymgyrchu, graffeg cyfryngau cymdeithasol, animeiddiadau, taflenni a chynnwys sydd wedi’u dylunio’n benodol ar gyfer eich cynulleidfaoedd ar sail camau blaenoriaeth cyflwyno’r brechlyn.
Hoffem glywed gennych chi os oes offer cyfathrebu penodol rydych chi’n credu a fyddai o fudd i’ch cynulleidfaoedd a’ch gallu i ymgysylltu â nhw ynghylch y brechlyn, er enghraifft os ydych chi mewn cysylltiad rheolaidd â phobl sydd wedi’u heithrio’n ddigidol neu y mae angen gwybodaeth amlieithog arnyn nhw. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Chynghorau Gwirfoddol Sirol, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu’r offer yma.
Ar 04 Chwefror, fe wnaethom gynnal ail weithdy gyda chyflwyniadau gan Darius Hughes, Cadeirydd Grŵp Brechlynnau ABPI a Phennaeth Pfizer Vaccines UK a Doug Nicholls, Pennaeth Cynllunio Cyfathrebu ar gyfer Iechyd, i roi gwybodaeth i fudiadau am sut cafodd y brechlyn COVID-19 ei ddatblygu a’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch lle mae Cymru wedi cyrraedd gyda’r rhaglen brechu. Byddwn yn cynnal sesiynau tebyg yn rheolaidd er mwyn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf, rhannu syniadau, a chasglu ynghyd unrhyw adborth a gawn, er mwyn rhoi gwybod i’r partïon perthnasol.
Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod cyfathrebu drwy gydol y rhaglen brechu yn ymateb i anghenion gwybodaeth ein cymunedau. I gofrestru bod gennych chi ddiddordeb mewn dod i’r sesiynau hyn, neu i holi am offer cyfathrebu penodol, cysylltwch ag enotley@wcva.cymru
BETH MAE GWIRFODDOLWYR WEDI BOD YN EI WNEUD?
Mae’r diddordeb i gefnogi’r rhaglen brechu gan wirfoddolwyr a gan fudiadau gwirfoddol wedi bod yn ffantastig hyd yma. Mae trefniadau nawr ar waith gydag Ambiwlans Sant Ioan Cymru a’r Groes Goch Brydeinig ac mae sgyrsiau’n cael eu cynnal gyda Marie Curie a Tenovus ar gyfer rhagor o gymorth.
Mae Byrddau Iechyd Lleol yn gweithio gyda Chynghorau Gwirfoddol Sirol i reoli’r broses o gynnwys gwirfoddolwyr gan ddibynnu ar yr angen ym mhob ardal. Maen nhw’n gweithio i wneud hyn mor syml â phosibl ar yr un pryd â sicrhau bod cleifion a gwirfoddolwyr yn cael eu diogelu. Mae sgyrsiau’n parhau ynghylch cynnwys gwirfoddolwyr i gefnogi pob ardal bwrdd iechyd lleol wrth i’r rhaglen barhau i gael ei datblygu.