Mae dau berson yn dal dwylo dros wely ysbyty

Bod yn graig – rôl gwirfoddolwyr mewn gofal diwedd oes

Cyhoeddwyd: 14/06/21 | Categorïau: Awdur: Fiona Liddell

Mae Fiona Liddell, Rheolwr Helplu Cymru, yn amlygu’r angen cynyddol am wirfoddolwyr i gefnogi gofal diwedd oes.

ANGEN NAS DIWALLWYD, CYNYDDOL

Mae’r gofal sydd ei angen arnom ar ddiwedd oes yn llawer mwy na thriniaeth glinigol. Yn hytrach, mae angen dull gofalu holistaidd, sy’n ymdrin â llesiant seicolegol, emosiynol, cymdeithasol, ysbrydol a dirfodol cleifion a’u teuluoedd. Mae gofal lliniarol, sy’n ceisio rhoi’r ansawdd bywyd gorau posibl wrth leihau’r dioddefaint, yn seiliedig ar y dull holistaidd hwn.

Bydd mwy ohonom angen cymorth a gofal o’r fath ar ddiwedd ein hoes, boed hynny mewn ysbyty, hosbis, gartref neu rywle arall yn y gymuned; dengys tueddiadau marwolaeth fod cynnydd mewn marwolaethau o salwch cronig sy’n gysylltiedig ag oedran.

Mae adroddiad gan Hospice UK (Saesneg yn unig) yn 2020 yn amlygu dwy her a nodwyd gan y sector: lefel yr angen nas diwallwyd a denu a recriwtio digon o staff i ateb y galw yn y dyfodol.

Mae hwn yn faes lle gall gwirfoddolwyr wneud gwahaniaeth go iawn. Dyma rai enghreifftiau a fyddai’n fuddiol i ni adeiladu arnynt yn barod ar gyfer yr angen cynyddol.

GWIRFODDOLWYR A GOFAL HOSBIS

Mae gwirfoddolwyr wedi chwarae rhan flaenllaw mewn hosbisau ers iddynt ddechrau. Yn ogystal ag ymgymryd â rolau rheoli a chodi arian, mae gan wirfoddolwyr gysylltiad uniongyrchol â chleientiaid: maen nhw’n treulio amser yn gwrando ar ofidiau a phryderon a’u trafod, yn ymhél â chleifion mewn gweithgareddau creadigol a therapïau cyflenwol neu’n dal llaw rhywun yn ystod oriau olaf eu hoes, gan ddarparu cwnsela, gofal bugeiliol a chefnogaeth ar ôl profedigaeth.

Maen nhw’n rhoi gwybodaeth ac yn casglu adborth gan gleifion a gallant eirioli drostynt, drwy fynegi dymuniadau’r cleifion i weithwyr proffesiynol. Gallant gefnogi ymyriadau clinigol fel ffisiotherapi.

Mae Hosbis Skanda Vale, er enghraifft, yn dibynnu ar oddeutu 50 o wirfoddolwyr i fod yn ‘lle o letygarwch arbennig sy’n cynnig gofal llwyr’.

Fel cynrychiolwyr o’r gymuned leol, mae gwirfoddolwyr hefyd yn darparu sianel gyfathrebu ddwy ffordd, gan ddod ag ymwybyddiaeth o fywyd cymunedol lleol i’r hosbis a chodi ymwybyddiaeth o waith y mudiad o fewn y gymuned ehangach. Fel hyn, gallant gyfrannu at agenda addysg gyhoeddus Cymru Garedig a helpu i gael gwared â’r tabŵs ynghylch marwolaeth a marw.

Gwnaeth adroddiad (Saesneg yn unig) a gyhoeddwyd yn 2012 ar sut bydd gwasanaethau hosbis yn ymdopi â chynnydd sydyn mewn poblogaeth sy’n heneiddio yn ystod y 10-15 mlynedd nesaf alw i wirfoddolwyr gael eu hintegreiddio’n llawn mewn timau clinigol ac i gynnig cymorth mwy uniongyrchol i gleifion a theuluoedd, yn y gymuned yn ogystal â mewn gwasanaethau hosbis.

GWIRFODDOLWYR YN Y GYMUNED

Mae rhai enghreifftiau llwyddiannus o wirfoddoli i gynorthwyo cleifion lliniarol o fewn y gymuned. Gan ystyried y byddai’n well gan y rhan fwyaf o bobl farw gartref, dylai fod mwy o gynlluniau o’r fath ar gael ar hyd a lled Cymru.

Yn Hahav yng Ngheredigion, mae mwy na 40 o wirfoddolwyr wedi’u hyfforddi i roi help ymarferol i gleifion diwedd oes yn eu cartrefi. Mae eraill yn cefnogi’r gwaith o godi arian drwy siop elusen Hahav, neu’n helpu i gynnal gweithgareddau llesiant ar safle newydd (amhreswyl) y mudiad yn Aberystwyth.

Tyfodd Prosiect NOSDA o fenter datblygu cymunedol yn Sir Benfro. Gall gwirfoddolwyr hyfforddedig annog a chefnogi sgyrsiau ynghylch marwolaeth, gan gynnwys o fewn cartrefi gofal sy’n cymryd rhan.

GWIRFODDOLWYR A GOFAL YSBYTY

Mae tri Bwrdd Iechyd yng Nghymru (Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan) yn datblygu gwasanaethau cydymaith gwirfoddol newydd i gefnogi cleifion mewnol ar ddiwedd oes. Oherwydd cyfyngiadau Covid 19, mae dau o’r rhain wedi dechrau fel rhith-wasanaeth, gyda’r gwirfoddolwyr yn eu cartrefi eu hunain. Maen nhw’n gobeithio galluogi cysylltiad wyneb yn wyneb ar y wardiau cyn gynted ag y bydd amgylchiadau’n caniatáu.

Mae’r prosiectau hyn yn rhan o raglen gydweithredol gan Marie Curie a Helplu (Saesneg yn unig), gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a chymorth gan Helplu Cymru.

Bydd yr hyn a ddysgwyd wrth werthuso’r prosiectau hyn yn cael eu cyhoeddi’n ddiweddarach y flwyddyn hon, mae canllaw gwasanaeth gwirfoddoli (Saesneg yn unig) ar gyfer prosiect blaenorol yn Lerpwl eisoes ar gael.

BWYSIG I BAWB

Y neges a gafodd ei hatgyfnerthu drwy ddigwyddiadau yn ystod yr Wythnos Byw Nawr (Saesneg yn unig) oedd y dylai pawb gael mwy o wybodaeth am farwolaeth a marw a magu hyder i siarad am hyn.

Awgrymodd y rheini a gymerodd ran yn ein digwyddiad ein hunain (Helplu Cymru/Cymru Garedig) y dylem ‘achub pob cyfle i fynd i’r afael â materion pwysig ond weithiau anodd, a sbardunir o bosibl gan ffilm, adroddiad newyddion neu gan newidiadau oes fel symud tŷ.

Nodwyd y gall fod yn haws bod yn agored â gwirfoddolwr yn hytrach na gyda theulu a ffrindiau. Ond, mae angen i wirfoddolwyr gael cymorth a hyfforddiant da fel y gallant gynnig y cymorth gorau posibl i eraill a diogelu eu llesiant meddyliol eu hunain, waeth beth gaiff ei ddweud, ei glywed neu ei brofi.

BOD YN GRAIG

Caiff yr anrheg amhrisiadwy y gall gwirfoddolwyr ei rhoi, wrth wrando o ddifrif ar y rheini ar ddiwedd oes, ei mynegi’n hyfryd gan Mandy Preece fel ‘bod yn graig’, fel y mae’n ei ddisgrifio yma mewn fideo hyfforddiant byr (Saesneg yn unig).

YNGLŶN Â HELPLU CYMRU

Mae Helplu Cymru yn gweithio gyda Chefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs)), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gynorthwyo gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Ewch i dudalen we Helplu Cymru, neu i gael diweddariadau trwy e-bost, cofrestrwch yma a dewiswch yr opsiwn ‘gwirfoddoli iechyd a gofal’.