Mae Jo Davies yn rhedeg drwy newidiadau i’r tirwedd iechyd a gofal cymdeithasol ar ôl blwyddyn ar absenoldeb mamolaeth.
Cafodd Jo Davies, Pennaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn CGGC, ei phlentyn cyntaf 12 mis yn ôl. Mae hi’nn esbonio sut mae’r cyfnod pontio yn ôl i waith wedi bod a beth sydd wedi newid yn iechyd a gofal yn ystod y cyfnod hwnnw.
Y 12 MIS GORFFENNOL
Mae rhoi genedigaeth yn anodd, mae bwydo o’r fron yn anodd ac mae colli cwsg yn anodd, ond mae pontio’n ôl i waith ar ôl cyfnod mamolaeth fel camu i fydysawd paralel. Rwy’n teimlo y gallai hi ddechrau glawio toesenni arna i unrhyw eiliad. Ond mewn difrifoldeb, rwy’n falch iawn o fod yn ôl yn y gwaith ac yn edrych ymlaen at ddechrau arni…ond dechrau ar beth?
Ers i mi fod ar gyfnod mamolaeth, mae llawer o bethau yn y byd polisi iechyd a gofal cymdeithasol a oedd yn ddim mwy na ffetws bellach yn fyw ac yn dechrau cicio. Mae Gweithrediaeth GIG Cymru yn dechrau siapio, mae Swyddfa Genedlaethol Gofal Cymdeithasol wrthi’n cael ei datblygu ac mae’r Fframwaith Presgripsiynu Cymdeithasol yn dathlu ei ben-blwydd cyntaf!
Ond, er y gallai fod cynnydd positif mewn rhai meysydd, anhawster ariannol yw’r realiti sy’n wynebu llawer o fudiadau’r sector gwirfoddol. Wrth ddod yn ôl ar ôl blwyddyn i ffwrdd, gallaf deimlo blinder amlwg, a phryder ynghylch y dyfodol, gan lawer o bobl y sector. Diolch byth, mae’r grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy wedi’i ymestyn am flwyddyn arall. Ond mae sgwrs gynnar a pharhaus â Llywodraeth Cymru am beth sy’n digwydd nesaf yn hanfodol i ddiogelu dyfodol mudiadau sy’n cael eu cefnogi gan hwn a ffrydiau cyllido eraill y sector cyhoeddus.
CYNLLUNIAU AR GYFER 2025
Gobeithir y bydd y Prosiect Iechyd a Gofal yn derbyn cyllid i barhau am bum mlynedd arall, felly fel tîm, rydym wedi bod yn myfyrio ar ein Theori Newid a’r Cynllun Cyflenwi cysylltiedig. Mae’r hyn rydyn ni eisiau ei gyflawni yn uchelgeisiol, ond mae un peth yn glir, rydyn ni eich angen chi, y sector gwirfoddol.
Dyma rai pethau rydyn ni eisiau dechrau arnynt yn y flwyddyn newydd:
- Aildanio sgwrs genedlaethol ynghylch rôl y sector gwirfoddol mewn cymorth o’r ysbyty i’r cartref.
- Cysylltu â chynrychiolwyr trydydd sector sy’n gweithio ar draws gofodau dylanwadu rhanbarthol a chenedlaethol.
- Nodi prosiectau i fwrw ymlaen â gwerthusiad prosiect gwirfoddoli Helplu Cymru.
- Gweithio gyda phartneriaid academaidd ar brosiect i werthuso cyfraniad rôl y sector gwirfoddol mewn cymorth atal mewn modd economaidd.
- Creu llyfrgell fywiog o astudiaethau achos sy’n arddangos rôl y sector gwirfoddol a’r gwerth y mae’n ei gyflwyno i’r system iechyd a gofal – cysylltwch â ni os hoffech chi gymryd rhan.
- Cefnogi lansiad y Cod Ymarfer diwygiedig ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector trwy ddatblygu arferion sy’n ymwneud â chyllid cynaliadwy mwy hirdymor yn y system iechyd a gofal.
DIOLCH
Wrth i ni ddechrau’r Flwyddyn Newydd, rydw i eisiau diolch i bawb sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli i gefnogi iechyd a lles yng Nghymru. Rwy’n falch o fod yn rhan o’r sector gwirfoddol ac i’ch cynrychioli chi a’r gwaith gwych rydych chi’n ei wneud yn fy rhyngweithiadau â phobl ar draws y system iechyd a gofal. Trwy’r prosiect iechyd a gofal cymdeithasol, rwy’n gobeithio y gallwn gynorthwyo’r sector i gael ei werthfawrogi a’i ddibynnu arno fel partneriaid cyfartal mewn iechyd a lles, ac ymgyrchu dros adnoddau digonol i’w alluogi i fodloni’r rôl hon yn yr hirdymor.
CYSYLLTWCH Â NI
Beth ydych chi’n gobeithio amdano ar gyfer iechyd a gofal yn 2025? Rhowch wybod i ni drwy e-bost i iechydagofal@wcva.cymru!