Mae Mary Roberts, Rheolwr Polisi a Rhanddeiliaid Cymru yn y Rheoleiddiwr Codi Arian, yn amlinellu rhai heriau ariannol y mae sefydliadau gwirfoddol yn eu hwynebu, a sut y gall egwyddorion rheoleiddio helpu’r rhai sy’n ystyried ymgyrch codi arian newydd.
Y DREFN ARIANNU ELUSENNOL YN ANSEFYDLOG
Yn hanesyddol, mae’r sector gwirfoddol yng Nghymru wedi bod yn ddibynnol iawn ar arian grant i ddarparu’r gwasanaethau hanfodol y mae’n eu darparu. Ond mae hyn yn newid. Hyd yn oed cyn i’r coronafeirws daro, roedd y sector yn profi gostyngiad mewn cyllid grant, ac roedd llawer o elusennau’n edrych ar ffynonellau incwm mwy amrywiol i lenwi’r bylchau. Wrth i ni ddod allan o’r pandemig, mae’r sector bellach yn wynebu gorfod ymgodymu ag argyfwng costau byw – a fydd yn effeithio ar y bobl y mae elusennau yn eu cefnogi a’u cyllidebau. Ni fu gwytnwch ariannol erioed yn bwysicach.
Mae’r ‘storm berffaith’ hon yn golygu bod llawer o sefydliadau’n addasu eu strategaethau cyllido ar gyflymder, yn edrych ar feysydd fel codi arian etifeddiaeth a lotri, ac yn ystyried a yw codi arian gan y cyhoedd yn iawn iddynt. Mae eraill, er eu bod yn awyddus i archwilio ffrydiau incwm newydd, yn gweld cymhlethdodau a chost bosibl y rhain yn frawychus.
Lle bynnag yr ydych chi ar eich taith codi arian, mae’n bwysig cofio bod rheoleiddio yno i gefnogi, nid rhwystro. Yn wir, mae rheoleiddio da yn sicrhau bod y sector yn gweithredu mewn ffordd sy’n gyfreithiol, yn agored, yn onest, ac yn barchus, ac mae’n hanfodol er mwyn diogelu’r cyhoedd ac enw da’r sector yn fwy cyffredinol.
BYDD SAFONAU CODI ARIAN YN EICH HELPU I GYCHWYN AR Y LLWYBR IAWN
Mae’r Cod Ymarfer Codi Arian (y cod) yn cynnwys y safonau sy’n berthnasol i godi arian a wneir gan yr holl sefydliadau elusennol a chodi arian trydydd parti yn y DU, ac mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Fel rheoleiddiwr annibynnol codi arian elusennol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, rydym yn gosod, cynnal a hyrwyddo safonau’r cod, mewn ymgynghoriad â’r cyhoedd, rhanddeiliaid codi arian a llywodraethau ledled y DU.
Nid llawlyfr cyfreithiol yw’r cod, ond mae’n cynnwys safonau sy’n adlewyrchu’r gyfraith. Mae sicrhau bod sefydliadau yn dilyn ac yn medru ymgysylltu â’r cod, ac yn cydymffurfio ag ef, yn hynod o bwysig. Dyna pam bod gennym lu o ganllawiau, yn ogystal â gwasanaeth cynghori am ddim i elusennau a’r cyhoedd ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt ar y cod a rheoleiddio codi arian. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda rheoleiddwyr a sefydliadau eraill i ddarparu hyfforddiant a digwyddiadau, ac i rannu canllawiau arfer gorau.
AWGRYMIADAU ALLWEDDOL
Felly p’un a ydych chi’n newydd i godi arian, yn edrych i ehangu eich galluoedd presennol, neu’n ystyried eich opsiynau yn unig, mae digon o gefnogaeth ar gael. Dyma rai awgrymiadau allweddol i’ch helpu:
Ymgyfarwyddo â’r Cod Ymarfer Codi Arian
- Yn sail i’r cod mae pedwar gwerth allweddol: cyfreithiol, agored, gonest a pharchus. Dylech gofio’r rhain bob amser wrth gynllunio eich ymgyrch codi arian.
- Rydym wedi cynhyrchu gweminar byr i’ch helpu i ddeall beth yw’r cod, beth mae’n ymdrin ag ef a sut i’w ddefnyddio.
Ymgysylltu â’ch ymddiriedolwyr
- Rhaid i’r ymddiriedolwyr gymryd cyfrifoldeb cyffredinol am eu gweithgareddau codi arian, gan weithredu’n rhesymol ac yn ofalus ym mhob mater sy’n gysylltiedig â chodi arian. Felly, mae’n hanfodol eich bod yn ymgysylltu â nhw yn gynnar os yw eich sefydliad yn ystyried strategaeth codi arian newydd.
- Mae gan ran un o’r cod fanylion pellach am gyfrifoldebau ymddiriedolwyr. Rydym hefyd wedi cynhyrchu gweminar i helpu ymddiriedolwyr elusennau i ddeall eu cyfrifoldebau.
Archwilio’r cymorth yr ydym yn ei gynnig
- Cysylltwch â’n gwasanaeth cyngor am ddim i ofyn cwestiynau ar y cod. Mae’r gwasanaeth yma yn agored i bawb.
- Ewch i’n gwefan i weld ein canllawiau ar ddulliau penodol o godi arian. Rydym yn sicrhau bod ein canllawiau yn adlewyrchu unrhyw ddulliau polisi gwahanol rhwng y Senedd a San Steffan.
Cael cyngor pellach
- Gofynnwch am gyngor priodol i gefnogi eich codi arian. Mae sefydliadau fel Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a’r Sefydliad Siartredig Codi Arian yn cynhyrchu canllawiau ac yn cynnal cyrsiau hyfforddi ar godi arian, wedi’u targedu at wahanol lefel o arbenigedd.
- Cofiwch, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r gyfraith. Os oes amheuaeth, gofynnwch am gyngor proffesiynol.
Rhannwch eich profiad
- Yn ddiweddar rydym wedi dechrau ar broses ddwy flynedd o adolygu a diweddaru’r cod gan lansio ‘galwad gyhoeddus am wybodaeth’. Rydym yn awyddus i glywed gan amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys elusennau llai a grwpiau cymunedol ar sut y gallwn wella’r cod. Os hoffech rannu eich barn, cysylltwch â ni.
Cofrestru gyda’r Rheoleiddiwr Codi Arian
- Drwy gofrestru gyda ni a dangos y Bathodyn Codi Arian rydych yn dangos eich ymrwymiad i safonau codi arian rhagorol. Mae ein hymchwil hefyd yn dangos bod pobl yn fwy tebygol o gefnogi elusen os ydynt wedi’u cofrestru gyda ni, a bydd ymddiriedolaethau a sefydliadau yn aml yn defnyddio ein cyfeirlyfr wrth wneud penderfyniadau cyllid.
- Gall elusennau sy’n gwario llai na £100,000 ar eu codi arian gofrestru gyda ni am gyfradd safonol o £50 y flwyddyn. Mae elusennau sy’n gwario £100,000 neu fwy bob blwyddyn ar eu codi arian yn talu ardoll wirfoddol sy’n cael ei hasesu ar raddfa lithro.
Gallwch gysylltu â mi ar mary.roberts@fundraisingregulator.org.uk os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Rheoleiddiwr Codi Arian.