Mae Natalie Zhivkova, Rheolwr Polisi a Mewnwelediadau CGGC, yn trafod yr heriau sy’n wynebu mudiadau gwirfoddol nad yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â nhw.
Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi ei ddrafft ar gyfer 2025/26, ‘Cyllideb ar gyfer Dyfodol mwy Disglair’. Mae’n rhyddhad mawr gweld cyllideb bositif sy’n cynnwys mwy o gyllid yn lle toriadau, ond gyda chyn lleied o gyfeiriadau at atal, mae un cwestiwn mawr yn parhau.
A fydd mudiadau gwirfoddol yn derbyn cyfran deg ac a fydd hynny’n ddigon i wrthbwyso’r argyfwng costau byw a’r cynnydd i ddod yng Nghyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr a’r Cyflog Byw Cenedlaethol?
GOBEITHIO EICH BOD YN CADW’N IAWN GYDA CHYHOEDDIAD Y GYLLIDEB HON
Mae’r diffyg manylion sydd ar gael ar lefel portffolio ar ddiwrnod cyhoeddi’r gyllideb bob amser yn her. Eleni, mae’r gwahaniaeth mawr rhwng swm y cyllid roedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei ddosbarthu a’r setliad llawer mwy a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU, yn gwneud y gwaith craffu cychwynnol yn arbennig o anodd.
Nodwn gynnydd cymedrol o £10 miliwn i’r maes Cyfiawnder Cymdeithasol a llawer mwy o gyllid i Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn ogystal â Chyllid a Llywodraeth Leol. Fodd bynnag, rydym hefyd yn poeni ein bod yn parhau i weld yr ymbellhad y llynedd o feddwl am yr hirdymor a gwariant ataliol yn naratif y gyllideb, serch y cynnydd sylweddol yng nghyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru. Mae hyn wedi ein gadael ni’n pendroni dros ba elfennau o’r gyllideb sydd wedi’u dylunio i sicrhau’r dyfodol mwy disglair yr addawyd i ni.
Wrth i ni aros i Ysgrifenyddion y Cabinet lunio eu cynlluniau gwariant, nawr yw’r amser perffaith i daflu goleuni ar gyflwr y sector gwirfoddol.
DYMA BLE ROEDDEN NI PAN GYHOEDDWYD Y GYLLIDEB
Gwnaethom ofyn i 100 o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru sut mae pethau wedi newid iddynt ers yr adeg hon y llynedd. Dyma’r hyn a ganfuom:
- Noda 78% o fudiadau fod mwy o alw am wasanaethau, ac nid yw 50% ohonynt wedi gallu darparu’r rhain ‘yn llawn’ neu ‘o gwbl’
- Mae 29% wedi lleihau nifer eu staff amser llawn, dywedodd 56% nad oes ganddynt ddigon o wirfoddolwyr i gefnogi eu gweithgareddau presennol
- Gwnaeth 69% o’r mudiadau gyfaddef eu bod yn defnyddio arian wrth gefn eu helusennau i gynnal eu gweithrediad. Dywedodd 38% wrthym os na fydd unrhyw beth yn newid yn eu sefyllfa ariannol, bydd yn rhaid iddynt ddechrau ystyried camau mawr, gan gynnwys cau, mewn rhyw chwe mis i flwyddyn
PAM YDYM NI YMA?
Mae cyni, Brexit, canlyniadau COVID-19, yr argyfwng costau byw ac argyfwng yr hinsawdd a natur yn rhan o nifer cynyddol o ffactorau allanol sy’n effeithio ar fudiadau gwirfoddol. Nid oes digon o gydnabyddiaeth wleidyddol wedi’i rhoi i’r effaith niweidiol y mae’r we gymhleth hon o heriau wedi’i chael ar y sector gwirfoddol dros amser. Gwelir hyn yn amlwg yn yr ymatebion i’n harolwg.
Wrth edrych yn ôl ar y 12 mis diwethaf, nododd mudiadau eu bod wedi derbyn llai o gyllid cyhoeddus (42% o’r rheini a atebodd yr arolwg), llai o gyllid gan ymddiriedolaethau a sefydliadau (46%) a llai o roddion gan y cyhoedd a’r sector preifat (36%).
Yn waeth na hynny, dywedodd 43% o’r mudiadau gwirfoddol sy’n derbyn cyllid cyhoeddus nad yw’r un o’r grantiau neu gontractau y maen nhw’n eu cyflawni yn ddigon i dalu gwir gost y gwasanaeth y maen nhw’n eu darparu. Nododd 48% nad oeddent wedi cael unrhyw gynnydd yn eu contractau yn y flwyddyn ddiwethaf a gwnaeth 61% gyfaddef eu bod yn gorfod defnyddio incwm eu helusennau i ychwanegu at gontractau cyhoeddus, serch derbyn cynnydd yn 2024.
CYFLE COLL (WEDI’I DDIYSTYRU)
Er siom ddirfawr i ni, nid yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw gyfeiriad at fesurau sydd â’r nod o liniaru effaith y cynnydd yng Nghyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr a’r Cyflog Byw Cenedlaethol ar fudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Rydym wedi bod yn arwain ymgyrch eang ar y mater ers i’r cynyddiadau gael eu cyhoeddi. Gwnaeth aelodau o Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig amlygu’r hepgoriad amlwg yn ystod y drafodaeth ar y gyllideb, ond ni chawsant unrhyw ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg i’w sylwadau.
Gwnaethom ofyn cwestiwn penagored i fudiadau ynghylch eu blaenoriaethau ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru. Y ddwy eitem fwyaf cyffredin ar eu rhestr o ddymuniadau oedd cyllid craidd amlflwyddyn ar gyfer y sector, a mwy o gyllid mewn contractau a grantiau cyhoeddus i’w helpu gyda’r cynnydd yng Nghyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr a’r Cyflog Byw Cenedlaethol. Fel y mae, nid yw’r gyllideb yn sicrhau’r un o’r pethau hyn.
Mae CGGC wedi rhyddhau datganiad swyddogol a byddwn yn parhau i roi pwysau ar benderfynwyr i ddyrannu swm teg o gyllid i’r sector gwirfoddol.
Dyma ein hymateb i gyllideb ddrafft hynod siomedig Llywodraeth Cymru, bydd gennym fwy ar ein hadwaith a’r hyn y byddwn yn dadlau amdano ar ran y sector gwirfoddol dros y dyddiau nesaf pic.twitter.com/q5k8oOf6gA
— WCVA | CGGC (@WCVACymru) December 11, 2024
BETH SYDD YN Y FANTOL?
Dywedodd 84% o’r mudiadau a ymatebodd i’n harolwg eu bod yn poeni ynghylch eu gallu i fforddio’r cynnydd yng Nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr, gyda 50% yn nodi eu bod yn ‘bryderus iawn’. Mynegodd 77% bryder ynghylch fforddio’r Cyflog Byw Cenedlaethol newydd.
Er mwyn ymdopi â’r cynyddiadau sylweddol hyn:
- mae 50% o fudiadau yn ystyried defnyddio mwy o arian wrth gefn yr elusen
- mae 40% yn ystyried peidio â chodi cyflogau i gyd-fynd â’r chwyddiant
- Efallai y bydd 34% yn lleihau nifer y staff amser llawn
- Efallai y bydd 26% yn lleihau nifer y staff rhan-amser
- Mae 24% yn ystyried lleihau’r gwasanaethau a ddarperir
- Mae 14% yn ystyried cau’r gwasanaeth
Mae’n amlwg na fydd llawer o fudiadau gwirfoddol yn gallu dod drwy’r storm hon heb gymorth ariannol priodol. Os daw hi i’r pen, a allwn ni fforddio gweld 14% o wasanaethau’r sector gwirfoddol yn cau’r flwyddyn nesaf?
OES GENNYCH CHI RYWBETH I’W RANNU?
Helpwch ni i barhau i bledio achos cryf dros y sector gwirfoddol. Rhannwch eich sylwadau gennym ni drwy anfon e-bost i polisi@wcva.cymru.