People at starting line for race

Ble mae llywodraethu’n dechrau a diwedd?

Cyhoeddwyd: 20/02/20 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Mair Rigby

Dyma flog Mair Rigby, Rheolwr Llywodraethu a Diogelu CGGC, ynghylch adnewyddu’r Cod Llywodraethu i Elusennau a ble mae llywodraethu da yn dechrau a diwedd.

Mae’r Cod Llywodraethu i Elusennau yn nodi ‘Mae llywodraethu da mewn elusennau yn hanfodol i’w llwyddiant. Mae’n galluogi ac yn cefnogi elusen i gydymffurfio â’r gyfraith a’r rheoliadau perthnasol. Mae hefyd yn hyrwyddo diwylliant lle mae popeth yn gweithio tuag at gyflawni gweledigaeth yr elusen.’

Beth mae ‘llywodraethu’ yn ei olygu felly?

Dyma rai dyfyniadau gan arbenigwyr ar lywodraethu mewn elusennau i chi feddwl amdanynt: 

‘y systemau a’r prosesau sy’n ymwneud â sicrhau cyfeiriad, effeithiolrwydd, goruchwyliaeth ac atebolrwydd cyffredinol mudiad’ Chris Cornforth, Athro Emeritws Llywodraethu a Rheoli Sefydliadol yn y Brifysgol Agored

‘y broses y mae corff llywodraethu’n ei dilyn i sicrhau bod mudiad yn cael ei redeg yn effeithiol ac yn briodol […] nid yw llywodraethu’n ymwneud o reidrwydd â gwneud; mae’n ymwneud â sicrhau bod pethau’n cael eu gwneud” Sandy Adirondack, ymgynghorydd y sector gwirfoddol a golygydd y Russell Cooke Voluntary Sector Legal Handbook

‘Mae llywodraethu’n ymwneud ag arweinyddiaeth a chyfeiriad. Mae’n ymwneud â sicrhau bod gan eich elusen weledigaeth glir a chyffredin o’i diben, yr hyn y mae’n anelu at ei gyflawni a sut, yn fras, y bydd yn mynd ati i wneud hyn’ Good Trustee Guide yr NCVO

Mae themâu cyffredin yn rhedeg trwy’r diffiniadau hyn: atebolrwydd, craffu, cyfeiriad, goruchwyliaeth, arweinyddiaeth, diben a sicrhau bod pethau’n cael eu gwneud.

Golyga hyn bod llywodraethu effeithiol yn dechrau a diwedd gyda’r ymddiriedolwyr, y bobl sy’n gyfrifol am ddarparu trosolwg a chyfeiriad a sicrhau bod elusen yn cydymffurfio’n gyfreithiol ac yn atebol am yr hyn y mae’n ei gwneud.

Mae ail egwyddor y Cod Llywodraethu i Elusennau, Arweinyddiaeth, yn gosod y disgwyliad y dylai pob elusen gael ei ‘harwain gan fwrdd effeithiol sy’n rhoi arweinyddiaeth strategol yn unol ag amcanion a gwerthoedd yr elusen.’

Felly, mae’n hanfodol bod ymddiriedolwyr yn llwyr ddeall eu rolau a’u cyfrifoldebau. Os ydych chi’n ymddiriedolwr, argymhellaf eich bod yn neilltuo amser i ddarllen canllawiau’r Comisiwn Elusennau, CC3: Yr Ymddiriedolwr Hanfodol, yn ogystal â’r Cod Llywodraethu i Elusennau.

Ond, mae’n bwysig sylweddoli na all yr ymddiriedolwyr wneud popeth ar eu pennau eu hunain! Nhw sy’n gyfrifol am lywodraethu eu helusen, ond mae llywodraethu effeithiol hefyd yn gofyn i bawb sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli i’r elusen gefnogi llywodraethu da a gweithio tuag at gyflawni amcanion yr elusen.

Felly sut gall yr ymddiriedolwyr, y staff a’r gwirfoddolwyr weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod elusen yn cael ei llywodraethu’n effeithiol?

Rwy’n siŵr y bydd gan bawb eu syniadau eu hunain, felly dyma ddechrau gyda rhai o’m syniadau i:

  • Dylai ymddiriedolwyr osod naws a diwylliant yr elusen a bod yn esiampl i bawb yn y mudiad, gan arddangos ei werthoedd ym mhopeth y maen nhw’n eu gwneud ac ym mhob penderfyniad a gaiff ei wneud ganddyn nhw. Fel y dywed y Cod Llywodraethu i Elusennau, ‘Mae’r naws y mae’r bwrdd yn ei gosod drwy ei arweinyddiaeth, ei ymddygiad, ei ddiwylliant a’i berfformiad cyffredinol yn hollbwysig i lwyddiant yr elusen’.
  • Dylid cael sianeli cyfathrebu eglur ac agored rhwng staff ac ymddiriedolwyr, a dylai’r staff roi gwybodaeth gywir i’r ymddiriedolwyr fel y gallant wneud penderfyniadau er budd pennaf yr elusen
  • Gall ymddiriedolwyr gymryd rhan mewn gwahanol agweddau ar yr elusen, fel eistedd ar bwyllgorau a gweithgorau, er enghraifft. Mae hon yn ffordd wych o gael dealltwriaeth drylwyr o’r gwahanol agweddau ar y mudiad a chwrdd â staff sy’n gweithio mewn rolau amrywiol
  • Gall ymddiriedolwyr gynyddu eu dealltwriaeth hefyd drwy fynychu gweithgareddau, fel digwyddiadau
  • Pan fydd ymddiriedolwyr hefyd yn wirfoddolwyr i’r elusen, er enghraifft, yn ei helpu i ddarparu gwasanaeth neu weithio mewn siop elusen, dylent fod yn eglur fod y rôl hon yn wahanol i’w rôl a’u cyfrifoldebau fel ymddiriedolwyr, er mwyn osgoi unrhyw ddryswch
  • Mae’n syniad da i ymddiriedolwyr a staff dreulio ychydig o amser gyda’i gilydd, efallai mewn diwrnod cwrdd i ffwrdd blynyddol i’r staff a’r bwrdd, neu fel rhan o ymweliadau a drefnir gan y Prif Weithredwr, efallai fel rhan o gyfnod sefydlu’r ymddiriedolwr yn ei rôl

Mae grŵp llywio’r Cod Llywodraethu i Elusennau wrthi’n ymgynghori ar adnewyddiad o’r Cod Llywodraethu i Elusennau. Beth yw eich barn chi? Rhowch wybod i ni! A ddylai’r Cod ddweud mwy am rôl yr ymddiriedolwyr o ran sicrhau llywodraethu effeithiol a sut ddylent weithio gyda staff a gwirfoddolwyr i gyflawni hyn? A ydych chi eisiau i ni wneud newidiadau bach ar unwaith yn 2020, neu ychwanegu’r rhain at ein map llwybr ar gyfer diwygiad mwy o faint yn 2023? Lleisiwch eich barn drwy lenwi’r ddogfen ymgynghori cyn 28 Chwefror 2020.