Beth yw’r rhwystrau i gynaliadwyedd ariannol?

Cyhoeddwyd: 11/11/19 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur:

Yn y blog hwn, mae Dewi Smith Rheolwr Cyllid Cynaliadwy WCVA, yn amlinellu’r materion a godwyd yn ein trafodaeth o amgylch y bwrdd ym mis Tachwedd y llynedd – ynghyd ag atebion ymarferol.

Mae data o Borth Data Trydydd Sector WCVA wedi dangos bod incwm oddi wrth y trydydd sector yng Nghymru wedi cynyddu rhwng 2011 a 2016. Er hynny, mae incwm fesul pen yn parhau i fod yn sylweddol isel o gymharu â rhannau eraill o’r DU.

Amcangyfrifir bod 32,200 o fudiadau gwirfoddol gweithredol yng Nghymru. Mae’r rhan fwyaf yn eithaf bychan o ran eu hincwm, a nifer cymharol fychan sydd â throsiant o fwy na £1 miliwn y flwyddyn.

Dolen berthnasol: Incwm o lai na £50,000 y flwyddyn? Dod yn aelod o WCVA am ddim!

Trefnodd WCVA y drafodaeth o amgylch y bwrdd ar gyllid cynaliadwy ym mis Tachwedd i geisio mynd i waelod y mater hwn.

Cawsom amrywiaeth o bobl o fudiadau gwirfoddol, Llywodraeth Cymru, cyllidwyr, llywodraeth leol, sefydliadau academaidd a sefydliadau elusennol i’w drin a’i drafod i geisio deall pam ein bod mewn trafferthion o gymharu â gweddill y DU.

Fe gyhoeddom adroddiad yr wythnos hon sy’n cefnogi ein darganfyddiadau – ond isod rhannaf ychydig o’r prif bwyntiau a gododd, yn cynnwys ffactorau mewnol ac allanol sy’n ein heffeithio ni gyd.

 

Rhwystrau mewnol

Amser i feddwl

Cododd hyn ei ben fwy nac un waith – nid oes gennym yr amser, na’r staff, i eistedd a chynllunio strategaeth gyllid. 250 ballu o swyddi ‘codi arian’ sydd yng Nghymru, o gronfa o 100,000 o roliau posib.

Os yr ydych yn meddwl am eich gwaith ar draws y sector, dwi’n siŵr y byddech yn gweld bod llawer ohono’n cynnwys ‘diffodd tannau’ – cyfres o ymdrin â phroblemau sy’n codi yn hytrach na meddwl am y dyfodol a datblygu ein gwasanaethau.

Mae angen i ni ymladd y ffordd hon o weithredu os ydym eisiau cystadlu am gyllid cynaliadwy ar lefel genedlaethol.

Hybu sgiliau

Mae llawer o bobl i weld yn ‘disgyn’ i roliau codi arian yn hytrach na cheisio amdanynt. Maent yn aml yn dechrau fel gwirfoddolwyr brwdfrydig sy’n dysgu’n wrth weithio.

Yn anffodus, golyga hyn yn amlach na pheidio nad ydynt cystal am ddelio â’r heriau y gall incwm elusennau eu creu.

Ac mae hyn yn mynd yr holl ffordd i lefel bwrdd. Darganfuwyd ymchwil Garfield Weston nad oes llawer o fyrddau yn cymryd rhan ar lefel strategol, er bod byrddau’n rhan o weithgaredd codi arian. Gall hyn olygu bod eu penderfyniadau yn deillio o gyfleoedd yn hytrach na strategaeth.

Gall hyfforddiant sy’n ymwneud â chodi arian – megis ysgrifennu ceisiadau proffesiynol a chreu strategaeth – helpu i engreinio’r broses yn eich meddyliau bob dydd.

Dangos effaith

Ni ni’n unig sy’n dioddef o’r mater hwn – mae nifer o ddiwydiannau yn cael trafferth wrth ddangos eu heffaith.

Ond mae gan nifer o gyllidwyr ofynion adrodd sy’n llyncu cymaint o’u hamser, fel na all mudiadau llai eu maint hyd yn oed eu hystyried (gwelwch ‘Amser i Feddwl’).

Dylai cyfuniad o systemau adrodd haws a hyfforddiant mewnol helpu mudiadau i ddangos gwerth eu gwaith.

Dolenni perthnasol: Ydych yn meddwl gwella eich sgiliau a chynyddu capasiti? Ewch i weld rhaglen hyfforddiant 2019-20 WCVA.

 

Rhwystrau allanol

Comisiynu

‘…the funding environment has not favoured SMCs (small and medium sized charities) …they receive a much smaller proportion of local government funding (16 %) than larger charities (84 %) …’
(t2, The Value of Small, Institute for Voluntary Action Research, 2018)

Mae comisiynu sector cyhoeddus yn ehangu ac yn ffafrio elusennau mwy eu maint sydd â chapasiti mwy i gyflawni ar draws y bwrdd.

Hefyd, pan mae cyfleoedd i elusennau gydweithio ar gynigion, mae mudiadau llai eu maint yn fwy gwyliadwrus o gael eu hecsbloitio gan bartneriaid mwy eu maint ac felly’n eu hosgoi.

Uchelgais

Mae Cymru’n wlad brydferth, ond mae hi hefyd yn fychan iawn. Mae hyn yn gweithio ar rai lefelau. Mae’n gwneud cyfathrebu ychydig yn haws, nid oes rhaid rhannu’r neges mor eang, mae pawb yn adnabod ei gilydd … ond mae weithiau hefyd yn cyfyngu ein golwg ar y darlun ehangach.

Pan mae’n dod i roi cynigion, mae mudiadau llai eu maint yn aml yn cael eu gwasgu gan fudiadau mwy ar ran eu maint gyda’r capasiti i greu strategaeth.

Mae’n ymddangos bod crisis cydweithio bychan yn y trydydd sector yng Nghymru – ac mae angen gweithio i sicrhau y gall mudiadau llai eu maint fod yn fwy cystadleuol yn yr amgylchedd presennol.

….Brexit

Rwy’n gwybod eich bod wedi hen flino arno ond mae’n mynd i effeithio’n fawr ar y ffordd yr ydym ni oll yn gweithio. Y peth gwaethaf yw, nid ydym hyd yn oed yn gwybod sut.

Mae cwestiynau am sut effaith gall Brexit gael arnom ni gyd. Mae’r diffyg eglurder ynglŷn â chronfeydd olynol a’r dyfodol yn gyffredinol yn gwneud y tirlun cyllid ychydig yn fwy twyllodrus.

Mae WCVA yn derbyn cyllid gan Gronfa Bontio’r UE i geisio cael gwell dealltwriaeth o’r effaith debygol ar wasanaethau cymunedol. Rydym hefyd yn rhan o Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit.

Dolenni perthnasol: Ydy eich mudiad chi wedi paratoi ar gyfer Brexit? Cymrwch olwg ar y canllaw Paratoi at Brexit gan Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit.

Meysydd potensial ar gyfer twf

Er hynny, nid yw hyn i gyd yn ddigalon – mae data’n argymell amryw o ardaloedd twf â photensial i’r sector hefyd. Dyma ychydig o syniadau i arallgyfeirio eich ffrydiau incwm i fod y fwy gwydn.

Adeiladu perthnasau

Ymddiriedolaethau a Sefydliadau megis cyllid ‘perthynol’ – gweithio mewn partneriaeth gyda phobl y maent yn ei hariannu i gyflawni effaith gyda’i gilydd. Os ydych yn gwneud cynnigion am gyllid, meddyliwch ynghylch sut mae eich prosiect yn cydfynd â chenhadaeth eich cyllidwr – cofiwch eu bod hwy hefyd yn elusennau!

Mae cyllid Llywodraethol yn cyfrif am 46% o incwm y sector – mae angen i ni gynnwys dull fwy cydgynhyrchiol i gynnwys cymunedau, ac anghenion ariannu’r dyfodol i annog y dull hwn.

Etifeddiaeth codi arian

Fel amlygodd Rob Cope yn ei flog diweddar ar gyfer WCVA, mae gan etifeddiaeth codi arian potensial heb ei gyffwrdd yng Nghymru. Mae angen i ni fod yn ddewrach i ddechrau trafod ewyllysiau, a ystyrir yn bwnc anodd.

Mae mwy o atebion, ynghyd â mwy o fanylion ar y pwyntiau uchod a rhai deilliannau allweddol wedi eu rhannu i ni anelu tuag atynt yn ein hadroddiad newydd, ‘Cyllid Cynaliadwy i’r Trydydd Sector’ sydd ar gael ar wefan WCVA nawr.