Dau ffrind newydd yn cyfarfod ar y stryd ac yn taro penelinoedd fel cyfarchiad

Beth yw yswiriant credyd masnach a pham mae’n bwysig?

Cyhoeddwyd: 19/11/24 | Categorïau: Ar gyfer aelodau, Awdur: Rob Farquharson

Yma, mae Rob Farquharson o un o’n Cyflenwyr Dibynadwy, y Thomas Carroll Group, yn egluro i aelodau CGGC sut gallai yswiriant credyd masnach helpu i nid yn unig ddiogelu eich incwm, ond i agor drysau eraill hefyd.

I fudiadau gwirfoddol, mae sefydlogrwydd ariannol yn golygu mwy na dim ond rheoli treuliau bob dydd; mae’n ymwneud â sicrhau y gall adnoddau gael eu buddsoddi’n uniongyrchol i mewn i’r bobl a’r cymunedau rydych chi’n eu gwasanaethu.

Mae yswiriant credyd masnach yn diogelu eich mudiad rhag colled ariannol pan na all cleientiaid neu bartneriaid dalu am wasanaethau. I fudiadau gwirfoddol sy’n dibynnu ar ffrydiau incwm amrywiol, mae cynnal llif arian yn hanfodol ac mae yswiriant credyd masnach yn rhoi tawelwch meddwl o wybod os bydd taliadau yn hwyr neu heb eu talu, bydd iechyd ariannol y mudiad yn parhau i fod yn ddiogel.

Y tu hwnt i hynny, mae’r math hwn o yswiriant yn cyflwyno cyfleoedd cyllido newydd ac yn galluogi partneriaethau cryfach â busnesau a chymunedau.

Rydym wedi datblygu papur gwyn (Saesneg yn unig) sy’n nodi sut mae yswiriant credyd masnach yn grymuso mudiadau i fanteisio ar gyfleoedd a fyddai’n ormod o risg fel arall, gan ddiogelu’r llif arian a chryfhau cydberthnasau ar hyd y ffordd.

BETH YW’R PRIF FUDDION?

  • Gydag yswiriant credyd masnach, rydych yn cael eich diogelu rhag effaith ariannol anfonebau heb eu talu. Mae hyn yn caniatáu i chi ganolbwyntio ar dyfu eich mudiad, gan wybod bod gennych rwyd achub os yw cleient yn wynebu trafferthion ariannol.
  • Mae cynnig telerau credyd a gefnogir gan yswiriant yn dangos i gleientiaid eich bod yn ymrwymedig i’w hanghenion heb roi eich arian mewn perygl. Mae hyn yn adeiladu ymddiriedaeth ac yn cefnogi partneriaethau hirdymor.
  • Mae symiau derbyniadwy wedi’u hyswirio yn apelio i fenthycwyr. Gydag yswiriant credyd masnach, gall eich mudiad fod yn gymwys i gael opsiynau cyllido gwell, a fydd yn eich helpu i gyllido mentrau newydd a chefnogi cynlluniau ehangu.
  • Mae yswiriant credyd masnach yn rhoi gwybodaeth werthfawr am y farchnad. Mae hyn yn eich helpu i werthuso a yw cleient yn deilwng i gael credyd, gwneud penderfyniadau gwybodus, ac i adnabod cyfleoedd addawol yn hyderus.
  • Mae yswiriant credyd masnach yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiectau mwy o faint neu ehangu i feysydd newydd heb gymryd risgiau gormodol. Gallwch fanteisio ar gyfleoedd i dyfu gan wybod bod gan eich busnes rwyd achub ariannol.

RHAGOR O WYBODAETH

Yn Thomas Carroll (gwefan Saesneg yn unig), rydym yn credu mewn grymuso mudiadau gwirfoddol ar bob cam. Fel cwmni sy’n eiddo i gyflogeion, mae gennym fudd personol yn llwyddiant ein cleientiaid ac rydym yn ymrwymedig i’ch helpu chi i ddiogelu eich cenhadaeth.

Mae ein papur gwyn wedi’i ddylunio i roi arweiniad syml ar sut gall yswiriant credyd masnach gefnogi eich nodau, fel y gallwch barhau i ganolbwyntio ar y peth hollbwysig: gwneud gwahaniaeth.

Darllenwch ein papur gwyn. (Saesneg yn unig)